Pwy all wneud cais
Sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth
Byddwn ond yn ariannu prosiectau lle mae partneriaeth o sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio a chyflawni prosiect.
Gyda'i gilydd, bydd gan eich partneriaeth yr arbenigedd a phrofiad cywir i baratoi a chefnogi pobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys eu helpu i:
ddatblygu hyder a sgiliau emosiynol
ennill profiad gwaith
fynd ar leoliadau gwaith
Gall sefydliadau perthnasol gynnwys y rheiny sy’n arbenigo mewn:
cefnogi pobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig
lleoliadau gwaith cyflogaeth
hyfforddiant a datblygu sgiliau. Gallai hyn gynnwys cymwysterau ffurfiol a chefnogaeth i ddatblygu eu hyder a sgiliau emosiynol
cyflogwyr sy'n cynnig swyddi gwyrdd
Byddwn hefyd yn chwilio am sefydliadau sy'n:
meithrin cysylltiadau da gyda'r gymuned gyda gwasanaethau a chyflogwyr eraill
gweithio yn yr economi werdd ac y mae ganddynt wybodaeth arbenigol
yn gallu ymgymryd ag ymchwil a gwerthuso eich prosiect
profiad o farchnata, cyfathrebu, llunio polisïau a dylanwadu
darparu gwasanaethau arbenigol a fyddai'n ategu neu gefnogi eich prosiect fel gwasanaethau iechyd meddwl, tai a gwasanaethau prawf
Croesewir sefydliadau partner o bob sector a gallant fod yn sefydliadau sy'n gweithio'n lleol, yn rhanbarthol neu ledled Cymru.
Eich sefydliad arweiniol
Bydd angen i chi gael un sefydliad arweiniol sy'n cyflwyno'r cais ar ran y bartneriaeth. Rhaid iddynt fod wedi eu lleoli yn y Deyrnas Unedig ac yn:
elusen gofrestredig
sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
sefydliad corfforedig elusennol (CIO)
cymdeithas gydweithredol (os oes ganddi gymal nid-er-elw)
cwmni cyfyngedig trwy warant (os oes ganddo gymal nid-er-elw) cwmni buddiannau cymunedol (CIC) cymdeithas budd cymunedol
Os byddwn yn penderfynu ariannu eich prosiect, bydd y sefydliad arweiniol yn:
brif gyswllt i ni
sicrhau bod y prosiect a'i bartneriaid yn bodloni ein telerau ac amodau grant
darparu diweddariadau cynnydd
gweithio gyda ni ar unrhyw faterion yn ymwneud â'r prosiect
derbyn taliad ar ran y bartneriaeth
Mae angen o leiaf 3 aelod o'r bwrdd neu'r pwyllgor sy'n 18 oed neu'n hŷn ac nad ydynt yn gysylltiedig.
Gall hyn olygu:
perthyn trwy briodas
mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
yn perthyn trwy bartner hirdymor
yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad
yn perthyn trwy waed
Rhaid i bob cwmni sy'n gwneud cais gael o leiaf dri chyfarwyddwr nad ydynt yn gysylltiedig yn unrhyw un o'r ffyrdd hyn. Mae hyn yn berthnasol i gwmnïau sydd hefyd wedi'u cofrestru fel elusennau.
Cytundeb partneriaeth
Rydym yn gofyn am gytundebau partneriaeth gan y rhai a fydd yn helpu i reoli'r prosiect neu'n defnyddio ein grant i gyflawni'r prosiect.
Gallwch ddefnyddio ein templed cytundeb partneriaeth (PDF, 224 KB).
Rhaid i chi hefyd ddweud wrthym am sefydliadau eraill a allai fod yn cymryd rhan mewn ffyrdd eraill fel sefydliadau y gallwch eu cyfeirio atynt neu dderbyn atgyfeiriadau wrthynt.
Pwy na all wneud cais
Ni allwn dderbyn ceisiadau pan fo'r prif ymgeisydd yn:
unigolyn neu unig fasnachwr
grŵp sy'n gwneud elw
gwneud cais ar ran sefydliad arall
sefydliad nad sydd wedi cael ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig