Yr hyn rydym eisiau ei ariannu
Gallwn ariannu:
prosiectau a fydd yn rhedeg am tua 3 blynedd
rhan o'ch prosiect neu'r prosiect yn llawn
Rydym yn croesawu amrywiaeth o geisiadau a all amrywio o ran y nifer o bobl ifanc i'w cefnogi a'r swm y gofynnir amdano.
Beth mae'n rhaid i brosiectau ei wneud
Rhaid i bob prosiect:
helpu pobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig yng Nghaerdydd i gael ffyrdd mewn i yrfaoedd gwyrdd. Gallai hyn gynnwys datblygu sgiliau, profiad gwaith gwirfoddol ac am dâl, a chyflogaeth tymor hirach
cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o yrfaoedd gwyrdd
sicrhau bod cyflogwyr wedi'u paratoi ar gyfer cefnogi pobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig
cynllunio i rannu eich dysgu a chyflawniadau i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi ac ymarfer
casglu data ar gyfer gwerthusiad rhaglen (byddwn yn darparu canllaw pan fydd angen gwneud hyn)
rhaid iddynt fod â'r uchelgais i weld rhai o'r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi yn symud ymlaen i gyflogaeth â thâl (yn ogystal â helpu i ddatblygu eu sgiliau a'u profiad)
Rydyn ni'n galw'r rhain yn 'ddeilliannau' ariannu, neu'r newidiadau rydyn ni am i'r prosiectau rydyn ni'n eu hariannu eu gwneud.
Darllenwch ein canllawiau ar sut i olrhain cynnydd eich prosiect i gyrraedd deiliannau ariannu.
Prosiectau sy'n cefnogi grwpiau penodol o bobl ifanc
Rhaid i'r prosiectau a ariennir:
weithio gyda phobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig yng Nghaerdydd Dylent fod yn rhan o helpu gyda dylunio, cyflawni a gwerthuso'r prosiect
ymrwymo i gydraddoldeb rhywedd a dod o hyd i ffyrdd rhagweithiol o annog menywod i gymryd rhan. Dylai eich prosiect anelu tuag at fod tua hanner y bobl rydych yn eu cefnogi yn fenywod
canolbwyntio ar fod o fudd i bobl sy'n byw yng Nghaerdydd
fod ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed. Gall helpu'r rhai sydd o dan 16 mlwydd oed fod yn rhan o'ch prosiect ond ni ddylai hyn fod yn ffocws
Prosiectau sy'n cynnwys pobl ifanc sydd bellaf o'r farchnad lafur
Mae hyn yn golygu cefnogi pobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau lluosog i gyflogaeth, fel:
iechyd meddwl neu gorfforol isel
hunan-barch a hyder isel
perfformiad gwael mewn addysg
camddefnyddio sylweddau
digartrefedd
cofnodion troseddol
profiad o drawma plentyndod
y rhai sydd wedi profi gofal awdurdod lleol
Nid yw'r grant hwn yn unig i gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Ond rydym yn disgwyl i ymgeiswyr adnabod a gweithio gyda'r rhai sydd fwyaf angen cefnogaeth. Gall pobl ifanc fod wedi cael cymorth gan wasanaethau eraill o'r blaen.
Rydym yn deall y bydd darparu cymorth ychwanegol yn gofyn am fwy o adnoddau a bydd yn golygu gweithio gyda llai o bobl ifanc.
Prosiectau sy'n ategu gweithgareddau a gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol
Rydym yn gwybod fod gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill yn bodoli i bobl ifanc ledled Cymru. Rhaid i'ch prosiect ddangos dealltwriaeth gref o sut rydych chi'n ategu'r hyn sydd eisoes ar gael ac yn llenwi bwlch.
Fel rhan o hyn, rydym yn disgwyl y byddwch chi'n adeiladu perthnasoedd i hwyluso atgyfeiriadau i ac o wasanaethau eraill. Mae enghreifftiau o wasanaethau eraill yn cynnwys:
cyngor gyrfaoedd
gwasanaethau lleoliad gwaith eraill
darparwyr addysg
gwasanaethau cymorth eraill i bobl ifanc
canolfannau gwaith
Prosiectau yng Nghaerdydd
Byddwn yn edrych i gefnogi un prosiect partneriaeth a fydd yn cefnogi pobl ifanc yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.