Sut i wneud cais
Yn ystod Haf 2026, byddwn yn cynnal cyfarfod i ddod â sefydliadau sydd â diddordeb at ei gilydd i rwydweithio. Yna byddwn yn cynnal gweithdai i ddatblygu partneriaethau a chefnogi'r gwaith o ddatblygu ceisiadau at y rhaglen,
Y broses ymgeisio
Ar ôl y cyfarfod rhwydweithio hwn, byddwch yn cael eich tywys drwy'r broses ymgeisio. Mae hyn yn cynnwys 2 gam:
Datblygu eich syniad prosiect – gwneud cais am rhwng £300 a £25,000 i ddatblygu eich syniad prosiect
Cyflawni eich prosiect – os cewch grant datblygu, yna gallwch wneud cais am rhwng £100,000 a £1,800,000 i gyflawni'ch prosiect
Cysylltu â ni
I wneud cais am arian, cysylltwch â ni:
ffoniwch ar 0300 123 0735 (mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Anfonwch e-bost at sustainablestepswales@tnlcommunityfund.org.uk
Bydd swyddog ariannu yn cymryd eich manylion ac yn dechrau'r broses ymgeisio gyda chi.
Dyddiadau allweddol a dyddiadau cau
Grant datblygu
Gallwch wneud cais am grant i ddatblygu eich syniad prosiect rhwng dydd Sadwrn 1 Awst 2026 a dydd Sadwrn 31 Hydref 2026.
Dylech glywed penderfyniad am y cais hwn erbyn diwedd mis Tachwedd 2026.
Grant prosiect
Os ydych chi'n derbyn grant datblygu, fe'ch gwahoddir i wneud cais am grant prosiect. Gallwch wneud cais rhwng dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026 a dydd Sul 28 Chwefror 2027.
Dylech glywed penderfyniad am y cais hwn erbyn diwedd mis Mawrth 2027.