Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Pwy all ymgeisio am arian

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu grantiau ledled y Deyrnas Unedig gyfan, gan gynnwys y pedair gwlad: Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

I ymgeisio a chael eich ystyried, mae angen i chi fod yn grŵp neu sefydliad cyfansoddedig. Mae hyn yn golygu bod angen i chi fod â chyfansoddiad ysgrifenedig (neu ddogfen lywodraethu) sy’n nodi’r rheolau ynghylch sut mae eich sefydliad yn cael ei redeg - mae hyn yn cael ei adnabod fel bod yn ‘gyfansoddedig’.

Pa fathau o sefydliadau all ymgeisio?

Fel arfer, rydym yn gallu derbyn ceisiadau gan:

fudiadau gwirfoddol neu gymunedol cyfansoddedig

  • grwpiau neu glybiau cyfansoddedig
  • elusennau cofrestredig
  • cwmnïau nid er elw neu Gwmnïau Budd Cymunedol (CIC)
  • cyrff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymunedol)

Ond mi all hyn fod yn wahanol, yn ddibynnol ar ba un o’n rhaglenni ariannu rydych yn ymgeisio amdani.

Y mathau o sefydliadau mewn rhanbarthau gwahanol

Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan wahanol fathau o sefydliadau mewn gwahanol ranbarthau o’r Deyrnas Unedig. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:

  • Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO) yng Nghymru a Lloegr
  • Sefydliadau Corfforedig Elusennol Albanaidd (SCIO) yn yr Alban
  • Cynghorau plwyf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Sefydliadau Crefyddol ac Ysgolion

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n dod â phobl ynghyd, yn gwella mannau lleol, neu'n darparu cefnogaeth i drigolion – waeth beth fo'u cefndir neu eu credoau.

Byddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau crefyddol ac ysgolion os yw'r prosiect arfaethedig:

  • o fudd i’r gymuned ehangach, nid i gynulleidfa eich crefydd na'r disgyblion, y staff na'r rhieni yn eich ysgol
  • nad yw'n cynnwys unrhyw gynnwys crefyddol

Enghreifftiau o brosiectau a fyddai’n bodloni’r rheol hon:

  • gardd gymunedol a grëwyd gan ysgol ffydd y gall trigolion lleol ei defnyddio a helpu i'w chynnal – nid disgyblion a rhieni yn unig
  • canolfan ffydd sy'n rhedeg clwb cinio wythnosol am ddim sydd yn agored i unrhyw un yn y gymuned
  • lle addoli sy'n cynnal ymgyrch rhoi gwaed

Sicrhewch eich bod yn glir ynghylch pwy yn eich cymuned fydd yn cael budd o’r prosiect yn eich cais.

Pwy na allwn dderbyn ceisiadau ganddynt?

Fel arfer, ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • cwmnïau cyfyngedig trwy gyfranddaliadau
  • sefydliadau o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig
  • un sefydliad yn ymgeisio ar ran un arall

Ond mi all hyn fod yn wahanol yn ddibynnol ar ba un o’n rhaglenni rydych yn ymgeisio amdani.

Os nad ydych yn siŵr os gallwch ymgeisio

Cysylltwch â ni