Beth yw Ymgymeriad mewn Trafferthion?
Beth yw ystyr ‘Ymgymeriad mewn Trafferthion’?
Pan fyddwch yn ymgeisio am grant, rydym angen gwirio a yw eich sefydliad wedi ei nodi fel ‘ymgymeriad mewn trafferthion’. Mae hwn yn derm cyfreithiol mewn rheolau rheoli cymhorthdal. Mae’n helpu i benderfynu os yw cwmni neu sefydliad yn ddigon sefydlog yn ariannol i dderbyn arian cyhoeddus.
Yn syml, gall sefydliad gael ei ystyried fel un mewn trafferthion os:
- oes ganddo broblemau ariannol difrifol, fel colledion mawr
- yw’n fethdalwr neu’n agos i fod yn fethdalwr
- yw wedi cymryd cymorth achub neu gymorth ailstrwythuro yn y gorffennol ac nad ydi wedi ei ad-dalu hyd yma
- oes ganddo ddyled uchel iawn ac nad yw’n gallu talu’r taliadau llog
Nid yw busnesau bach sy’n newydd (iau na thair blynedd oed) yn cael eu heffeithio gan y rheol hon fel arfer.
Nid oes angen i chi asesu hyn eich hunain. Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi yn ystod y broses ymgeisio i’n helpu ni i wirio a yw’r rheol hon yn berthnasol i chi.
Diffiniad cyfreithiol
Gellir gweld y prawf ‘Ymgymeriad mewn Trafferthion' yn Erthygl 2 (18) o'r Rheoliad Eithrio Bloc Cyffredinol sy’n darllen:
mae ‘ymgymeriad mewn trafferthion' yn golygu sefydliad lle mae o leiaf un o'r amgylchiadau canlynol yn digwydd:
(a) Yn achos cwmni atebolrwydd cyfyngedig (ac eithrio busnes bach a chanolig sydd wedi bodoli ers llai na thair blynedd neu, at ddibenion cymhwysedd i gael cymorth risg arian, busnes bach a chanolig o fewn 7 mlynedd i'w werthiant masnachol cyntaf sy'n gymwys ar gyfer buddsoddiadau risg arian yn dilyn diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfranddaliadau cyfalaf tanysgrifiedig wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. Mae hyn yn wir pan fydd didynnu colledion cronedig o gronfeydd wrth gefn (a'r holl elfennau eraill a ystyrir yn gyffredinol fel rhan o gronfeydd y cwmni ei hun) yn arwain at swm cronnus negyddol sy'n fwy na hanner y cyfranddaliadau cyfalaf tanysgrifiedig. At ddibenion y ddarpariaeth hon, mae ‘cwmni atebolrwydd cyfyngedig’ yn cyfeirio’n benodol at y mathau o gwmni a grybwyllir yn Atodiad I o Gyfarwyddeb 2013/34/EU (4) ac mae ‘cyfranddaliadau cyfalaf’ yn cynnwys, lle bo’n berthnasol, unrhyw gyfranddaliadau premiwm.
(b) Yn achos cwmni lle mae gan o leiaf rai aelodau atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni (ac eithrio busnes bach a chanolig sydd wedi bodoli ers llai na thair blynedd neu, at ddibenion cymhwysedd i gael cymorth risg arian, busnes bach a chanolig o fewn 7 mlynedd o'i werthiant masnachol cyntaf sy'n gymwys ar gyfer buddsoddiadau risg arian yn dilyn diwydrwydd dyladwy gan y cyfryngwr ariannol a ddewiswyd), lle mae mwy na hanner ei gyfalaf fel y dangosir yng nghyfrifon y cwmni wedi diflannu o ganlyniad i golledion cronedig. At ddibenion y ddarpariaeth hon, mae ‘cwmni lle mae gan rai aelodau o leiaf atebolrwydd diderfyn am ddyled y cwmni’ yn cyfeirio’n benodol at y mathau o gwmni a grybwyllir yn Atodiad II o Gyfarwyddeb 2013/34 / EU.
(c) Pan fo'r ymgymeriad yn ddarostyngedig i achos ansolfedd ar y cyd neu'n cyflawni'r meini prawf o dan ei gyfraith ddomestig ar gyfer cael ei roi mewn achos ansolfedd ar y cyd ar gais ei gredydwyr.
(d) Pan fo'r ymgymeriad wedi derbyn cymorth achub ac nad yw eto wedi ad-dalu'r benthyciad neu wedi terfynu'r warant, neu wedi derbyn cymorth ailstrwythuro ac yn dal i fod yn destun cynllun ailstrwythuro.
(e) Yn achos ymgymeriad nad yw'n fusnes bach a chanolig, lle, am y ddwy flynedd ddiwethaf:
- (1) mae cymhareb dyled llyfr i ecwiti yr ymgymeriad wedi bod yn fwy na 7,5; a
- (2) mae cymhareb sylw llog EBITDA yr ymgymeriad wedi bod yn is na 1,0