Faint o arian grant rydym yn ei gynnig ac am ba mor hir?
Y ddwy lefel o arian grant rydym yn eu cynnig
Rydym yn cynnig gwahanol symiau o arian grant yn dibynnu ar yr hyn rydych chi eisiau ei wneud. Rydym yn rhannu ein hariannu yn ddwy lefel:
- arian grant o dan £20,000: ar gyfer symiau llai o arian a sefydliadau llai
- arian grant dros £20,0001: ar gyfer symiau mwy o arian a sefydliadau mwy
Fel arfer, y mwyaf o arian rydych chi’n gwneud cais amdano, yr hiraf y mae’n ei chymryd i chi baratoi eich cais ac i ni ei asesu. Ond fe gewch syniad gwell o ba mor hir mae’n debygol o gymryd trwy edrych ar y gwahanol ffyrdd rydym yn cynnig arian grant trwy edrych ar ein rhaglenni.
Am ba mor hir y gallwn eich ariannu
Os ydych yn cael grant o lai nag £20,001, bydd gennych tua 12 mis i orffen eich prosiect o’r dyddiad rydych yn dweud wrthym y bydd yn dechrau.
Gall prosiectau sy’n costio mwy nag £20,001 redeg am rhwng un a phum mlynedd fel rheol, er bod hyn yn amrywio yn dibynnu ar ba raglen rydych chi’n gwneud cais iddi.