Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ein cyllid amgylcheddol

Rhaglenni cyllido amgylcheddol

Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni

Mae’r Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni yn cefnogi partneriaethau beiddgar sy’n cynnwys mwy o bobl mewn gweithredu hinsawdd ac yn creu newid parhaol.

Camau Cynaliadwy Cymru - Grantiau Egin

Mae’r cyllid hwn yn helpu grwpiau cymunedol yng Nghymru i weithredu ar newid hinsawdd, byw’n fwy cynaliadwy, neu gychwyn syniadau newydd.

Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ynni a Hinsawdd

Nod y cyllid hwn yw helpu cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Natur a Hinsawdd

Mae’r cyllid hwn yn ceisio helpu cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rydyn ni’n chwilio am brosiectau sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng natur a hinsawdd.

Cyllid amgylcheddol blaenorol

Cronfa Gweithredu Hinsawdd

Mae ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd yn ymrwymiad £100 miliwn dros 10 mlynedd i helpu lleihau ôl troed carbon cymunedau ac ysbrydoli gweithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned. Mae'r cyllid hwn yn dangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Hyd yn hyn rydym wedi dyfarnu £78.6m i 550 o brosiectau i alluogi pobl ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd yn eu cymunedau lleol. Mae hyn yn cynnwys dros 110 o brosiectau partneriaeth a phrosiectau a dyfarnwyd drwy'r rhaglen Gyda'n Gilydd ar gyfer Ein Planed.

Gyda'n Gilydd ar gyfer Ein Planed

Lansiwyd y rhaglen Gyda’n Gilydd ar gyfer Ein Planed yn 2021 i ymgysylltu pobl a chymunedau â COP26 ac ysbrydoli gweithredu hinsawdd cadarnhaol. Dyfarnwyd dros £4.7 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol i dros 530 o brosiectau cymunedol ledled y DU i gefnogi cymunedau i weithredu yn erbyn newid hinsawdd. Mae’r gronfa, a oedd yn cynnig grantiau hyd at £10,000, bellach wedi cau.

Camau Cynaliadwy Cymru

Mae gan Gamau Cynaliadwy Cymru £16 miliwn o gyllid o’r Cynllun Cyfrifon Segur. Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, bydd y rhaglen yn cefnogi cymunedau a phobl ifanc leol i gyfrannu at ddyfodol llewyrchus, carbon isel i Gymru.

Mae gan y rhaglen ddwy rownd. Mae rownd un yn ceisio hybu ymrwymiad Cymru i ddyfodol cynaliadwy trwy gyflymu gweithredu a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae rownd un wedi cynnig tri chyfle i ymgeisio am gyllid:

  1. Dyfarnwyd grant £2,251,045 dros saith mlynedd i Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru ym mis Mehefin 2022. O 2023, byddan nhw’n darparu gwasanaeth mentora Cymru-gyfan i helpu o leiaf 345 o grwpiau cymunedol i weithredu yn erbyn newid hinsawdd. Bydd y gwasanaeth yn cefnogi’r rhai hynny nad ydynt fel arfer ynghlwm â gweithredu hinsawdd, gan gyrraedd amrywiaeth o gymunedau ledled Cymru.
  2. Mae asesiadau wrthi’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ar gyfer grantiau hyd at £350,000. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth 2023. Mae’r grantiau i sefydliadau sydd â chynlluniau uchelgeisiol yn barod. Dysgwch ragor ar ein tudalen Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Gweithredu
  3. Y cyfle nesaf i ymgeisio am grantiau gyda’r cynllun hwn fydd i gymunedau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r gwasanaeth mentora. Bydd y cynllun sy’n cynnig grantiau hyd at £15,000 ar agor i geisiadau o gymunedau sydd wedi cael eu mentora, i roi eu cynlluniau ar waith. Bydd hwn yn agor yn ystod 2023.

Ychwanegiadau Gweithredu Hinsawdd

Cynhaliodd gyfarwyddiaeth Cymru'r rhaglen beilot Ychwanegiadau Gweithredu Hinsawdd gyda’r nod o ysbrydoli gweithredu amgylcheddol ymysg amrywiaeth o grwpiau cymunedol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Gofynnodd y peilot i grwpiau ac elusennau a ariennir yng Nghymru i roi amser i ddatblygu cynlluniau i ymateb i newid hinsawdd a gwnaethom gynnig ychwanegiadau i’w cyllid cyfredol i wneud hynny. Gwnaeth rai grwpiau arbed llawer o ynni ac arian, gwellodd rai ohonynt eu hamgylchedd lleol tra bod eraill wedi nodi’r buddion ar gyfer eu hiechyd a lles.