Grantiau Atodol Gweithredu ar Newid Hinsawdd
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hon yn archwilio grantiau ychwanegol a roddwyd i grwpiau cymunedol nad ydynt fel arfer yn gysylltiedig â gweithgarwch amgylcheddol, gan eu hannog i wneud gwelliannau amgylcheddol ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Nod y canfyddiadau yw hysbysu'r rhai sydd â diddordeb mewn grantiau neu wneud gwelliannau amgylcheddol.
Canfyddiadau
Dangosodd yr ymchwil fod grwpiau wedi defnyddio'r grantiau i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni a dŵr ar gyfer adeiladau, cynnal gweithgareddau codi ymwybyddiaeth, gwella mannau gwyrdd, a gosod pwyntiau gwefru trydan.
O ganlyniad, arbedodd rhai o'r grwpiau gryn dipyn o ynni ac arian, fe wnaeth eraill wella eu hamgylchedd lleol tra bod eraill wedi nodi manteision i iechyd a lles y trigolion.
Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod y canlynol:
nid oes angen llawer o berswadio ar gymunedau i gymryd rhan
mae cyngor yn bwysig, yn rhoi hwb i hyder ac yn helpu grwpiau i flaenoriaethu'r meysydd pwysicaf
mae cyllid yn cyflymu gweithredu yn yr hinsawdd, neu'n ei gwneud yn bosibl yn y lle cyntaf
roedd rhai grwpiau yn teimlo bod y grant o £10,000 "yn iawn mwy neu lai", tra bod eraill eisiau gwneud mwy