environmentally sustainable

UK Planetary Boundaries

Byddwn yn cefnogi cymunedau i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol

Icon of the earth

Newid yn yr hinsawdd yw’r “bygythiad mwyaf treiddiol i’r amgylchedd naturiol a chymdeithasau y mae’r byd erioed wedi’i weld” (CU, 2022). Er bod llawer o heriau amgylcheddol yn rhai byd-eang, mae potensial enfawr i gymunedau’r DU wneud gwahaniaeth yn lleol.

Byddwn yn sefydlu cefnogaeth ar gyfer gweithredu amgylcheddol ar draws yr holl ariannu, gan gynnwys cefnogi pob prosiect i ystyried yr amgylchedd hyd yn oed pan nad dyma yw eu prif ffocws. A byddwn hefyd yn buddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol penodol, fel y gall cymunedau helpu i greu planed iach.

Byddwn yn ariannu prosiectau sy’n:

  • lleihau allyriadau carbon ac effaith amgylcheddol negyddol
  • creu effaith amgylcheddol gadarnhaol
  • sefydlu mynediad cyfartal i’r amgylchedd naturiol
  • gwella ansawdd mannau naturiol.

Creggan Country Park

Mae’n bwysig bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn parhau i gefnogi cymunedau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb i angen lleol a mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol trwy brosiectau gweithredu ar lawr gwlad sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl a’r amgylchedd
Karen Healy (Chwith), Swyddog Amgylcheddol Creggan Country Park, Gogledd Iwerddon

Yr Amgylchedd

Yn y fideo hwn, mae Karen Healey o Creggan Country Park yn Derry - Londonderry yn sôn am y gweithgareddau amgylcheddol a’r addysg effeithiol y mae’r prosiect yn eu darparu i gefnogi’r gymuned leol, a pham mae ein ffocws newydd o gynaliadwyedd amgylcheddol yn ein strategaeth newydd yn hanfodol.