Enable children and young people to thrive

Horn of Africa Belfast

Byddwn yn cefnogi cymunedau i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu

Mae gweithgareddau, profiadau a chefnogaeth gymunedol yn drawsnewidiol wrth gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i ffynnu. Dylai fod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad at gefnogaeth oedolion y gellir ymddiried ynddynt, gweithgareddau cyfoethogi, a chyfleoedd i gysylltu ag eraill.

Gall cymdeithas elwa’n aruthrol drwy wrando mwy ar farn pobl ifanc a thrwy gydnabod eu gallu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc gael cyfleoedd i gyfranogi yn eu cymuned a llunio’r gweithgareddau a’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u dyfodol.

Byddwn yn ariannu prosiectau sy’n:

  • darparu mynediad i blant a phobl ifanc i fannau diogel i chwarae, i gyfranogi, i gymdeithasu ac i gael cefnogaeth
  • creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc o bob cefndir gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol
  • helpu plant a phobl ifanc i lunio’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u cymunedau.

Reach Every Generation

Yn gynyddol rydym ni’n gweld bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc angen cefnogaeth ac eiriolaeth. Bydd sicrhau eu bod nhw’n rhan o’r strategaeth yn ffocysu eu hanghenion, sy’n allweddol i’w dyfodol. Mae prosiectau fel ninnau, sy’n derbyn cyllid, yn gallu cynnig cefnogaeth drawsnewidiol, arbenigol a phwrpasol i bobl sydd wedi’u hymyleiddio neu sydd â diffyg mynediad at wasanaethau.
Gavin McKenna, Sylfaenydd Reach Every Generation

Plant a phobl ifanc

Yma, rydym yn clywed gan Gavin, sylfaenydd Reach Every Generation – grŵp sy’n darparu cymorth, mentora a gweithgareddau pwysig i atal pobl ifanc rhag ymgysylltu â diwylliant gangiau. Mae Gavin yn trafod pam bod ffocws ein strategaeth newydd ar blant a phobl ifanc yn hollbwysig, nawr yn fwy nag erioed.