Cymunedau’n dod ynghyd

Napur Arts Leicestershire

Byddwn ni’n cefnogi cymunedau i ddod ynghyd

Icon of people

Mae cysylltiadau â ffrindiau, cymdogion a phobl sy’n rhannu diddordebau a phrofiadau yn allweddol i fywydau bodlon, hapus. Dyma’r cysylltiadau sy’n clymu cymunedau at ei gilydd. Y cysylltiadau sy’n creu’r rhwydweithiau a’r pŵer i gymunedau arwain a llywio newid. Mae cymunedau a mudiadau cymdeithas sifil hefyd yn creu mannau hanfodol lle gall pobl sydd â diddordebau, safbwyntiau a phrofiadau gwahanol ddod at ei gilydd.

Ond nid oes gan bob cymuned y trefniadau i helpu pobl i ddod at ei gilydd. Yn gynyddol, mae llawer o bobl yn teimlo’n ddatgysylltiedig neu’n ynysig. Byddwn yn ariannu prosiectau sy’n:

  • creu mannau hygyrch, croesawgar, boed yn ffisegol neu’n ddigidol, i bobl gwrdd
  • cychwyn gweithgareddau deniadol a chynhwysol sy’n cefnogi cysylltiadau o fewn a rhwng pobl a chymunedau
  • galluogi pobl o bob cefndir i lunio dyfodol eu cymunedau
  • meithrin ymdeimlad cynyddol o ymddiriedaeth a pherthyn.

Same But Different C.I.C

Mae chwalu rhwystrau ac annog deialog ar faterion yn ymwneud ag iechyd yn hanfodol. Mae cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ein galluogi i weithio’n greadigol gyda’r rhai sydd â phroblemau iechyd i gryfhau eu lleisiau a chwarae rhan hanfodol mewn codi ymwybyddiaeth, gwella dealltwriaeth a dylanwadu ar newid ar bob lefel o’u cymuned
Ceridwen Hughes, Cyfarwyddwr Same But Different C.I.C

Gwyliwch ein fideo

Rydyn ni’n siarad â Ceridwen a Claire o Same but Different, sy’n defnyddio straeon gweledol i godi ymwybyddiaeth o effaith clefydau prin ar unigolion. Mae Ceridwen a Claire yn trafod pwysigrwydd profiad bywyd a'r angen i bobl sy'n gallu teimlo'n ynysig ac unig i ddod o hyd i gymuned.