A allech chi helpu i benderfynu sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau yng Nghymru?
13 Hydref 2025
Mae gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gyfle cyffrous i bobl sy’n angerddol dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau yng Nghymru. Rydym yn chwilio am hyd at ddau berson i ymuno â Phwyllgor Cymru.
Fel ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, rydym ni’n dyfarnu grantiau o arian Achosion Da’r Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru.
Ynglŷn â’r rôl
Mae Pwyllgor Cymru’n helpu i lywio cyfeiriad strategol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Prif rôl aelodau’r Pwyllgor yw defnyddio eu gwybodaeth a’u meddwl strategol i helpu darparu cyfeiriad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, gwneud penderfyniadau ar geisiadau i’n pwyllgorau grant a bod yn llysgennad ar gyfer y Gronfa.
Mae’n amser cyffrous i ymuno â Phwyllgor y Gronfa yng Nghymru. Mae’r cyfle hwn yn dod dwy flynedd i mewn i’n strategaeth, ’Cymuned ywr man cychwyn, a fydd yn mynd a ni at 2030. Bydd Aelodau Pwyllgor Cymru sy’n ymuno ar yr adeg gyffrous hon yn gyfrifol am oruchwylio cyflawniad yng Nghymru, pan ddisgwylir cynnydd mewn arian i achosion da, ynghyd â gwaith asedau segur parhaus y Gronfa.
Mae Pwyllgor Cymru yn dod â sylfaen eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad ynghyd sy’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau yr ydym yn eu hariannu a’u gwasanaethu, ac yn yr achos hwn rydym yn chwilio am hyd a ddau aelod newydd gydag o leiaf un yn siaradwr Cymraeg rhugl. Y peth pwysicaf yw bod ymgeiswyr yn angerddol dros wneud Cymru’n lle gwell i bawb.
Rydym ni’n chwilio am rywun a fydd yn cynnig ystod eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad bywyd ac wedi’i ddysgu, yn enwedig rhywun sydd â phrofiad o weithio yn y sector cyhoeddus neu’r sector breifat ac sy’n angerddol dros wneud Cymru’n lle gwell i bawb.
Dyma gyfle unigryw i gyfrannu at sefydliad sy’n trawsnewid bywydau pobl. Os ydych chi’n credu fod gennych chi’r cefndir a’r nodweddion personol sydd eu hangen, byddem wrth ein boddau i glywed gennych.
Gwybodaeth
Rôl anweithredol yw hon sy’n gofyn am ymrwymiad o oddeutu 2 ddiwrnod y mis, ond gallai hyn amrywio o fis i fis. Telir y rôl ar gyfradd o £5232 y flwyddyn.
- Lawrlwythwch y briff i ymgeiswyr (Word, 85 KB) i ddysgu rhagor am y rôl a sut i ymgeisio
- Lawrlwythwch gopi o’r ffurflen gais (Word, 270 KB)
- Lawrlwythwch gopi o’r ffurflen cydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant (Word, 270 KB)
Dyddiadau
Dyddiad cau
Dydd Sul 2 Tachwedd 2025, 11:59pm - ond rhowch wybod i ni os oes angen rhagor o amser arnoch i gwblhau’r ffurflen ar-lein.
Dyddiad cyfweld
Disgwylir cynnal y cyfweliadau ar yr 20 a’r 21 Tachwedd 2025, ond mae’n bosibl i hyn newid.
Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant
Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob lliw a llun. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – felly, rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein harian yn cyrraedd lle mae ei angen.
Rydym hefyd yn credu y dylai ein pobl gynrychioli’r cymunedau, sefydliadau, ac unigolion yr ydym yn gweithio gyda nhw. Dyna pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac yn lle gwych i weithio. Rydym yn cydnabod ac yn dathlu’r ffaith fod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn croesawu’n gadarnhaol geisiadau gan bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol, pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirsefydlog, pobl LHDTC+ a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol gwahanol, yn ogystal â phobl o bob oedran.
Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cymryd agwedd ragweithiol at wneud addasiadau rhesymol, os oes angen, drwy gydol y broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth.