Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Yr hyn rydym yn ei ariannu

Gall cymryd camau lleol tuag at ddefnydd ynni arwain at lawer o fanteision personol a chymunedol. Gall defnyddio llai o ynni leihau allyriadau carbon, lleihau biliau ynni ac arwain at ansawdd aer gwell. Mae cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n dda yn gynhesach ac yn fwy cyfforddus. Gall prosiectau ynni hefyd greu swyddi “gwyrdd” newydd ac adfywio cymunedau lleol a gallant yn eu tro alluogi ac ysbrydoli cymunedau i weithredu ar y cyd.

Rydym yn ariannu prosiectau lle caiff cymunedau eu hysbrydoli i weithredu ar ynni a’r argyfwng hinsawdd.

Ein ffocws ar ynni a hinsawdd

Rydym yn ariannu prosiectau a all wneud o leiaf un o'r canlynol:

  • annog pobl a chymunedau i ddefnyddio ynni mewn ffordd ecogyfeillgar
  • dod â chymunedau ynghyd fel y gallant archwilio ffyrdd o hybu effeithlonrwydd ynni
  • galluogi cymunedau i ddeall ac ymgysylltu â chyfleoedd i gynhyrchu ynni glân, nad ydynt yn defnyddio tanwyddau ffosil.

Cefnogi grwpiau bregus

Mae newid hinsawdd a’r argyfwng ynni yn cael mwy o effaith ar grwpiau a allai ei chael yn anoddach ymgysylltu â gweithredu hinsawdd. Mae’n rhaid i’r sefydliadau a ariennir gennym ystyried sut y gall pawb ar draws y gymuned gymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd a rhoi sylw i unrhyw resymau pam y gallai rhai pobl gael eu hepgor.

Rydym wedi blaenoriaethu prosiectau sy'n ceisio cefnogi ac ymgysylltu â grwpiau agored i niwed sy'n wynebu heriau niferus. Mae hyn yn cynnwys cartrefi incwm isel a phobl â chyflyrau iechyd.

Rydym yn bwriadu ariannu amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys prosiectau sy’n ymgysylltu â chymunedau i:

  • Addysgu, ysbrydoli, a dechrau gweithredu ynni a arweinir gan y gymuned sy'n arwain at ostyngiad mewn allyriadau carbon yn y tymor hir. Mae hyn yn cynnwys prosiectau arddangos y gall pobl ymweld â nhw yn eu cymuned
  • Meithrin sgiliau, offer ac adnoddau i alluogi gweithredu lleol, megis hyfforddi hyrwyddwyr ynni cymunedol, archwilio datrysiadau cost-effeithiol hawdd eu defnyddio megis atalyddion drafft neu ddefnyddio bylbiau LED
  • Rhannu sgiliau gyda phobl yn y gymuned fel y gallant gymryd rhan mewn prosiectau lle gallant gynhyrchu eu hynni eu hunain trwy ynni adnewyddadwy. Nid ydym yn ariannu paneli solar, tyrbinau gwynt na chynhyrchwyr ynni adnewyddadwy eraill. Fodd bynnag, gallwn ariannu grwpiau i ymgysylltu â chymunedau a’u helpu i feithrin eu dealltwriaeth am brosiectau ynni cymunedol
  • Defnyddio data i annog camau gweithredu a newid ymddygiad cadarnhaol.

Dylai pob prosiect allu dangos:

beth hoffent ei newid a rhoi tystiolaeth gref o'r potensial i gyflawni eu nod

  • sut y cyflawnir buddion cymdeithasol ac economaidd eraill, megis:
    • creu cymunedau cryf, gwydn ac iach
    • datblygu swyddi gwyrdd
    • cyfleoedd adfywio i gymunedau
  • sut y byddant yn rhoi cymunedau’n gyntaf
  • sut y byddant yn dod ag amrywiaeth o bobl a grwpiau ynghyd ar draws gwahanol sectorau megis cymunedau, awdurdodau lleol, y sector preifat, y byd academaidd, polisi ac arferion
  • sut y byddant yn ymgysylltu â'r cyhoedd, gan gynnwys y rhai nad ydynt eisoes yn gweithredu ar yr hinsawdd
  • sut y byddant yn mesur ac yn profi eu heffaith amgylcheddol a chymdeithasol
  • beth fydd yn digwydd pan ddaw'r prosiect i ben
  • sut y byddant yn defnyddio straeon neu astudiaethau achos i rannu eu gwaith ac ysbrydoli cymunedau i ddysgu am yr argyfwng hinsawdd a gweithredu.

Prosiectau sy'n gweithio ar y cyd ag eraill

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy’n barod i gysylltu â mentrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill i gael ysbrydoliaeth, rhannu dysgu a chynyddu eu heffaith.

Rydym yn ariannu prosiectau sy’n llywio ac yn hyrwyddo gwahanol bethau megis:

  • ôl-osod
  • cynhyrchu ynni
  • cyngor

Rydym yn bwriadu ariannu prosiectau mewn cymysgedd o wahanol leoliadau ar draws y DU. Rydym yn cefnogi ceisiadau gan bartneriaethau sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol eang ac yn hyrwyddo cydweithredu traws gwlad.

Disgwylir i brosiectau a ariennir ddangos eu bod yn awyddus i gysylltu ag eraill i rannu dysgu a chynyddu effaith ac etifeddiaeth eu gwaith.

Beth arall rydym yn ei ddisgwyl gan ymgeiswyr

Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr allu dangos dealltwriaeth gref o brosiectau ynni a arweinir gan y gymuned a bod ganddynt gysylltiadau cryf â phrosiectau a chymunedau perthnasol.

Rydym yn cynnig cyfleoedd strwythuredig ar gyfer datblygu a chyd-ddysgu i’r prosiectau rydym yn eu hariannu.

Byddwn yn siarad â’r prosiectau sy’n symud ymlaen i gam 2 yr asesiad am y math o gymorth y gallwn ei gynnig.

Y prosiectau rydym yn annhebygol o’u hariannu

Rydym yn annhebygol o ariannu:

  • prosiectau sy'n canolbwyntio ar uwchraddio strwythurol domestig sydd o fudd i aelwydydd unigol.
  • prynu neu osod paneli solar, tyrbinau gwynt a ffynonellau neu gynhyrchwyr ynni adnewyddadwy eraill. Ni all y gronfa hon dalu am gostau cyfalaf gweithgarwch cynhyrchu ynni
  • Cyngor i unigolion sy'n canolbwyntio'n llwyr ar yr argyfwng costau byw. Rydym wedi ymrwymo rhaglenni eraill i helpu gyda hyn. Mae arianwyr eraill sy’n fwy addas ar gyfer prosiectau sy’n lleihau costau ynni tai neu’n darparu cymorth gyda dyledion.
  • prosiectau nad ydynt yn gallu dangos ffocws cryf ar weithredu hinsawdd
  • prosiectau ynni ehangach sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth
  • gweithgareddau gwleidyddol sy'n hyrwyddo plaid wleidyddol benodol, cred wleidyddol neu unrhyw weithredu sydd wedi'i dargedu i ddylanwadu ar etholiadau
  • ceisiadau na allant ddangos sut mae eu prosiect yn bwysig i'r gymuned
  • ceisiadau sy'n hyrwyddo agenda un sefydliad neu grŵp
  • ceisiadau ar gyfer gweithgareddau statudol
  • ceisiadau sydd ond yn chwilio am arian cyfalaf gan gynnwys ceisiadau sydd ond yn gofyn am arianar gyfer newidiadau strwythurol i adeilad cymunedol neu breifat nad yw'n rhan o brosiect newid ymddygiad ehangach
  • ceisiadau sy'n ceisio cyflawni gweithgareddau economaidd sy'n debygol o gael effaith sylweddol ar gystadleuaeth. Darllenwch ein polisi ar reoli cymorthdaliadau.
  • sefydliadau sy'n gwneud cais am lawer mwy o arian nag y mae ganddynt brofiad o'i reoli, neu sy'n cynyddu eu trosiant blynyddol yn sylweddol.