Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Beth yw Rheoli Cymhorthdal

Rheoli cymhorthdal yw’r fframwaith gyfreithiol sy’n rheoleiddio sut mae awdurdodau cyhoeddus yn rhoi arian i fusnesau. Mae’n sicrhau nad yw’r arian a ddosbarthwn yn effeithio ar gystadleuaeth yn y farchnad nac ar fasnach.

Ar ôl i'r DU adael yr UE ar 31 Rhagfyr 2020, disodlwyd rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol yr UE a oedd yn darparu rheolau ar yr hyn a allai roi 'mantais anghyfreithlon' ar 1 Ionawr 2021 gydag ymrwymiad rheoli cymhorthdal rhyngwladol y DU.

Arian cyhoeddus yw ein grantiau. Ni ellir ei ddefnyddio i roi mantais annheg i sefydliadau dros eraill - byddai hyn yn erbyn y gyfraith.

O 1 Ionawr 2021, o ganlyniad i Brexit a diwedd y cyfnod pontio ar gyfer gadael yr UE, nid yw rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol yr UE yn berthnasol i'n grantiau mwyach. Yn hytrach, mae ymrwymiadau rheoli cymhorthdal rhyngwladol newydd y DU yn darparu rheolau ynghylch pryd y gallai ein grantiau roi mantais anghyfreithlon.

Rhaid inni ddilyn y rheolau a'r prosesau newydd hyn.

Darllenwch fwy am ymrwymiad y DU i reoli cymhorthdal rhyngwladol 0 1 Ionawr 2021.

Cymorth gwladwriaethol

Fodd bynnag, mae cymorth gwladwriaethol yn dal yn berthnasol ar gyfer rhai grantiau a ddyfarnwyd cyn 31 Rhagfyr 2020, ac yng Ngogledd Iwerddon.

Mae canllawiau cymorth gwladwriaethol y DU i'w gweld yn https://www.gov.uk/guidance/state-aid.