Pwy allai ymgeisio
Gwnaethom dderbyn ceisiadau gan naill ai:
- partneriaethau sy’n seiliedig ar lefydd
- Partneriaethau DU gyfan
- sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol sengl
Rhaid i’r sefydliad hwn fod naill ai’n:
- grŵp neu glwb â chyfansoddiad
- sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
- elusen gofrestredig
- Sefydliad Elusennol Corfforedig (SCIO/CIO)
- cwmni buddiant cymunedol (CIC)
- cwmni dielw cyfyngedig trwy warant - rhaid iddyn nhw fod yn elusen gofrestredig neu fod â chymal 'clo asedau' dielw yn eu herthyglau cymdeithasu
- ysgol, coleg, prifysgol (cyn belled â bod y prosiect o fudd ac yn cynnwys y cymunedau lleol ehangach)
- corff statudol (gan gynnwys cyngor tref, plwyf a chymuned)
- cymdeithas budd cymunedol.
Ni wnaethom dderbyn ceisiadau gan:
- unigolion
- unig fasnachwyr
- sefydliadau sy'n gallu talu elw i gyfarwyddwyr, cyfranddalwyr neu aelodau (gan gynnwys Cwmnïau Cyfyngedig trwy Gyfranddaliadau) - ni allwn ariannu'r sefydliadau hyn yn uniongyrchol ond gallant gefnogi prosiectau a ariennir
- sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
- un unigolyn neu sefydliad yn gwneud cais ar ran un arall
- sefydliadau nad oes ganddynt o leiaf ddau berson ar eu bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn briod, mewn perthynas hirdymor, yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad, neu'n perthyn trwy waed.
Ysgolion neu sefydliadau sy'n gweithio mewn ysgol
Mae angen i'r prosiectau hyn gryfhau'r gymuned y tu allan i'r ysgol hefyd. Dylent fod o fudd a chynnwys mwy nag athrawon, disgyblion neu rieni disgyblion yn unig.
Nid ydym yn ariannu prosiectau ysgol sy’n:
- gwella cyfleusterau ysgol neu offer nad ydynt ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio
- helpu gyda hyfforddiant staff
- rhan o gwricwlwm yr ysgol
- cynnwys gweithgareddau y dylai'r ysgol fod yn eu darparu eisoes (fel prosiect addysgu llythrennedd yn ystod oriau ysgol)
- digwydd yn ystod amserau addysgu (gall cyn ac ar ôl ysgol fod yn iawn).
Ni wnaethom dderbyn ceisiadau niferus gan yr un grŵp neu sefydliad.