Y gofynion ar gyfer ein logo
Mae'n bwysig iawn bod pobl sy'n ymwneud â'ch prosiect yn deall ei fod wedi ei gefnogi gan chwaraewyr Y Loteri Genedlaethol - mae rhoi ein logo mewn lle amlwg yn helpu gwneud hyn. Gallwch roi'r logo ar wal, atodi fe i'ch gwefan neu ddarn o gyfarpar - unrhyw le y gall pobl ei weld. Gallwch lawrlwytho ein logos isod. Lawrlwythwch ein Harweiniad Brand (PDF, 1.4MB).
Gofynion maint lleia
Peidiwch ag anghofio bodloni ein gofynion isafswm maint ni waeth p'un a ydych yn defnyddio'r logo ar-lein neu mewn fformat printiedig. Argraffu: 44mm lled x 14mm uchder, Sgrîn: 125px lled x 40px uchder
Pryd i ddefnyddio gwahanol fathau o ffeiliau a logos
Math y ffeil
- Fersiwn digidol (PNG) - gorau ar gyfer gwefannau, dogfennau Word, PowerPoint a chyfryngau cymdeithasol
- Fersiwn argraffu (JPG/PNG) - gorau i'w ddefnyddio wrth argraffu posteri neu daflenni
- Fersiwn fector (EPS) - gorau i'w ddefnyddio wrth weithio gyda dylunydd proffesiynol
Lliw logo
Mae'n well gennym bod ein logo lliw llawn yn cael ei ddefnyddio. Os nad yw hyn yn bosib oherwydd cyferbyniad y cefndir, gellir defnyddio ein logos du a gwyn ar gyfer cefndiroedd golau a thywyll yn ôl ei drefn. Defnyddiwch logos lliw llawn oni bai bod gennych reswm da i beidio â gwneud hynny.