Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cysylltu â’ch gwasg lleol a chynrychiolwyr etholedig

Mae derbyn grant gan y Loteri Genedlaethol yn gyflawniad enfawr ac yn newyddion gwych ar gyfer eich cymuned leol. Bydd gan bapurau newydd lleol a gorsafoedd radio ddiddordeb i glywed eich newyddion. Gall sicrhau bod cynrychiolwyr etholedig lleol yn cael eu hysbysu a’u gwahodd i ddod i weld eich gwaith helpu amlygu eich proffil yn lleol.

Mae cysylltu â’r cyfryngau lleol a’ch cynrychiolwyr etholedig yn ddwy ffordd wych i’ch helpu i adrodd eich stori a chodi ymwybyddiaeth yn y gymuned.

Mae hwn hefyd yn gyfle pwysig i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud eich gwaith yn bosibl.

Adnabod pa gyfryngau i'w targedu

Cysylltwch â phapurau newydd sydd ar gael i'w prynu neu a ddosberthir am ddim yn yr ardal mae eich prosiect wedi'i leoli ynddi. Os ydych yn ansicr pa ardal y maent yn adrodd amdani, gallwch ffonio i ofyn. Ystyriwch gysylltu â'ch gorsaf radio BBC leol ynghyd ag unrhyw orsafoedd masnachol yn eich ardal. Edrychwch i weld a oes unrhyw wefannau neu flogiau lleol a allai fod â diddordeb yn eich stori.

Dod o hyd i'r cyswllt gorau

Mae'n werth ffonio desg newyddion papur newydd neu orsaf radio i adrodd eich stori iddynt a gofyn a oes unrhyw un yn benodol y dylech ei hanfon atynt.

Drafftio datganiad i'r wasg

Wrth ysgrifennu hwn, ystyriwch bwysigrwydd ac effaith eich prosiect. Sut bydd yn gwneud gwahaniaeth i'r bobl rydych yn cydweithio â nhw? Sut bydd yn gwella'u bywydau? Sut bydd yn gwella'r gymuned gyfan? Gallwch ddefnyddio ein templed datganiad i’r wasg fel canllaw.

Anfon datganiad i'r wasg

Gwnewch yn siŵr bod sylwedd eich e-bost yn ymdrin â'r stori a'r ardal, er enghraifft "Dyfarnwyd Arian y Loteri Genedlaethol i Ganolfan Gymunedol Llanbrynmair". Gludwch y datganiad i'r wasg yng nghorff yr e-bost yn hytrach na'i atodi. A chofiwch bob amser gynnwys eich manylion cyswllt!

Atodi llun

Gall atodi llun o ansawdd da wella'ch cyfle o ddenu cyhoeddusrwydd yn fawr. Gall hyd yn oed lluniau a dynnwyd ar ffonau clyfar weithio'n dda iawn. Ystyriwch yr hyn yr ydych am i'r llun ei ddweud am eich prosiect - ystyriwch y lleoliad a phwy i'w gynnwys yn y llun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enwau pawb yn y llun ac eglurwch bwy yw pwy er mwyn helpu'r papur newydd i greu is-bennawd priodol ar gyfer y llun.

Dilyn i fyny gyda galwad ffôn

Mae newyddiadurwyr yn derbyn llawer o ddatganiadau i'r wasg bob dydd a bydd yn helpu os byddwch yn rhoi galwad gyflym iddynt i amlygu'ch newyddion chi.

Dywedwch wrthym am eich llwyddiannau

Mawr hoffem glywed amdano pan fyddwch yn denu sylw'r cyfryngau yn eich ardal leol. Cysylltwch â ni er mwyn i ni gael gwybod amdano: PressOffice@tnlcommunityfund.org.uk

Cysylltu â'ch cynrychiolydd etholedig

Efallai byddwch chi’n dymuno cysylltu â’ch Aelod Seneddol neu Aelod o’r Senedd lleol i’w diweddaru am yr arian rydych wedi’i dderbyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Gallwch adnabod eich rhanddeiliaid gwleidyddol lleol drwy nodi cod post eich prosiect.

Wrth ysgrifennu atynt, dylech gyfeirio at faint o arian rydych wedi’i dderbyn, yr effaith gadarnhaol y bydd eich prosiect yn ei chael ar y gymuned leol, a gofyn a fyddai diddordeb ganddynt i ymweld â’r prosiect neu ddigwyddiad. Os yw unrhyw ymweliadau’n cael eu trefnu, rhowch wybod i dîm Materion Cyhoeddus Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar public.affairs@tnlcommunityfund.org.uk.

Lawrlwytho e-bost templed