Ein strategaeth tystiolaeth ac effaith
Trosolwg o'n strategaeth tystiolaeth ac effaith
Mae'r strategaeth hon yn nodi sut y byddwn yn defnyddio tystiolaeth, dysgu a gwerthuso i gynyddu effaith ein hariannu.
Mae'n esbonio sut y byddwn yn gweithio gyda chymunedau i gynhyrchu a defnyddio tystiolaeth i:
gynyddu gwytnwch
mynd i'r afael ag anghydraddoldeb
hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol
Ein 5 nod
Rydym wedi gosod 5 nod i ddefnyddio tystiolaeth i gefnogi'r strategaeth Cymuned yw’r man cychwyn o 2025 i 2030.
Galluogi ein dull sy'n seiliedig ar degwch
Rydym yn defnyddio tystiolaeth o angen i gymryd ymagwedd sy'n seiliedig ar degwch o ariannu. Mae'r hyn rydyn ni'n ei ddysgu am dlodi, anfantais a gwahaniaethu yn llywio ein hariannu a'n cyfathrebu.
Ariannu sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Rydym yn defnyddio tystiolaeth a dysgu o'r tu allan a thu mewn i'r Gronfa i wneud penderfyniadau. Rydym yn darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen ar gymunedau i wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Dangos ein heffaith
Rydym yn gwerthuso ein gwaith i gael tystiolaeth i ddangos y gwahaniaeth y mae ein ariannu yn ei wneud a chynyddu ein heffaith yn y dyfodol.
Arwain gyda thystiolaeth
Rydym yn defnyddio tystiolaeth a dysgu i hyrwyddo newid cadarnhaol ar draws ein nodau. Rydym yn rhannu mewnwelediadau o'n gwaith i:
ddylanwadu ar bolisi
gwella ymarfer
cryfhau ariannu yn y dyfodol
Dysgu gyda chymunedau
Rydym yn gweithio gyda chymunedau i gasglu, rhannu a dysgu o dystiolaeth gyda'n gilydd. Rydym yn creu cyfleoedd i gymunedau:
gysylltu
dysgu oddi wrth ein gilydd
defnyddio tystiolaeth i gefnogi newid cymdeithasol cadarnhaol