Neidio i'r prif gynnwys

Galwad am dystiolaeth achosion da’r Loteri Genedlaethol: ymateb gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Ar 1 Gorffennaf 2026 lansiodd Llywodraeth y DU alwad am dystiolaeth ar ddyfodol ariannu Achosion Da’r Loteri Genedlaethol. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn croesawu'r cyfle i fyfyrio ar ddyfodol y Loteri Genedlaethol a darparu tystiolaeth ynghylch sut rydym yn credu y gall wasanaethu cymunedau orau ymhell i'r dyfodol.

Cyflwyniad

Ar 1 Gorffennaf 2026 lansiodd Llywodraeth y DU alwad am dystiolaeth ar ddyfodol ariannu Achosion Da’r Loteri Genedlaethol. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn croesawu'r cyfle i fyfyrio ar ddyfodol y Loteri Genedlaethol a darparu tystiolaeth ynghylch sut rydym yn credu y gall wasanaethu cymunedau orau ymhell i'r dyfodol.

Mae ariannu Achosion Da wedi siapio cymdeithas yn ddwfn dros y 30 mlynedd diwethaf. Wrth ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r Loteri Genedlaethol, buom yn siarad â rhai o'r deiliaid grantiau cyntaf yn 1995. Trawsnewidiodd arian y Loteri Genedlaethol eu cymunedau a'u mudiadau, ac mae rhai o'r grantiau cynharaf hynny yn parhau i wneud gwahaniaeth.

Mae'r gwahaniaethau hyn yn lleol ac yn bersonol. Mae coetir a oedd wedi'i esgeuluso bellach yn ofod cymunedol ffyniannus, sy'n cynnal popeth o gampfeydd awyr agored i deithiau cerdded hanes. Mae babanod wedi tyfu i fyny i ddod yn ymddiriedolwyr y mudiadau a helpodd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd iddynt. Er gwaethaf tywydd garw, mae plant ysgol yn Shetland wedi dysgu ffyrdd sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd o dyfu eu llysiau eu hunain. O Belfast i Bowys, mae elusennau wedi helpu pobl i drawsnewid eu bywydau, ac i rhoi yn ôl, gan gefnogi cymunedau yn eu tro.

Wrth edrych ymlaen, mae angen i ariannu Achosion Da esblygu, arloesi a bod yn agored i newid fel bod y Loteri Genedlaethol yn berthnasol i anghenion newidiol ein cymunedau am y 30 mlynedd nesaf. Rydym yn croesawu ymrwymiad yr adolygiad i'r egwyddor o ychwanegeddau a'i bwyslais ar rymuso gwirioneddol ar lefel leol, gan gryfhau'r cysylltiad rhwng chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, cymunedau a buddsoddiad y Loteri Genedlaethol, ac ar symleiddio mynediad.

Mae ein hagwedd tuag at bob thema yn cael ei yrru gan wirionedd arweiniol a syml ein strategaeth: cymuned yw’r man cychwyn. Rydym yn ariannu cymunedau ar draws pob rhan o'r DU ac mae gan ein swyddogion ariannu lleol gysylltiadau dwfn â'r bobl a'r lleoedd rydyn ni'n eu gwasanaethu, ynghyd â phresenoldeb cenedlaethol sy'n hwyluso rhannu dysgu a dealltwriaeth o effaith ledled y DU.

Rydym yn gwneud hyn yn y ffyrdd canlynol:

  • Lleol trwy ddyluniad, wedi'i ymgorffori mewn cymunedau: Mae Cymuned yw’r man cychwyn yn darparu ein fframwaith strategol a rennir ledled y DU, wrth roi'r hyblygrwydd i bob gwlad i ymateb. Mae ein perthnasoedd lleol dwfn, tystiolaeth a mewnwelediad yn siapio penderfyniadau ariannu, wrth fod ein pwyllgorau gwledydd yn adlewyrchu'r cyfeiriadau polisi a dderbyniwn gan lywodraethau datganoledig.

  • Wedi'i arwain gan y gymuned ac wedi'i siapio gan brofiad byw: mae cymunedau bob amser wedi siapio ein grantiau. Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn darparu llwybr syml ac ymatebol ar gyfer ariannu ar lawr gwlad. Mae cyfranogiad, profiad byw, a phŵer cymunedol yn cael eu hymgorffori fwyfwy yn ariannu, llywodraethu a phenderfyniadau'r Gronfa. Mae gennym hanes cryf o alluogi gwneud penderfyniadau lleol trwy gydweithio â phartneriaid. Rydym bellach yn archwilio'r seilwaith dinesig sydd ei angen i rymuso trigolion ar gyfer y tymor hir, ac rydym yn tynnu sylw at hynny yn y cyflwyniad hwn.

  • Cysylltu gweithredu ar lawr gwlad â newid hirdymor, gan gefnogi pobl a lleoedd: mae ariannu ymatebol yn caniatáu i gymunedau fynd ar drywydd eu blaenoriaethau eu hunain. Mae ein cyrhaeddiad ledled y DU yn golygu ein bod yn rhannu tystiolaeth o'r gwaith hwn i wneud mwy o wahaniaeth, gan nodi heriau a rennir ac annog dysgu. Mae'r cyfuniad o'r elfennau hyn yn ein helpu i ddeall pryderon cymunedau a'u galluogi i gael y pŵer, y llais, yr asedau a'r galluoedd i lunio eu dyfodol a newid systemau ehangach.

  • Wedi’n hymddiried am ein hannibyniaeth, gallwn gefnogi cymunedau na all eraill eu cyrraedd. Mae ein statws hyd braich yn caniatáu inni gymryd golwg hirdymor ac ariannu cymunedau yn ôl yr angen. Mae ein dull sy'n seiliedig ar degwch yn sicrhau ein bod yn targedu buddsoddiad i'r lleoedd sydd â’r angen mwyaf, egwyddor yr ydym yn gwybod bod y cyhoedd yn ei chefnogi'n llwyr [1] Manylion y troednodiadau. Ar draws ein hariannu, mae 78% o'n grantiau yn cynnig cymorth wedi'i dargedu i grwpiau cymunedol amrywiol sydd bellaf o gefnogaeth. Roedd y 22% sy'n weddill o'r prosiectau a ariannwyd gennym yn agored i bawb [2] Manylion y troednodiadau.

Fe wnaethom ddosbarthu £939.7 miliwn mewn grantiau’r Loteri Genedlaethol y llynedd i fudiadau sy'n cyflawni newid yn ein pedwar maes nod. Mae ein nodau yn cefnogi cymunedau i: ddod ynghyd, bod yn amgylcheddol gynaliadwy, helpu plant a phobl ifanc i ffynnu, a galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach. Mae ein hadroddiad effaith diweddar yn dangos bod 7 miliwn o bobl yn elwa’n rheolaidd o'r prosiectau rydym yn eu hariannu, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gyda llawer ohonynt trwy'r grantiau bach sy'n ffurfio 86% o'n dyfarniadau [3] Manylion y troednodiadau. Rydym yn targedu ein grantiau lle mae'r angen mwyaf; y llynedd dyfarnwyd 47% o'n grantiau i leoedd sydd yn y 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig ledled y DU.

Mae galw mawr am ein grantiau. Rydym yn derbyn syniad newydd unwaith bob tri munud ac fel arfer yn ariannu tua 40% o'r ceisiadau a dderbyniwn. Mae graddfa'r angen am ariannu cymunedol yn gyrru ein gwaith i ddarparu gwasanaeth cyflymach a symlach i ymgeiswyr a galluogi mwy o amser i'n timau ariannu fod ar gael ar gyfer gwaith perthynol â chymunedau.

Mae'r lefel honno o wrando a dysgu wedi dangos i ni’r cryfder sydd eisoes yn bresennol mewn cymunedau: rydym wedi gweld pobl yn dod at ei gilydd yn hytrach na throi i ffwrdd, yn creu mannau croesawgar, yn cefnogi ei gilydd trwy gyfnodau anodd, yn gwella'r lleoedd o'u cwmpas yn dawel, ac yn ailadeiladu cysylltiad, ymddiriedaeth a gobaith. Rydym yn gwybod bod cymunedau yn ffynnu pan fydd ganddynt fwy o ddylanwad ar benderfyniadau ac adnoddau sy'n effeithio arnynt ac yn credu na ddylai datganoli pŵer stopio gyda sefydliadau; dylai ymestyn i gymunedau eu hunain.

Mae ein hymateb yn canolbwyntio ar sut y gall cam nesaf y Loteri Genedlaethol gyfuno rhoi grantiau yn annibynnol, cyfranogiad cymunedol dyfnach, mynediad symlach a pherthnasoedd lleol cryfach gyda dysgu a chydlynu ledled y DU.

Grymuso cymunedau i wneud penderfyniadau

Mae'r dystiolaeth yn glir nad yw cymunedau yn y wlad hon yn teimlo eu bod wedi'u grymuso yn ddigon i ddylanwadu ar benderfyniadau lleol [4] Manylion y troednodiadau. Mae ymchwil yn dangos amrywiaeth pryderus ar draws y DU a rhwng gwahanol rannau o gymdeithas, gyda phobl ifanc lleiaf tebygol o ddweud bod ganddynt ddylanwad ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt [5] Manylion y troednodiadau.

Ond gall cymunedau hefyd brofi rhywbeth syml a dwfn: bod cysylltiad, gofal a gweithredu ar y cyd yn parhau i fod ymhlith yr adnoddau mwyaf pwerus sydd gennym. Mae cymunedau wedi dweud wrthym eu bod am i ni gydnabod bod ganddynt wybodaeth, perthnasoedd, arweinyddiaeth, balchder ac ymdeimlad dwfn o'r hyn sydd ei angen ar eu lleoedd a'u pobl [6] Manylion y troednodiadau.

Ein pwrpas craidd yw ariannu a chefnogi cymunedau’n deg i weithredu ar y materion maen nhw'n poeni amdanynt a'u galluogi i adeiladu ar eu syniadau a'u cryfderau. Mae gennym hanes cryf o gyd-ddylunio a dulliau cyfranogol. Fe wnaeth Cymuned yw’r man cychwyn, ein strategaeth hyd at 2030, gael ei ddatblygu trwy ymgysylltu â 18,000 o bobl a mudiadau, gan sicrhau ei bod yn adlewyrchu'r hyn y mae cymunedau yn ei ddweud sydd fwyaf pwysig. Ers hynny, rydym wedi ymdrechu i wneud cyfranogiad cynhwysol yn rhan greiddiol o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan flaenoriaethu dulliau sy'n cynnig rôl gryfach i gymunedau wrth lunio penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Rydym nawr eisiau mynd ymhellach trwy ddulliau arloesol presennol a newydd.

Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys:

  • Mae ein Cynghorwyr Llais Ieuenctid yn darparu argymhellion ar benderfyniadau ariannu penodol ac yn helpu i ddarparu hyfforddiant. Mae gennym hefyd rolau llywodraethu ieuenctid ar ein pedwar pwyllgor gwlad a'n Bwrdd [7] Manylion y troednodiadau. Mae ymgysylltu â phobl ifanc mewn ffyrdd amrywiol yn arwain at feddwl cyfoethog, penderfyniadau cryfach, a chanlyniadau mwy cynhwysol ac effeithiol.

  • Yn ddiweddar, lansiwyd rhaglen beilot, You Decide, lle rydym yn ariannu un ar ddeg o bartneriaid arbenigol i brofi ffyrdd newydd o gynnwys cymunedau mewn penderfyniadau ynghylch gwneud grantiau. Rydym yn awyddus i ddysgu o'r cynlluniau peilot You Decide hyn a p’un a gallent dyfu i gefnogi mwy o gyfranogiad mewn rhannau eraill o'r DU ac mewn ariannu ehangach gan y Loteri Genedlaethol.

  • Rydym yn buddsoddi mewn gwneud penderfyniadau dan arweiniad preswylwyr ar gyfer y tymor hir trwy'r Community Wealth Fund yn Lloegr. Mae hyn yn adeiladu ar y rhaglen Big Local a bydd yn grymuso cymunedau difreintiedig i benderfynu sut mae grantiau yn cael eu defnyddio i wella seilwaith cymdeithasol a gallu dinesig. Yn yr hydref byddwn yn cyhoeddi’r lleoedd blaenoriaeth sydd ag angen uchel a fydd yn derbyn cyfran o'r gronfa hirdymor hon o £175 miliwn sy'n cyfuno grantiau’r Loteri Genedlaethol ac Asedau Segur i alluogi i'r ddau fynd ymhellach.

  • Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yng Nghymru gyda £16.5 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i gynllunio, rheoli a chyflwyno’n annibynnol rhaglen datblygu gymunedol fwyaf Cymru mewn 13 lle. Trigolion y lleoedd hynny oedd yn penderfynu sut, pryd a ble i ddefnyddio'r arian.

  • Yn yr Alban, gwnaeth panel preswylwyr ddyfarniadau gwerth £15 miliwn yn ddiweddar ar gyfer yr Edinburgh Regenerative Futures Fund gyda'r nod cyffredin o fynd i'r afael â thlodi, hiliaeth a newid hinsawdd yn y ddinas. Fe wnaethom weithio gyda mudiadau lleol a chenedlaethol a chyfrannu £2 filiwn o arian y Loteri Genedlaethol.

Ar draws y gwaith hwn, rydym wedi dysgu bod pŵer ystyrlon yn gofyn am fwy na throsglwyddo arian. Mae cymunedau angen awdurdod gwirioneddol, amser, perthnasoedd dibynadwy, cefnogaeth briodol a llywodraethu da. Bydd gwahanol leoedd angen gwahanol fathau o gefnogaeth, ac mae hyder a gallu yn aml yn tyfu dros amser.

Mae'r profiad hwnnw'n llunio sut rydym bellach yn ymdrin â chyfranogiad ar draws Y Gronfa. Ein rôl ni yw nid yn unig ariannu gweithgarwch a arweinir gan y gymuned, ond creu'r amodau lle gall cymunedau gael dylanwad gwirioneddol ar benderfyniadau ac adnoddau sy'n effeithio arnynt. Rydym yn croesawu'r cyfle y mae'r Galwad am Dystiolaeth yn ei gyflwyno i gynyddu grymuso cymunedol ac archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu dyfnach ar draws y Loteri Genedlaethol i gefnogi hyn.

Ariannu'r hyn sy'n bwysig i'r cyhoedd

Mae'r Galwad am Dystiolaeth yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae'r Loteri Genedlaethol wedi'i chwarae wrth gefnogi cymunedau lleol ledled y DU i wella eu bywydau a bywydau eu cymdogion. Mae'n pwysleisio bod yn rhaid i ariannu Achosion Da gyflawni blaenoriaethau'r cyhoedd a chael yr effaith fwyaf posibl. Rydym yn rhannu'r pryder nad oes digon o bobl yn gwybod am ariannu Achosion Da nac yn ei weld fel ffactor ysgogol yn eu penderfyniad i chwarae'r Loteri Genedlaethol.

Hyrwyddo Achosion Da a’r Cyfryngau

Mae cyfle i ddangos ymhellach ehangder a manteision ariannu Achosion Da trwy ffurfiau traddodiadol a newydd o’r cyfryngau. Ar hyn o bryd mae hwn yn gyfrifoldeb a rennir gyda dosbarthwyr, y gweithredwr ac Uned Hyrwyddo'r Loteri Genedlaethol.

Yn ogystal â'n gweithgaredd ein hunain, sy'n cefnogi deiliaid grantiau i adrodd eu stori, a chydnabod grantiau’r loteri, rydym yn cydweithio ag ecosystem ehangach y Loteri Genedlaethol ar ystod o ymgyrchoedd, gan gynnwys profiadau teledu arwyddocaol fel Big Night of the Musicals y Loteri Genedlaethol a Big Bash for New Years Eve y Loteri Genedlaethol.

Chwaraeodd y cyfryngau ran bwysig wrth gynnig grantiau cyfranogol wrth gyflwyno'r ‘People's Projects’ rhwng 2005 a 2019 gydag ITV a grŵp papurau newydd y Scottish Sunday Mail. Fe wnaeth sioe enillwyr 2019 ddenu 3.5 miliwn o wylwyr ac roedd tystiolaeth yn dangos ei bod wedi cynyddu ymwybyddiaeth a phositifrwydd am y Loteri Genedlaethol.

Gellid hefyd adfywio cariad tuag at y Loteri Genedlaethol a'r cysylltiad rhwng chwaraewyr a buddsoddiad trwy uchelgais DCMS i adfywio'r cyfryngau lleol, yn enwedig lle mae'n cael ei ddefnyddio i roi llais i gymunedau yn ein stori genedlaethol. Ar y lefel hon mae cyfleoedd ar gyfer hyrwyddo ac ar gyfer adeiladu cyfranogiad. Er enghraifft, rydym wedi gweithio gyda phapurau newydd yng Ngogledd Cymru i annog eu darllenwyr i bleidleisio ar brosiectau sydd ar y rhestr fer ar gyfer grantiau micro. Mae tirwedd y cyfryngau a'r gystadleuaeth am sylw yn gyfle ac yn her ar gyfer y dyfodol.

Dylai hyn fod yn flaenoriaeth a rennir i'r gweithredwr, dosbarthwyr a'r Llywodraeth, wedi'i ymgorffori ym mhrofiad y chwaraewr yn ogystal â chyfathrebu ehangach.

Gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig 

Mae ein strategaeth yn blaenoriaethu buddsoddiad i'r bobl a'r cymunedau sydd â'r angen mwyaf. Mae ein grantiau yn dechrau gydag anghenion pob cymuned – y problemau maen nhw'n eu hwynebu, y systemau maen nhw'n eu llywio a'r atebion maen nhw'n eu dylunio. Mae gweithio gyda chynrychiolwyr etholedig a'u swyddfeydd yn ein helpu i ddeall yr anghenion hyn. Mae ein gwaith gyda phob lefel o lywodraeth ledled y DU yn tynnu sylw at faterion ar lefel leol, ranbarthol, dinas neu wlad a allai gael eu hanwybyddu fel arall yn y bwlch rhwng llunio polisïau cenedlaethol a bywyd bob dydd. Mae partneriaethau effeithiol yn cyfuno mewnwelediad a dysgu cymunedol, arweinyddiaeth ddemocrataidd, arbenigedd sector, adnoddau a chynnig grantiau annibynnol.

Mae tair enghraifft ddiweddar o'n gwaith gyda llywodraethau yn dangos potensial y ffordd hon o weithio:

  • Ein perthynas gref â llywodraethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Rydym yn gweithredu model pedair gwlad, ledled y DU sy'n alinio ein strategaeth â chyfarwyddiadau polisi a blaenoriaethau lleol pob llywodraeth. Mae ein partneriaeth gwerth £60 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyda'r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon, ‘Together for Families’, yn bwriadu symud cymorth plant a theuluoedd o ymyriadau sy'n cael eu gyrru gan argyfwng i gymorth cynnar, cymunedol, gan alinio grantiau’r Loteri Genedlaethol ac ariannu trawsnewid y sector cyhoeddus. Mae hyn wedi bod yn bosibl dim ond oherwydd ein bod yn cyfuno ein cyrhaeddiad a'n hadnoddau ledled y DU gyda chysylltiadau a phartneriaethau lleol rhagorol.

  • Mae Live Well yn gynllun wedi'i lunio gan bobl leol ac mewn partneriaeth ag Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf (GMCA), y GIG a'r sectorau gwirfoddol, cymunedol, ffydd a mentrau cymdeithasol. Ei nod yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn ardaloedd lle mae seilwaith cymdeithasol wedi bod yn brin o adnoddau ers amser hir. Mae'n dod â gwasanaethau, cyfleoedd, arian a chapasiti ynghyd ac yn ail-ddychmygu sut y gallant weithio, gan eu haddasu i wasanaethu pobl yn well. Rydym wedi darparu grantiau ar gyfer rhwydwaith o 100 o leoedd Live Well sydd wedi'i gefnogi gan £30 miliwn gan y GMCA ac rydym yn disgwyl yn eiddgar am ganlyniadau'r peilot hwn.

  • Mae Loved and Wanted yn fenter gwerth £1.8 miliwn a gynlluniwyd gyda Maer Llundain i sefydlu rhwydwaith o fannau cymunedol ledled Llundain. Fe wnaethom ddatblygu'r rhaglen ar gyflymder i gwrdd â blaenoriaethau'r ddinas. Bydd yr hybiau cymunedol newydd yn gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl, cyngor cyflogaeth ac ariannol ac fe'u cefnogir gan ymgyrch gyfathrebu sy'n pwysleisio cysylltiad cymunedol.

Rydym yn clywed gan gymunedau bob dydd am bwysigrwydd dod â phobl ynghyd, cryfhau cysylltiadau a phontio rhaniadau. Yn seiliedig ar ein profiad o weithio ar lefel leol, ranbarthol a gwlad, credwn mai'r hyn sydd bwysicaf ar gyfer y dyfodol yw dylunio dulliau sy'n adlewyrchu angen (lleol neu genedlaethol), gwneud y mwyaf o effaith ar gymunedau, a darparu gwerth cyhoeddus. Gall dyfodol cynnig ariannu Achosion Da’r Loteri Genedlaethol ddechrau o'r egwyddor hon i ddod o hyd i ffyrdd symlach o weithio a ffyrdd tuag at ddull gwell, cliriach a mwy ymatebol.

Yn ymarferol, rydym am archwilio sut y gall ariannu Achosion Da'r Loteri Genedlaethol weithio'n fwy cydweithredol a chydlynol ar lefel gymunedol a rhanbarthol. Mae hyn yn cynnwys partneriaethau cryfach gyda Meiri ac arweinwyr etholedig eraill ynghylch blaenoriaethau a rennir ynghylch lleoedd, gan gynnwys gwybodaeth leol a rennir, a phresenoldeb mwy cydgysylltiedig gan y Loteri Genedlaethol. Mae hefyd yn golygu ei gwneud hi'n haws i fudiadau y mae eu gwaith yn croesi ffiniau Achosion Da i gael mynediad hawdd at y grantiau a'r arbenigedd cywir.

Cylch gwaith statudol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Mae'r iaith statudol sy'n sail i'n Hachos Da yn dal i ddisgrifio gwariant fel "elusennol neu’n gysylltiedig ag iechyd, addysg neu'r amgylchedd". Er bod hyn wedi galluogi ystod eang o grantiau, nid yw'r disgrifiad a ddefnyddir yn gyffredin o'r Achos Da hwn fel "elusen" bellach yn adlewyrchu'n ddigonol naill ai'r mudiadau a'r cymunedau rydyn ni'n eu cefnogi na'r rôl y mae'r Gronfa yn ei chwarae.

Credwn fod achos dros foderneiddio'r iaith i gydnabod "cymuned" yn benodol o fewn y disgrifiad statudol o Achosion Da'r Loteri Genedlaethol. Byddai hyn yn adlewyrchu pwrpas presennol Y Gronfa yn well: cryfhau cymunedau, cefnogi seilwaith cymdeithasol a galluogi pobl i weithredu gyda'i gilydd ar y materion sy'n bwysig iddynt, wrth gadw annibyniaeth ein cylch gwaith presennol.

Byddai hyn hefyd yn adlewyrchu esblygiad y Loteri ei hun. Erbyn diwygiadau Jowell 2003, yr adolygiad mawr diwethaf o ariannu Achosion Da’r Loteri Genedlaethol, roedd Y Gronfa Gymunedol a'r Gronfa Cyfleoedd Newydd, y ddau gorff rhagflaenol sydd bellach yn ffurfio Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn gyfrifol am gyfran o 50% o ariannu Achosion Da.

Symleiddio Mynediad

Rydym yn croesawu ffocws yr Alwad am Dystiolaeth ar symleiddio mynediad. Rydym yn clywed gan ymgeiswyr a mudiadau cymunedol y gall cael mynediad at grantiau fod yn llafurus, yn ailadroddus ac yn anodd ei lywio, yn enwedig pan fyddant yn gwneud cais ar draws sawl rhaglen, ariannwr neu ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol. Rydym yn cydnabod bod gennym fwy i'w wneud ein hunain, ac rydym eisoes yn gweithio i wneud ein grantiau ein hunain yn gyflymach ac yn symlach wrth ddiogelu stiwardiaeth grantiau’r Loteri Genedlaethol fel arian cyhoeddus. Bydd profiad cyflymach a symlach i ymgeiswyr yn rhyddhau mwy o amser ar gyfer gwaith perthynol, gan ymgynnull a dysgu gyda chymunedau.

Gyda dim ond tri chwestiwn o ddim mwy na 650 o eiriau, mae ffurflen gais Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn dangos y nod hwn yn y ffordd y mae wedi'i gynllunio i fod yn syml ac yn hawdd i'w defnyddio. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid, sydd wedi bod yn gyson uwch na 85% ar gyfer ein rhaglen grantiau bach. Yn 2024 fe wnaethom ddyblu'r grant uchaf sydd ar gael i ymgeiswyr Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i £20,000 gan ganiatáu i hyn gael ei ddefnyddio am hyd at ddwy flynedd. Canfu ein gwerthusiad o'r cynnyrch newydd fod 70% o brosiectau yn cefnogi mwy o bobl a bod y newidiadau wedi cynyddu capasiti, hyder a hygrededd, gan alluogi cymunedau i ganolbwyntio ar effaith hirdymor, a arweinir gan y gymuned [8] Manylion y troednodiadau.

Gwyddom, fodd bynnag, o ymchwil sector y gall mudiadau cymunedol deimlo eu bod ar ras wrth iddynt gael eu trosglwyddo o un ffrwd ariannu i'r llall [9] Manylion y troednodiadau.  Mae gwneud cais am grant gan ymddiriedolaethau a sefydliadau yn unig yn creu gorbenion sylweddol i'r sector elusennol, a amcangyfrifwyd rhywle rhwng £442 miliwn a £1.1 biliwn y flwyddyn yn 2022 [10] Manylion y troednodiadau.

Credwn na all symleiddio stopio ar ffiniau dosbarthwyr unigol y Loteri. Mae cyfle sylweddol i deulu'r Loteri weithio'n agosach gyda'i gilydd fel bod ymgeiswyr yn profi system ariannu fwy cydlynol a haws i'w llywio.

Er enghraifft, mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yr Alban yn bartneriaeth rhwng Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sportscotland a Creative Scotland. Mae'r rhaglen hon yn cefnogi prosiectau cymunedol ar lawr gwlad sy'n dod â phobl ynghyd ac yn helpu cymunedau ledled Yr Alban i ffynnu, gyda grantiau rhwng £300 a £20,000 sy'n para hyd at ddwy flynedd.

Mae hyrwyddo, mynediad a chyrhaeddiad y rhaglen grantiau hon ar lawr gwlad yn cael ei gryfhau trwy weithio mewn partneriaeth. Mae pob dosbarthwr y Loteri Genedlaethol yn defnyddio eu sianeli a'u rhwydweithiau eu hunain i godi ymwybyddiaeth o'r grantiau, gan gyrraedd mwy o gymunedau ledled Yr Alban. Nid oes angen i ymgeiswyr wneud cais i bob un o arianwyr Achosion Da'r Loteri Genedlaethol ar wahân, na phenderfynu pa un y dylent flaenoriaethu. Yn hytrach, maent yn profi un 'drws blaen' ar gyfer grantiau llawr gwlad gyda ffurflen gais syml, a dim dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Nid oes angen i ymgeiswyr aros am amser hir am benderfyniad grant chwaith – yn hytrach trwy gyfarfodydd penderfyniadau misol, mae grwpiau yn gyffredinol yn cael penderfyniad o fewn 10 wythnos i'w cais.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ymdrin â'r holl ymholiadau ac asesiadau cychwynnol o geisiadau, taliadau a monitro, gan dynnu ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a rennir gyda phartneriaid. Mae ein dull perthynol seiliedig ar le yn ein galluogi i ymgysylltu'n uniongyrchol â mudiadau, yn enwedig rhai newydd neu gapasiti is, i ddarparu cyngor pwrpasol cynnar yn ystod y broses ymgeisio. Mae penderfyniadau terfynol ynghylch grantiau yn cael eu gwneud gan bob dosbarthwr i adlewyrchu eu blaenoriaethau strategol. Gan ddefnyddio'r dull partneriaeth hwn, llwyddodd y dosbarthwyr i ddarparu £2.2 miliwn o grantiau llawr gwlad i ddathlu Gemau'r Gymanwlad 2026 yn ddiweddar. Fe wnaeth hefyd alluogi ymatebion cyflym i bandemig Covid-19 ac argyfyngau costau byw. Dyfarnodd y rhaglen dros £17 miliwn mewn grantiau llynedd ar gyfer 1,420 o brosiectau.

Mae'r bartneriaeth yn Yr Alban wedi tyfu dros ddegawdau ac mae'n dangos y gall dosbarthwyr gadw eu harbenigedd a'u cyfrifoldebau unigryw wrth gynnig llwybr symlach a mwy cydlynol tuag at grantiau i gymunedau. Byddem yn croesawu archwilio a allai Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol unwaith eto ddarparu mainc arbrofi ar gyfer cydweithredu dyfnach ar draws teulu'r Loteri Genedlaethol, gan gynnwys dulliau mwy cyffredin tuag at geisiadau, data a chymorth i ymgeiswyr.

Dyfodol Achosion Da'r Loteri Genedlaethol

Rhaid i'r Loteri Genedlaethol fod yn berthnasol i'r gymdeithas gyfan ac ailadeiladu'r cysylltiad rhwng chwaraewyr, cymunedau ac ariannu Achosion Da. Bydd hyn yn golygu adeiladu presenoldeb llawer cryfach ar ran y Loteri Genedlaethol mewn cymunedau.

Wrth ysgogi newid i fodloni uchelgais yr adolygiad hwn, rydym yn cynnig tair egwyddor ar gyfer diwygio:

  • Dylid cyfuno mwy o gyfranogiad y cyhoedd a'r gymuned gyda chynnig grantiau yn annibynnol a'r egwyddor o 'ychwanegedd'. Bydd hyn yn diogelu'r Loteri Genedlaethol trwy gylchoedd gwleidyddol ac yn sicrhau ei bod yn parhau i fuddsoddi am y tymor hir [11] Manylion y troednodiadau. Mae grymuso cymunedol yn gofyn am ddidueddrwydd gwleidyddol. Gall mwy o gyfranogiad roi rôl gref i bobl a chymunedau wrth lunio blaenoriaethau a phenderfyniadau fel nodwedd o'r system Loteri Genedlaethol ehangach. Rydym eisiau diwygiad er mwyn adeiladu ar arbenigedd ac annibyniaeth dosbarthwyr wrth gryfhau llais cymunedol a phartneriaethau gydag arweinwyr etholedig yn sylweddol.

  • Mae’r system Achosion Da angen arweinyddiaeth a chydlynu cryfach ar y cyd. Gallai hyn helpu i gael gwared ar rwystrau i gydweithio a gyrru atebolrwydd a rennir, safonau cyffredin, data a mewnwelediadau a rennir, profiad ymgeisydd symlach, gwaith cydgysylltiedig mewn lleoedd, a stori gyhoeddus gliriach am effaith Achosion Da. Gallai sicrhau bod themâu'r adolygiad hwn yn cael eu hailymweld a'u hymgorffori'n barhaus ar draws y system.

  • Dylai datganoli ddod â grantiau’r Loteri Genedlaethol yn agosach at leoedd a chymunedau wrth gynnal budd cydlynu ledled y DU. Rydym eisiau partneriaethau cryf gyda Meiri, llywodraethau datganoledig ac arweinwyr etholedig eraill, ochr yn ochr â chyfranogiad cymunedol a chynnig grantiau’n annibynnol. Dylai dulliau lleol allu adlewyrchu blaenoriaethau gwahanol, wrth bod gallu ledled y DU yn galluogi dysgu a gweithredu ar heriau sy'n croesi ffiniau daearyddol a gweinyddol.

Credwn mai dyma'r cyfle ar gyfer cydweithio dyfnach rhwng dosbarthwyr i gyflawni'r tair egwyddor. Gyda'i gilydd, mae'r egwyddorion hyn yn pwyntio tuag at system y Loteri Genedlaethol sy'n symlach i gymunedau ei llywio, yn fwy cyfranogol yn y ffordd y mae blaenoriaethau yn cael eu llunio, yn fwy cydgysylltiedig mewn gweithgarwch yn seiliedig ar le, ac yn gliriach am effaith ar y cyd.

Bydd y Loteri Genedlaethol yn parhau i gael rôl bwysig wrth helpu cymunedau i ymateb i heriau cymdeithasol mawr, o gyfleoedd i bobl ifanc ac anghydraddoldebau iechyd i gysylltiad cymdeithasol a hinsawdd sy'n newid. Mae ein dull yn dechrau gyda chymuned ac yn adeiladu tuag at newid ar raddfa fwy lle mae angen hynny. Rydym yn barod i ddefnyddio ein perthnasoedd ariannu a'n gallu a chyrhaeddiad i brofi'r dulliau a nodir yn y cyflwyniad hwn. Rydym yn croesawu'r cyfle i weithio gyda'r llywodraeth, dosbarthwyr eraill a chymunedau ar gam uchelgeisiol nesaf y Loteri Genedlaethol.

Evidence sources and references

  1. Ariannu Achosion Da'r Loteri Genedlaethol, pôl Ipsos Mori ar gyfer y DCMS, Gorffennaf 2026, sleid 23: Roedd 63% o'r ymatebwyr yn teimlo y dylai ariannu ganolbwyntio ar gymunedau sydd â'r angen mwyaf.   ↩

  2. Gweler Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Ein heffaith ↩

  3. Gweler Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Ein heffaith ↩

  4. Dim ond 26% o bobl yn Lloegr sy'n teimlo y gallant ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol yn bersonol. Community and Engagement Survey 2025/26 - influencing local decisions: report - GOV.UK. ↩

  5. Young People and Politics, A report on young people’s information literacy and political engagement in Scotland, January 2026 (PDF, 0.7 MB) .↩

  6. 'O Gymdogion i’r Gymdogaeth: Dysgu ar sut i roi hwb i falchder mewn lle', Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Tachwedd 2022.  ↩

  7. O wneud penderfyniadau i newid diwylliant: datblygu ein dull o ymdrin â Llais Ieuenctid ↩

  8. 'Cymunedau sy’n Gwneud y Gwahaniaeth', ein heffaith yn 2024-25, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ↩

  9. Er enghraifft, gweler IVAR: ‘All in it together’: Charities’ hopes for reviewing progress on Open and Trusting Grant-making - IVAR  ↩

  10. 'Giving Pains: the cost of grant-making, Assessing the cost of foundation funding applications', Pro Bono Economics and Giving Evidence, Gorffennaf 2022 ↩

  11. Canfu'r Adolygiad Teilwredig o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, er enghraifft, resymeg glir dros eu hannibyniaeth hyd braich oddi wrth y llywodraeth. Gweler yr Adolygiad Teilwredig o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, 2017: Tailored Review of the Heritage Lottery Fund, 2017 (PDF, 19 MB) ↩