Cynyddu uchafswm grantiau ar gyfer cronfa Pawb a’i Le
02 Medi 2026
Rydym yn cynyddu'r uchafswm grantiau ar gyfer Pawb a’i Le. Dysgwch ragor am y newidiadau, gan gynnwys beth yw eich opsiynau os ydych eisoes wedi gwneud cais.
Mae’r rhaglen Pawb a’i Le yn cefnogi sefydliadau i ymateb i anghenion eu cymunedau trwy grantiau canolig a mawr.
Nid yw'r symiau ariannu ar gyfer y rhaglen hon wedi newid ers 2017. Mae'n bwysig eu bod yn adlewyrchu'r amgylchiadau presennol fel y gallant fodloni anghenion cymunedau ledled Cymru.
Oherwydd hyn, o ddydd Mercher 9 Medi 2026 ymlaen, rydym yn cynyddu'r uchafswm grantiau ar gyfer Pawb a’i Le. Bydd ein grant canolig uchaf yn cynyddu o £100,000 i £150,000, a bydd ein grant mawr uchaf yn cynyddu o £500,000 i £700,000.
Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais, byddwn ni'n ei asesu o dan y meini prawf presennol. Os oes gennych chi gais gweithredol ond eich bod chi eisiau gwneud cais am grant mwy, gallwch chi dynnu'ch cais yn ôl a'i ailgyflwyno o ddydd Mercher 9 Medi 2026.
Rydym ni eisiau gwneud hyn mor hawdd â phosibl. Rydym ni'n eich annog chi i siarad â'ch swyddog ariannu a fydd yn eich cefnogi chi drwy'r broses hon.
Fel arfer, rydym ni'n annog pobl sydd â diddordeb mewn gwneud cais i siarad â ni cyn cyflwyno. Gallwn ni roi cyngor am y swm gorau i wneud cais amdano.