Cronfa Gweithredu Hinsawdd – Ni Canllawiau i ddatblygu eich cynnig llawn
Wrth ddatblygu eich cynnig llawn, dylech gyfeirio at ein meini prawf a'n blaenoriaethau ar gyfer y gronfa benodol hon.
Ystyried eich effaith amgylcheddol
Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i ddiogelu'r amgylchedd. Gallwch wirio ein canllawiau ar leihau eich effaith amgylcheddol.
Mae gan ein hadran Cynaliadwyedd Amgylcheddol hefyd wybodaeth am ein dull o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys dysgu a mewnwelediadau, straeon ac ariannu.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eich prosiect
Dylech hefyd ystyried tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant wrth ddylunio a rhedeg eich prosiect. Dylech gofio adlewyrchu hyn ym mhob ateb yn eich cynnig llawn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy edrych ar yr egwyddorion tegwch ar ein gwefan.
Sut i gyflwyno eich cynnig llawn
Mae pum cam y dylech eu cymryd i gyflwyno eich cynnig llawn gan gynnwys:
- cam 1 – ymateb i’n cwestiynau
- cam 2 – cwblhau cyllideb y prosiect gyda rhagamcanion incwm
- cam 3 – creu cynllun prosiect
- cam 4 - casglu eich cyfrifon blynyddol diweddaraf
- cam 5 - cwblhau ffurflen ar-lein lle byddwch yn ateb mwy o gwestiynau am eich prosiect a'ch sefydliad. Byddwn hefyd yn gofyn i chi uwchlwytho'r dogfennau a grëwch yng nghamau 1 i 4 ar y cam hwn.
Cam 1 – ymateb i’n cwestiynau
Bydd angen i chi baratoi'r atebion i'r cwestiynau hyn mewn dogfen Word (neu debyg). Yna dylech chi uwchlwytho'r ddogfen rydych chi'n ei chreu fel PDF pan gyrhaeddwch 'Gam 5'.
Mae uchafswm geiriau ar gyfer pob cwestiwn. Ni allwn warantu y byddwn yn darllen testun sy'n mynd y tu hwnt i'r uchafswm geiriau. Ni fyddwn yn derbyn atodiadau fel papurau ymchwil neu ddogfennau gwerthuso oni bai ein bod wedi gofyn amdanynt yn benodol.
Mae angen i chi ddweud wrthym:
1. Beth yw eich gweledigaeth a'ch nodau hirdymor ar gyfer eich prosiect?
Dylech chi ddweud wrthym am:
- eich gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y prosiect
- gweithgareddau'r prosiect a'i ganlyniadau disgwyliedig
- y dystiolaeth rydych chi wedi'i chasglu i ddangos mai'r prosiect a'i ddull yw'r hyn sydd ei angen
- sut y bydd eich gweithgareddau'n gynaliadwy ar ôl i'r cyfnod ariannu ddod i ben
Gallwch ysgrifennu hyd at 600 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.
2. Ble fydd eich prosiect a sut fydd yn gweithio?
Dylech chi ddweud wrthym am:
- ble fydd y prosiect yn digwydd – gan gynnwys a yw'n wledig, trefol neu arfordirol
- pwy fydd yn cymryd rhan – gan gynnwys faint o bobl ac os oes unrhyw grwpiau penodol o bobl rydych chi’n bwriadu gweithio gyda nhw
- y materion penodol y mae'r gymuned yn eu hwynebu o ran newid hinsawdd a mynd i'r afael â'i hôl troed carbon
- sut mae eich prosiect yn ymateb i unrhyw amcanion llywodraeth, cynlluniau lleol neu flaenoriaethau
- unrhyw brosiectau gweithredu hinsawdd eraill sydd wedi digwydd yn eich ardal
- unrhyw heriau rydych chi'n disgwyl eu hwynebu a sut y byddwch chi'n eu goresgyn
Gallwch ysgrifennu hyd at 800 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.
3. Sut fyddwch chi'n gweithio mewn partneriaeth?
Dywedwch wrthym am eich partneriaeth, gan gynnwys:
- pwy fydd yn rhan o'ch partneriaeth - ar gyfer pob sefydliad sy’n bartner, dylech gynnwys:
- statws cyfreithiol eu sefydliad – gallwch ganfod pa fathau o sefydliadau sy'n gymwys i wneud cais ar ein gwefan
- enw’r prif gyswllt – gan gynnwys ei swydd, a manylion ei rôl yn y bartneriaeth
- sut y bydd y bartneriaeth yn cael ei llywodraethu – er enghraifft, gyda chytundeb partneriaeth
- sut mae'r bartneriaeth wedi dod at ei gilydd
- beth fydd pob partner yn gyfrifol am ei wneud
Gallwch ysgrifennu hyd at 600 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.
4. Sut fydd y prosiect yn cefnogi cymunedau i gymryd rhan yn ystyrlon?
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaethau sydd â dealltwriaeth ddofn o gymunedau, pobl a'r materion a'r diddordebau sydd bwysicaf iddyn nhw. Ym mhob prosiect rydyn ni'n ei gefnogi, rhaid i bobl o gymunedau gael eu cynnwys mewn modd ystyrlon.
Dylech chi ddweud wrthym:
- sut mae'r gymuned yn rhan o ddylunio, datblygu a chyflawni'r prosiect
- gyda phwy rydych chi wedi siarad â hwy neu sut rydych chi wedi gweithio gyda'r gymuned wrth ddatblygu'r prosiect hwn
- sut mae'r prosiect yn ymateb i'r hyn sydd ei angen ar y gymuned, ac yn cefnogi'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw
- sut y byddwch yn mynd i'r afael â rhwystrau i gyfranogiad ar gyfer pobl a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
Gallwch ysgrifennu hyd at 600 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.
5. Sut fyddwch chi'n mesur ac yn gwerthuso'r prosiect?
Dylech chi ddweud wrthym:
- sut y byddwch chi'n mesur y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud ac yn adrodd arno
- pa newidiadau rydych chi'n disgwyl eu gweld
- Er enghraifft, gallech fesur:
- newid ymddygiad a newidiadau mewn agweddau
- cyfranogiad ac ymgysylltiad
- gostyngiadau carbon
Gallwch ysgrifennu hyd at 500 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.
6. Sut fyddwch chi'n dysgu ac yn rhannu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu?
Rydym yn disgwyl i chi gael cynllun ymgysylltu fel y gallwch ddweud wrth eraill am yr hyn rydych chi'n ei wneud a'i ddysgu.
Byddwn yn cefnogi'r gwaith hwn drwy drefnu gweithdai ac amser i gyfarfod â phrosiectau eraill y Gronfa Gweithredu Hinsawdd a'n partneriaid dysgu. Yn dibynnu ar fath a maint eich prosiect, dylech neilltuo o leiaf 1 i 2 ddiwrnod y mis i ymgysylltu. Mae'n bwysig cynnwys hyn yn eich cynlluniau a'ch cyllidebau.
Dylech chi ddweud wrthym:
- sut y byddwch yn sefydlu proses reolaidd o ddysgu am y prosiect ac am y bartneriaeth
- sut y byddwch chi'n sicrhau bod y dysgu hwn yn cael ei rannu mewn pryd, ac mor eang â phosibl
- ynghylch eich dulliau, eich cynulleidfaoedd a'ch dull gweithredu
- sut fyddwch chi'n cynyddu cyfranogiad yn y broses ddysgu
- pa brofiad sydd gan y sefydliadau yn eich partneriaeth o gynhyrchu a rhannu dysgu
- pa gefnogaeth fyddai ei hangen arnoch gennym ni i'ch helpu i ddysgu a rhannu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu – er enghraifft ym maes arweinyddiaeth, technegol neu werthuso
Gallwch ysgrifennu hyd at 500 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.
7. Sut fyddwch chi'n cyrraedd mwy o bobl?
Lle bo modd, rydym am i'r prosiectau a ariannwn ymgysylltu â phobl y tu hwnt i'r rhai sydd eisoes yn cymryd camau i weithredu ar yr hinsawdd.
Rydym hefyd eisiau gwybod sut y byddwch yn ceisio cynnwys pobl a chymunedau sy'n debygol o gael eu taro galetaf gan newid hinsawdd, yn natblygiad a chyflawniad y prosiect. Rydym yn gwybod y bydd hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl a chymunedau.
Dylech ddweud wrthym:
- beth yw eich cynlluniau i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a chael mwy o bobl yn eich cymuned i gymryd rhan yn y prosiect
- os byddwch chi'n mesur pwy sydd a phwy sydd ddim yn rhan o'ch gwaith
- ynglŷn â pha brofiad sydd gennych chi a'ch partneriaid o wneud newidiadau i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad
- sut y byddwch chi'n sicrhau bod manteision y prosiect yn mynd y tu hwnt i'ch cymuned eich hun – gan gynnwys pa brofiad sydd gennych chi neu'ch partneriaid o wneud hyn
Gallwch ysgrifennu hyd at 500 o eiriau ar gyfer yr adran hon, ond peidiwch â phoeni os ydych chi'n ysgrifennu llai.
Cam 2 – cwblhau cyllideb y prosiect gyda rhagamcanion incwm
Rydym wedi anfon templed cyllideb atoch drwy e-bost. Mae angen i chi gwblhau hwn, ei gadw fel PDF a'i uwchlwytho pan gyrhaeddwch 'Cam 5'.
Dylai eich cyllideb gynnwys:
cyllideb prosiect lawn, realistig, wedi'i rhannu fesul blwyddyn gan gynnwys:
- faint fydd yn mynd i unrhyw bartneriaid
- arian grant arall sydd gennych neu rydych chi'n chwilio amdano
- manylion y swyddi a ariannwyd drwy'r prosiect, gan gynnwys:
- nifer a hyd y swyddi
- p'un a ydyn nhw eisoes yn y swydd neu a fyddan nhw'n cael eu recriwtio
- pa bartner fydd yn eu recriwtio (os yn berthnasol).
- manylion unrhyw wasanaethau a fydd yn cael eu caffael a'u gwerth. Mewn geiriau eraill, unrhyw weithgareddau neu wasanaethau na fyddant yn cael eu darparu gan bartner a enwir
- amser a chost i bartneriaid y prosiect fyfyrio a dysgu drwy gydol y prosiect.
Cam 3 – creu cynllun prosiect
Mae angen i chi gwblhau cynllun prosiect, ei gadw fel PDF a'i uwchlwytho pan gyrhaeddwch 'Cam 5'.
Gallwch uwchlwytho'r cynllun ym mha bynnag fformat sydd fwyaf addas i chi. Ni ddylai cynlluniau ysgrifenedig fod yn hirach na 1,000 o eiriau.
Rydym am ddeall beth fydd yn cael ei gyflawni a phryd, gan gynnwys:
- amserlen o brif weithgareddau'r prosiect
- cerrig milltir y prosiect, canlyniadau ac allbynnau
- pa bartneriaid fydd yn gwneud beth, a phryd.
Cam 4 - casglu eich cyfrifon blynyddol
Mae angen i chi gael eich cyfrifon blynyddol diweddaraf, eu cadw fel PDF a'u lanlwytho pan gyrhaeddwch 'Cam 5'.
Cam 5 – llenwch ffurflen ar-lein ac uwchlwythwch eich dogfennau
Byddwn yn anfon dolen i ffurflen ar-lein atoch drwy e-bost. Nid oes angen i chi wneud y cyfan ar unwaith. Gallwch ei chadw a dod yn ôl ati os oes angen.
Yn y ffurflen byddwn yn gofyn am wybodaeth gan gynnwys:
- manylion eich sefydliad
- manylion eich prosiect
- manylion eich prif gyswllt ac uwch gyswllt – gan gynnwys dyddiadau geni a chyfeiriadau cartref
- dogfennau ategol gan gynnwys eich:
- ymatebion i'n cwestiynau - a restrir yn 'Cam 1'
- cynllun prosiect - a ddisgrifir yn 'Cam 2'
- cyllideb gyda rhagamcanion incwm – a ddisgrifir yn 'Cam 3'
- cyfrifon blynyddol diweddaraf – a ddisgrifir yn 'Cam 4'
- dogfen lywodraethol (os nad ydych chi'n elusen nac yn gorff statudol)
Pethau eraill rydyn ni'n eu hystyried wrth asesu eich cais
Os ydych chi'n gwneud cais am grant datblygu
Rydym yn cynnig grantiau datblygu llai i ymgeiswyr sydd angen amser i ddatblygu eu partneriaeth, ymgysylltu'n ehangach neu brofi eu dulliau.
Gallwch wneud cais am grant datblygu rhwng £50,000 a £150,000. Gall grantiau datblygu ariannu prosiectau am 12 i 18 mis.
Nid yw cael grant datblygu yn gwarantu y byddwch yn cael grant tymor hwy wedi hynny.
Efallai na fydd gennym ddigon o arian i gynnig grantiau llawn i bob prosiect sy'n cael grant datblygu. Os cewch grant datblygu, dylech chwilio am arian tymor hwy o ffynonellau eraill heblaw am y Gronfa Gweithredu Hinsawdd.
Beth i'w wneud ynglŷn â chytundebau partneriaeth
Nid oes angen i chi anfon cytundeb partneriaeth atom gyda'r cais hwn. Ond bydd angen i ni weld hwn os byddwn yn rhoi grant i chi.
Bydd pob partneriaeth yn wahanol yn dibynnu ar y partneriaid a sut maen nhw'n cytuno i gydweithio. Dylai pob partneriaeth allu dangos sgiliau, profiad, gallu ac ymrwymiad ar y cyd i gyflawni'r prosiect.
Dylent hefyd fod â:
- chytundeb ynghylch sut y dylid gwneud penderfyniadau allweddol a’u cyfleu
- rolau a chyfrifoldebau wedi'u nodi'n glir ar gyfer pob partner a chytundeb arnynt.
- Rydym yn derbyn dau strwythur cyfreithiol ar gyfer partneriaethau gan gynnwys:
- sefydliad partner arweiniol – sy'n ymrwymo i gytundebau partneriaeth â thrydydd partïon, sy'n dod yn is-grantwyr
- grŵp o sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd
Byddwn angen cytundebau ysgrifenedig sy'n rhwymo'n gyfreithiol
Os ydym yn ariannu partner arweiniol, mae angen cytundebau ysgrifenedig sy'n rhwymo'n gyfreithiol ar waith rhwng y partneriaid. Rhaid i'r rhain nodi'r rolau a'r cyfrifoldebau a sicrhau bod pob partner yn cydymffurfio â'n telerau ac amodau. Nid ydym yn creu nac yn adolygu cytundebau ar gyfer trydydd partïon.
Os ydym yn ariannu grŵp o sefydliadau , rydym yn disgwyl i bob deiliad grant fod yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau. Byddem hefyd yn disgwyl memorandwm o ddealltwriaeth rhwng y partneriaid sy'n nodi disgwyliadau ynghylch rolau, cyfrifoldebau a threfniadau llywodraethu, gan gynnwys rôl Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dywedwch wrthym am unrhyw drefniant partneriaeth sy'n bodoli eisoes yn eich cais
Os oes strwythur partneriaeth eisoes ar waith, dylech ddweud wrthym yn eich cais. Rydym am wybod am y trefniadau presennol sydd ar waith (y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol neu fel arall). Os oes angen, efallai y bydd angen gwelliannau i'r trefniadau presennol neu berthnasoedd cyfreithiol newydd arnom.
Templed cytundeb partneriaeth
Gallwn roi templed cytundeb partneriaeth i chi, neu gallwch greu eich un eich hun. Gall y templed fod yn ddefnyddiol os oes gennych un partner arweiniol — y partner sy'n cael yr holl arian ac yn trosglwyddo rhywfaint ohono i'r partneriaid eraill.
Canllaw yn unig yw ein templed ac ni allwn roi cyngor cyfreithiol i chi. Dylech gael eich cyngor cyfreithiol eich hun cyn llofnodi unrhyw gytundeb os ydych yn ansicr. Os hoffech y templed hwn, dylech ofyn i'ch Swyddog Portffolio.