Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith

Rydym eisiau i bob cymuned gael ei grymuso i ffynnu. Fel ariannwr cymunedol mwyaf y DU, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod arian y Loteri Genedlaethol ar gael i bawb - beth bynnag eu cefndir neu brofiad.

Rydym yn cymhwyso egwyddorion tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant:

  • wrth ddyfarnu grantiau
  • wrth weithio gyda phobl
  • wrth leihau rhwystrau diangen yn ystod pob cam.

Mae gweithlu amrywiol yn ein gwneud ni’n gryfach

Er mwyn bod yn ariannwr credadwy ac effeithiol, mae angen i ni adlewyrchu’r cymunedau a’r gymdeithas rydym yn eu gwasanaethu. Yn ogystal, rydym yn gwerthfawrogi manteision busnes cyflogi pobl dalentog o ystod eang o gefndiroedd.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn:

  • lle teg, cydradd a chynhwysol i weithio
  • weithle lle mae pob cydweithiwr yn cael ymdeimlad o gysylltiad a pherthyn
  • cynnig arferion gweithio hyblyg
  • cefnogol, gydag ystod o fuddion o’r radd flaenaf

Mynd i’r afael â rhwystrau wrth recriwtio

Rydym yn cymryd camau ymarferol i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â rhwystrau wrth recriwtio ac rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Os ydych o gefndir ethnig lleiafrifol

Rydym wedi llofnodi Siarter ‘Race at Work’. Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o gefndir ethnig lleiafrifol.

Os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd hirsefydlog

Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer rôl.

Gallwn gynnig addasiadau ar unhryw gam recriwtio – er enghraifft:

  • mwy o amser i wneud tasg
  • offer hygyrch
  • help gyda theithio

I wneud cais am addasiad neu i ofyn am opsiwn arall yn lle’r ffurflen gais ar-lein, cysylltwch â’r Tîm Pobl:

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd.

Os ydych yn LHDT+

Rydym yn aelodau o gynllun Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall. Ein nod yw bod yn lle gwych i weithio i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol ac anneuaidd. Rydym yn annog ymgeiswyr LHDT+ i wneud cais.

Os ydych dros 50

Rydym wedi llofnodi’r Addewid Cyflogwr sy’n Gyfeillgar o ran Oed. Rydym yn cydnabod gwerth gweithwyr hŷn fel rhan o weithlu aml-genhedlaeth. Os ydych yn eich 50au neu 60au, rydym yn croesawu eich cais.

Cefnogi ein pobl

Mae gennym rwydweithiau staff sefydledig i gefnogi ein cydweithwyr. Mae ein Fforwm Cydweithwyr EDI gweithgar yn ein helpu i drafod materion yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.

Pryderon neu gwynion am recriwtio

Os ydych yn teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn deg cysylltwch â’r Tîm Pobl: timpobl@cronfagymunedolylg.org.uk