Buddion gweithio gyda ni
Rydym yn cydnabod fod cadw ein pobl yn hapus ac yn iach yn ein galluogi ni i fod yn sefydliad mwy effeithiol ac yn gwneud Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn lle gwell i weithio. Gwyliwch fideo YouTube am y buddion.
Amser i ffwrdd
Mae'r wythnos waith safonol i staff amser llawn yn 37 awr, gydag o leiaf 30 munud o egwyl cinio di-dâl bob dydd. Rydym yn cynnig ystod o opsiynau gweithio hyblyg ffurfiol ac anffurfiol ynghyd ag absenoldeb hael â thâl.
Gweithio’n hyblyg
Mae gweithio hyblyg yn galluogi timau ac unigolion i reoli'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac yn sicrhau ar yr un pryd bod y sefydliad yn gallu gweithredu'n effeithiol.
- oriau rhan-amser
- oriau cywasgedig
- oriau gwaith ansafonol
- gweithio oddi cartref ad hoc
- rhannu swydd
- oriau gwaith hyblyg
Gwyliau blynyddol hael
Yn ogystal â gwyliau banc cynigir 25 niwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn wrth ymuno â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan godi un diwrnod ar gyfer bob blwyddyn o gyflogaeth hyd at gyfanswm o 30 niwrnod. Rhoddir tri diwrnod ychwanegol o wyliau bob blwyddyn - ar adeg y Nadolig fel arfer. Bydd eich hawl yn amrywio yn unol â'ch dyddiad penodi, ac mae'n pro rata ar gyfer cyflogeion rhan-amser.
Ariannol
Mae'r cynnydd mewn cyflog yn seiliedig ar y cynnydd canrannol a bennir gan Drysorlys EM bob blwyddyn. Yn ogystal â'ch cyflog rydym yn cynnig nifer o fuddion ariannol.
Cynllun pensiwn
Mae’r Gronfa yn gweithredu dau gynllun pensiwn, Alpha, ein Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) a Chynllun Partneriaeth Pensiwn gyda Legal & General.
Gydag Alpha, mae cyfraddau cyfraniad y cyflogwr rhwng 26.6% a 30.3% ac mae cyfraddau cyfraniadau’r cyflogai rhwng 4.6% a 8.05% yn dibynnu ar y cyflog.
Gyda Partnership, mae cyfraddau cyfraniad y cyflogwr rhwng 8% a 14.75% o’ch enillion. Nid oes raid i chi gyfrannu i’r cynllun hwn, ond os ydych yn gwneud, bydd y Gronfa yn cyfateb i'ch cyfraniadau hyd at 3% o'ch tâl pensiynadwy.
Cynllun gofal iechyd
Rydym yn cynnig cynllun arian parod gofal iechyd rhad sy'n gofalu amdanoch chi a'ch teulu, gan ddarparu ystod o fuddion iechyd a lles cadarnhaol. Hyd yn oed yn well, mae hefyd yn gofalu am ochr ariannol pethau gyda thaliadau arian parod tuag at gostau fel biliau deintyddol ac optegol, taliadau presgripsiwn a hyd yn oed aros yn yr ysbyty.
Iechyd a lles
Rydym yn cydnabod fod cadw ein pobl yn hapus ac yn iach yn ein galluogi ni i fod yn sefydliad mwy effeithiol ac yn gwneud Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn lle gwell i weithio.
Profion llygaid a sbectol
Mae pob person sy'n defnyddio monitro cyfrifiadur yn gymwys i gael prawf llygaid am ddim wrth gael eu penodi ac ar adegau rheolaidd wedi hynny. Os rhoddir presgripsiwn offer arbennig neu sbectol i chi ar gyfer defnyddio monitro cyfrifiadur yn sgil y prawf llygaid, bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn talu am gost lensys a ffrâm sbectol sylfaenol o fewn uchafswm terfynau penodol.
Rhaglen Cynorthwyo Cyflogeion
Mae gan ein holl gyflogeion fynediad i raglen cynorthwyo cyflogeion gyfrinachol, sy'n darparu gwybodaeth a chyngor ar ystod helaeth o bynciau sy'n effeithio ar eich bywyd gwaith neu bersonol.
Cynllun Disgownt Cyflogeion
Rydym yn darparu cynllun buddion disgownt sy'n cynnig ystod helaeth o ddisgowntiau i'ch helpu i arbed arian oddi ar siopa, teithio, gwyliau a llawer mwy.
Cycle2Work
I hyrwyddo teithiau mwy iach i'r gwaith ac i gefnogi ein dyheadau cymdeithasol ac amgylcheddol, rydym yn cynnig cyfle i gymryd rhan yn y cynllun beicio i'r gwaith, sy'n fenter gan y Llywodraeth. Mae beiciau'n cael eu prynu gennym ni a'u benthyg i chi am gyfnod o 12 mis, yn ystod y cyfnod hwnnw rydych yn ad-dalu'r swm trwy aberthu cyflog, gan leihau eich cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol.
Tocyn Tymor a Benthyciad Cycle2Work
Ar ôl i chi weithio gyda ni am fis rydych yn gymwys i ymgeisio am fenthyciad tocyn tymor di-log o hyd at £5,000, neu fenthyciad prynu beic o hyd at £1,000 i deithio i'r gwaith.
Rhoi Wrth Ennill
Gallwch gefnogi eich hoff elusen neu elusennau trwy'r Cynllun Rhodd Uniongyrchol Rhoi Wrth Ennill, sy'n cael ei ddidynnu'n syth o'ch tâl. Mae rhoi'n uniongyrchol o'ch tâl yn ddi-dreth a bydd yr achosion rydych yn frwd o'u pleidiau nhw yn elwa o'ch cefnogaeth reolaidd.
Absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu â thâl
Bydd staff sy'n gymwys i dderbyn tâl mamolaeth statudol yn derbyn eu tâl llawn yn ystod 22 wythnos gyntaf eu habsenoldeb mamolaeth, yn ogystal â buddion tâl ychwanegol.
Absenoldeb tadolaeth â thâl
Bydd staff sy'n gymwys i dderbyn tâl tadolaeth statudol yn derbyn 10 niwrnod o dâl llawn, yn ogystal â buddion tâl ychwanegol.
Absenoldeb rhieni a rennir â thâl
Rydym hefyd yn cynnig yr opsiwn o rannu absenoldeb rhieni gyda thâl ychwanegol, i staff sy’n gymwys.
Absenoldeb rhiant â thâl
Mae gan staff sydd wedi gweithio gyda ni am flwyddyn hawl i wythnos o absenoldeb rhiant ar dâl llawn bob blwyddyn os oes ganddynt un plentyn neu fwy o dan wyth mlwydd oed. Mae hyn yn ychwanegol at eu hawl i wyliau blynyddol.
Absenoldeb gwirfoddoli â thâl
Gall cyflogeion ofyn am hyd at dri diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn i wirfoddoli.
Absenoldeb dyletswydd gyhoeddus â thâl
Gall staff gymryd hyd at 18 niwrnod y flwyddyn i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus.
Egwyl gyrfa ddi-dâl
Gall staff gyda dwy flynedd o wasanaeth ofyn am egwyl gyrfa ddi-dâl o hyd at 50 wythnos bob pum mlynedd fel absenoldeb astudio, cyfnod sabothol neu deithio, neu i dreulio cyfnod estynedig gyda'u plant y tu hwnt i'w hawl i absenoldeb rhiant.
Datblygu
Mae'r Tîm Dysgu a Datblygu Dawn yn y Gronfa yn chwarae rôl hollbwysig wrth ddatblygu pobl er mwyn cynnal eich cymhelliant, a chynyddu eich sgiliau a'r galluoedd i gyrraedd eich potensial.
Tanysgrifiadau Proffesiynol
Os ydych mewn swydd lle mae aelodaeth o gymdeithas neu fudiad proffesiynol yn gysylltiedig yn uniongyrchol â swyddogaeth eich rôl, gallwch gyflwyno hawl i'r ffioedd tanysgrifio gael eu had-dalu, hyd at uchafswm o un tanysgrifiad y flwyddyn.