Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Ein gweledigaeth

Yn hwyr yn 2022, fel rhan o’r broses adnewyddu strategaeth, cynhaliodd tîm traws-adrannol o gydweithwyr waith manwl ar yr amgylchedd. Cyflwynodd y tîm y weledigaeth ganlynol fel casgliad o’r broses honno.

Ein gweledigaeth: saith nod strategol

Rydym yn argymell bod y gronfa’n mabwysiadu dull uchelgeisiol, ac rydym yn cyflwyno gweledigaeth gyda saith nod strategol lle rydym yn ysgogi creadigrwydd, menter ac awydd am newid ymhlith y Trydydd Sector i gyflawni:

Ar gyfer pobl a’r blaned

  1. Mae cymunedau ar draws y DU yn wydn i’r hinsawdd
    • cydnabod y bydd rhai cymunedau yn cael eu heffeithio’n fwy nag eraill
    • (ail) ddychmygu sut y gall cymuned ffyniannus ymddangos mewn byd 2–3ºC
  2. Mae pobl mewn cymunedau ym mhobman yn cael eu grymuso i gymryd camau amgylcheddol cadarnhaol
    • ysgogi dealltwriaeth ddyfnach o’r argyfwng natur a hinsawdd, a sut mae’n gysylltiedig â bywydau bob dydd cymunedau
    • mae newid lleol a gweladwy yn annog mwy o bobl i gymryd rhan, gan adeiladu perchnogaeth a sbarduno newid ymddygiad ehangach
    • mae pobl yn cael mynediad at asedau amgylcheddol o safon uchel, gan gynnwys gofod gwyrdd a glas, aer glân, ac amgylcheddau iach
  3. Mae dirywiad bioamrywiaeth y DU yn cael ei atal, ac yn dechrau ffynnu eto

Ar gyfer y Trydydd Sector

  1. Mae’r Trydydd Sector yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni cynaliadwyedd amgylcheddol, i gefnogi cymunedau sy’n ffynnu 1
    • mae’r Trydydd Sector yn cyfrannu’n glir at Net Sero y DU erbyn 2030
    • cydlyniant fel sector; adeiladu mudiad cryf. mae sefydliadau’r Trydydd Sector yn eiriolwyr dros yr achos
    • normaleiddio ymddygiad amgylcheddol cadarnhaol mewn cymunedau
    • mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn darparu cymorth gweithredol a sefydliadol i sefydliadau’r Trydydd Sector

Ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel cyllidwr

  1. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn weithredol Net Sero erbyn 2030
    • cynllun gwaith parhaus, gyda monitro rheolaidd
  2. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gyllidwr adfywiol 2
    • yn cefnogi’n weladwy ymrwymiad y DU i Net Sero erbyn 2050 3
    • yn gyllidwr natur-bositif 4, gan gefnogi’r DU i fod yn NP erbyn 2030
    • yn gweld effaith amgylcheddol fel maes trawsgroestoriadol, ar draws popeth, yn debyg i EDI
    • yn galluogi cymunedau i gymryd rhan mewn newid
    • yn rhoi ffocws bwriadol ar gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol
    • yn flaengar ei feddwl, yn cadw i fyny gyda datblygiadau ac yn ategu cyllidwyr eraill
  3. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cael ei hadnabod fel llais dibynadwy ar y berthynas rhwng cymunedau a’r amgylchedd
    • yn datblygu strategaeth amgylcheddol glir ac yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i greu effaith, dysgu a rhannu gwybodaeth trwy gydweithio â chyllidwyr eraill
    • yn ceisio’n rhagweithiol weithredu fel dylanwadwr a chydlynydd, gyda chyfathrebu pwrpasol o amgylch ei heffaith amgylcheddol
    • yn canolbwyntio ar dystiolaeth o safon; gwybodaeth a dysgu; ymchwil
    • mesur effaith yn gyson (gan gynnwys deall effeithiau anfwriadol ein cyllid 5)
    • yn adeiladu lefel uchel o arbenigedd amgylcheddol ar draws y sefydliad

Troednodiadau

  1. mesurau posibl: mynegai lleoedd ffyniannus; pryderon amgylcheddol a theimlad o asiantaeth
  2. symud y tu hwnt i’r dull ‘gwneud cyn lleied o niwed’, tuag at geisio cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
  3. rydym yn cydnabod bod nifer o densiynau allweddol yn codi mewn cyllido i gyflawni’r nod hwn (gweler y blog yn atodiad 1)
  4. gan weithio ochr yn ochr â chyrff eraill – mae pum asiantaeth natur statudol (Pwyllgor Cadwraeth Natur ar y Cyd, Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot a’r Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon) wedi dod at ei gilydd i nodi sut y gall y DU gyflawni ei hymrwymiad i fod yn natur-bositif erbyn 2030
  5. er enghraifft, mae’r diwydiant hysbysebu’n ychwanegu 32% at ôl troed carbon blynyddol pob person yn y DU
  6. yn nhermau’r ymrwymiad hwn, mae’r term buddsoddiadau yn cyfeirio at gronfeydd sefydlog / buddsoddiadau a gedwir gan ymddiriedolaethau elusennol (yn hytrach na grantiau / dyfarniadau a roddir ganddynt)