Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Dechreuodd: Sut mae cymunedau'n cymryd camau amgylcheddol

Dechreuodd gyda phobl yn dod at ei gilydd

Mae pob prosiect cymunedol yn dechrau yn rhywle. Gyda sgwrs. Paned o de. Pobl yn gofyn, "Beth pe baem yn rhoi cynnig ar hyn?" Neu yn syml sylwi ar yr hyn sydd ei angen ar y gymuned leol.

Rydyn ni eisiau dathlu hynny - yr adegau pan fydd pobl yn dod at ei gilydd ac yn penderfynu gweithredu. Oherwydd gall hyd yn oed gweithredoedd bach dyfu i fod yn rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Ledled y DU, mae cymunedau eisoes yn cymryd camau amgylcheddol yn eu ffyrdd eu hunain, yn eu hardaloedd eu hunain. Ddim yn aros am ganiatâd. Yn mynd ati. Ar hyd y ffordd, mae pobl yn dod o hyd i fuddion nad oeddent yn eu disgwyl - arbed arian, meithrin sgiliau, teimlo'n fwy cysylltiedig a dod o hyd i lawenydd yn y llefydd y maen nhw'n eu galw'n gartref.

Dyna beth rydyn ni'n ei rannu: straeon go iawn gan bobl fel chi, sy'n byw mewn cymunedau fel eich un chi. Cymdogion, ffrindiau, gwirfoddolwyr, grwpiau lleol – yn gweithio gyda'i gilydd i wneud eu strydoedd, eu parciau a'u mannau cyffredin yn lanach, yn wyrddach ac yn well i bawb.

Dod o hyd i grant ar gyfer eich syniad

A phan fydd syniad angen cefnogaeth i ddechrau, gallwn helpu. Rydym yn cefnogi prosiectau amgylcheddol o bob siâp a maint. Rydym yn rhoi grantiau o £300 hyd at £20,000 trwy ein rhaglen Arian i Bawb agored, i dros £500,000 trwy ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd.

Mae un cwestiwn yn parhau: beth fyddwch chi'n ei ddechrau?

Darllen mwy o straeon

Dechreuodd gyda ffordd newydd o ddysgu – stori Gwynfor

Mae prosiectau fel Welcome to Our Woods nid yn unig yn cefnogi unigolion, maen nhw'n creu manteision sy'n lledu i'r gymuned ehangach.

Dechreuodd gydag wyneb cyfeillgar – stori Nmoye

Trwy Support and Action Women's Network, mae Nmoye yn helpu i adeiladu cynhwysiant, hyder ac ymdeimlad o berthyn.  

Dechreuodd gyda Thaith Gerdded a Sgwrs – stori Mohammed

Gyda chefnogaeth Gronfa Gweithredu Hinsawdd, mae prosiectau fel Gwarchodfa Natur Leol Hamiltonhill Claypits yn dangos beth all ddigwydd pan fydd cymunedau'n arwain y ffordd.

Dechreuodd gyda hedyn o obaith – stori Helen

Dechreuodd gyda hedyn o obaith – stori Helen