Cronfa'r Deyrnas Unedig

Sol Cafe, England

Mae Cronfa’r Deyrnas Unedig yn cynnig symiau mwy o arian ar gyfer prosiectau presennol. Byddwn ni’n ariannu prosiectau sy'n helpu i ddod â chymunedau amrywiol at ei gilydd. O fis Gorffennaf 2024, byddwn ni hefyd yn ariannu prosiectau sy'n helpu plant a phobl ifanc i ddefnyddio eu llais i ddylanwadu ar newid.

Rhaid i bob prosiect wneud y canlynol:

  • bod o fudd i gymunedau ledled y DU (drwy weithio mewn gwahanol leoedd, neu drwy rannu dysgu rhwng gwledydd)
  • cynyddu eu heffaith drwy ehangu eu gwaith (drwy helpu mwy o bobl, neu wneud mwy i bobl maen nhw eisoes yn gweithio gyda nhw)
  • cefnogi pobl sy'n dioddef tlodi, anfantais a gwahaniaethu
  • helpu i wneud newidiadau sylweddol i wasanaethau neu systemau sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl.

A bodloni un o'r nodau hyn:

  • gwella perthnasoedd rhwng pobl â phrofiadau bywyd gwahanol
  • helpu pobl a chymunedau sy'n ei chael hi'n anodd cwrdd wyneb yn wyneb i wneud cysylltiadau ystyrlon ar-lein
  • helpu pobl o bob cefndir i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau
  • helpu plant a phobl ifanc sy'n wynebu heriau penodol i newid y systemau sy'n effeithio arnyn nhw
  • helpu mwy o sefydliadau i gynnwys plant a phobl ifanc a gwrando arnyn nhw.

Rydych chi'n fwy tebygol o gael arian os ydych chi'n cyrraedd un nod yn dda.

Rydym ni’n annhebygol o ariannu prosiectau sy'n gwneud ychydig o bopeth. Edrychwch ar yr hyn rydyn ni'n gobeithio ei ariannu am fanylion ac enghreifftiau.

Byddwn ni ond yn eich ariannu i gynyddu effaith pethau rydych chi eisoes yn eu gwneud.

Felly ni fyddwn ni’n ariannu ffordd newydd sbon o weithio. Neu brosiectau sy'n ymwneud yn bennaf â darparu gwasanaeth

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Rhaid i chi naill ai weithio ar draws y DU, neu allu hysbysu, dylanwadu neu dyfu ar draws y DU.
Maint yr ariannu
£500,000 i £5 miliwn. Mae grant ar gael am 2 i 10 mlynedd. Rydym ni’n disgwyl ariannu tua 20 o brosiectau y flwyddyn.
Terfyn amser ymgeisio

Parhaus

Gwneud cais

Cyn i chi wneud cais

1. Gwiriwch fod yr arian hwn yn iawn i chi drwy ddarllen yr hyn rydyn ni'n gobeithio ei ariannu.

2. Gwyliwch ein crynodeb fideo byr o Gronfa’r Deyrnas Unedig:

Darllenwch drawsgrifiad o'r crynodeb fideo byr.

Sut i wneud cais

Gwneud cais Parhau gyda’r cais ar-lein

Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi lenwi ffurflen gais ar-lein

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu.

Gallwn ddarparu ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym ni am eich syniad, fel:

  • fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r ffurflen gais a'r canllawiau
  • fersiwn PDF o'r ffurflen gais
  • rhannu fideo yn disgrifio eich syniad prosiect, yn hytrach na'i ddisgrifio mewn geiriau
  • fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o'r ffurflen gais a'r canllawiau.

Pa wybodaeth rydych chi ei hangen i wneud cais

Yn y ffurflen gais byddwn yn gofyn y canlynol i chi:

  • beth rydych chi am ei wneud a pham
  • sut mae eich syniad yn bodloni ein nodau a'n meini prawf ariannu (wedi'u rhestru yn yr hyn rydyn ni’n gobeithio ei ariannu)
  • beth rydych chi'n gobeithio ei ddysgu a pha effaith y bydd eich dysgu yn ei chael.

Gallwch weld rhestr lawn o gwestiynau o'r ffurflen gais.

Gofynnwn am fanylion cyswllt, cyfeiriadau cartref a dyddiadau geni dau berson gwahanol o'ch sefydliad. Rydym ni angen cyfeiriad e-bost gwahanol ar gyfer pob person

Dylai un person fod yn rhywun y gallwn ni siarad ag ef os oes gennym ni unrhyw gwestiynau am eich prosiect. Dylai'r person arall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am yr arian. Mae angen i'r ddau fyw yn y DU.

Ni all y ddau berson hyn fod yn perthyn. Gall perthyn olygu:

  • perthyn trwy briodas
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • perthyn drwy bartner tymor hir
  • yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn perthyn drwy waed.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais

Fel rheol mae'n cymryd o leiaf 6 mis o'r amser y byddwch chi’n anfon eich cais cyntaf atom i gael gwybod p’un a ydych chi’n cael cyllid.

Dyma beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais:

  1. Byddwn yn ystyried eich cais
    Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi i siarad am eich prosiect, neu i gael rhagor o wybodaeth.
    Mae galw mawr am y grant hwn. Felly dim ond os yw eich cais yn cyd-fynd yn gryf â'r hyn rydyn ni'n gobeithio ei ariannu y byddwn ni’n eich gwahodd i'r cam nesaf.

  2. Byddwn yn anelu at ddweud wrthych chi os ydych chi drwodd i'r cam olaf o fewn 12 wythnos
    Os nad ydych chi’n llwyddiannus, byddwn yn dweud pam wrthych chi.

    Os byddwch chi’n llwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect.

  3. Byddwch yn anfon rhagor o wybodaeth atom ni
    Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ariannol a chynnig prosiect manylach sy'n cwmpasu sut y byddwch chi’n cyflawni'r gwaith hwn.

    Fel arfer bydd gennych chi o leiaf pythefnos i ddarparu'r wybodaeth hon. Bydd un o'n tîm yn darllen drwyddo. Byddant yn gweithio gyda chi i ddarganfod mwy am eich prosiect. Fel arfer byddwn yn cael galwadau neu negeseuon e-bost gyda chi.

  4. Byddwn yn dweud wrthych chi beth yw ein penderfyniad terfynol tua 4 mis ar ôl i ni gael eich cynnig
    Bydd ein panel yn penderfynu a ddylid cynnig grant i chi.

    Os na fyddwn ni’n cynnig grant i chi byddwn ni’n rhoi adborth i chi i egluro pam. Byddwn ni hefyd yn ceisio cynnig cefnogaeth i chi. Er enghraifft, rhoi awgrymiadau i chi ynglŷn â sut i wella unrhyw geisiadau rydych chi'n eu hysgrifennu yn y dyfodol. Neu rhoi gwybod i chi am grwpiau eraill sy'n gwneud gwaith tebyg.

  5. Os yw eich cais yn llwyddiannus
    Dyma beth sy'n digwydd pan ddyfernir arian i chi. Byddwn hefyd yn trafod sut y gallwn ni eich helpu chi:
    • dathlu a hyrwyddo eich grant
    • rhannu eich dysgu a chydweithio ag eraill.

Dim ond swm penodol o arian sydd gennym i'w ddyfarnu

Rydym ni’n cael llawer o geisiadau, ac mae llawer ohonynt ar gyfer prosiectau gwerth chweil iawn. Felly mae'n rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch pa brosiectau y gallwn ni eu hariannu. Mae hyn yn golygu bod llawer o brosiectau da na allwn ni eu hariannu yn aml.

I gael gwybod sut rydym ni’n defnyddio'ch data personol

Gallwch ddarllen ein datganiad diogelu data.

Pwy all wneud cais

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais os yw eich sefydliad yn:

  • elusen gofrestredig
  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol a gyfansoddwyd
  • cwmni cyfyngedig drwy warant (os oes ganddo gymal nid-er-elw neu os yw'n elusen gofrestredig)
  • cwmni buddiannau cymunedol (CIC)
  • sefydliad ymgorfforedig elusennol (CIO)
  • cymdeithas budd cymunedol.
  • cymdeithas gydweithredol (os oes ganddi gymal nid-er-elw ac wedi ei chofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol)
  • corff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned).

Gallwch hefyd wneud cais fel partneriaeth o sefydliadau. Rhaid i bartneriaid a fydd yn cael rhywfaint o'r grant i gyd fod yn un o'r mathau o sefydliadau rydyn ni wedi'u rhestru.

Rydych chi angen o leiaf 2 aelod o'r bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn perthyn

Gall perthyn olygu:

  • perthyn trwy briodas
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • perthyn drwy bartner tymor hir
  • yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn perthyn drwy waed.

Rhaid i bob cwmni sy'n gwneud cais gael o leiaf ddau gyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn mewn unrhyw un o'r ffyrdd hyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmnïau sydd hefyd wedi'u cofrestru fel elusennau.

Os oes gennych chi grant gennym ni eisoes

Gallwch wneud cais o hyd. Pan fyddwn ni’n asesu eich cais, byddwn ni’n ystyried sut y byddai'n cyd-fynd â'ch grant arall.

Pwy na all wneud cais

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan y canlynol:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
  • cwmnïau sy'n gallu talu elw i gyfarwyddwyr, cyfranddalwyr neu aelodau (gan gynnwys cwmnïau sydd wedi'u cyfyngu gan gyfranddaliadau).

Os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais

Gallwch:

Yr hyn rydyn ni’n gobeithio ei ariannu

Yr hyn rydyn ni’n gobeithio ei ariannu

Byddwn ni’n ariannu prosiectau sy'n helpu i ddod â chymunedau amrywiol at ei gilydd. Byddwn ni hefyd yn ariannu prosiectau sy'n helpu plant a phobl ifanc i ddefnyddio eu llais i ddylanwadu ar newid.

Rhaid i'ch prosiect fodloni un o'n nodau

Sef:

  • gwella perthnasoedd rhwng pobl â phrofiadau bywyd gwahanol.

    Fel dod â phobl o wahanol gefndiroedd, cenedlaethau neu leoedd ynghyd.

  • helpu pobl a chymunedau sy'n ei chael hi'n anodd cwrdd wyneb yn wyneb i wneud cysylltiadau ystyrlon ar-lein.

    Er enghraifft oherwydd iechyd corfforol neu feddyliol, neu gysylltiadau trafnidiaeth gwael. Neu oherwydd eu bod yn byw ymhell ar wahân i bobl eraill sy’n rhannu hunaniaeth neu brofiad â nhw.

  • helpu pobl o bob cefndir i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau.

    Fel sefydlu ffyrdd i gymunedau ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

  • helpu plant a phobl ifanc sy'n wynebu heriau penodol i newid y systemau sy'n effeithio arnyn nhw.

    Trwy sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a gweithredu ar y rhain.

  • helpu mwy o sefydliadau i gynnwys plant a phobl ifanc a gwrando arnyn nhw.

    Defnyddio'r hyn maen nhw'n ei ddweud i wella eu cymunedau, a'r systemau a'r gwasanaethau maen nhw’n dibynnu arnyn nhw.

Rydych chi’n fwy tebygol o gael arian os byddwch chi’n cyrraedd un nod yn dda iawn

Nid oes angen i chi gyrraedd yr holl nodau. Rydym ni’n annhebygol o ariannu prosiectau sy'n gwneud ychydig o bopeth.

Enghreifftiau o brosiectau y gallem ni eu hariannu

Ar ein blog gallwch ddarllen enghreifftiau o brosiectau sy'n helpu plant a phobl ifanc i ddefnyddio eu llais.

Yr hyn rydyn ni’n olygu drwy 'cymunedau'

Gyda cymunedau rydym ni’n golygu pobl sy'n rhannu hunaniaeth, diddordeb neu brofiad. Neu pobl sy'n byw yn yr un lle.

Byddwn ni ond yn eich ariannu i gynyddu effaith pethau rydych chi eisoes yn eu gwneud

Felly ni fyddwn yn eich ariannu i roi cynnig ar ffordd hollol newydd o weithio. Rydym ni hefyd am ariannu prosiectau a fydd yn gwneud mwy na darparu gwasanaeth. Mae angen i chi ddangos i ni sut y bydd eich gwaith hefyd yn helpu i newid systemau. Mae mwy am beth mae hyn yn ei olygu yn y meini prawf mae'n rhaid i bob prosiect eu bodloni.

Mae'n iawn i'ch prosiect newid dros amser

Rydym ni’n disgwyl i hyn ddigwydd. Rydym ni’n gyfforddus gydag ansicrwydd, a byddwn yn hyblyg. Byddwn yn eich cefnogi i barhau i ddiwallu anghenion eich cymuned. Rydym ni am ddeall beth allwn ni ei wneud i feithrin capasiti mewn cymunedau a dysgu o'ch profiadau.

Meini prawf mae'n rhaid i bob prosiect eu bodloni

Rhaid i chi ddangos sut y bydd eich prosiect yn gwneud y canlynol:

  • bod o fudd i gymunedau ledled y DU.
    Er enghraifft drwy:
    • cynnal gweithgareddau mewn mwy nag un wlad yn y DU
    • cydweithio rhwng gwledydd
    • rhannu dysgu o'ch gwaith gyda phobl sy'n gwneud pethau tebyg mewn gwledydd eraill.
  • cynyddu eich effaith trwy ehangu eich gwaith.

    Gallai hyn gynnwys cyrraedd mwy o bobl neu ehangu i leoliadau newydd. Ond gallai hefyd olygu datblygu gwell seilwaith. Neu gynyddu'r help rydych chi eisoes yn ei gynnig i bobl.

  • cefnogi pobl sy'n dioddef tlodi, anfantais a gwahaniaethu

    A gwneud pethau'n decach i'r grwpiau hyn (sy’n cael ei alw weithiau yn gwella 'tegwch').

  • helpu i wneud newid sylweddol i wasanaethau neu systemau sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl.

    Weithiau mae hyn yn cael ei alw yn 'newid systemau'. Gyda hyn rydym ni’n golygu gwneud newidiadau mawr a pharhaol i'r ffordd mae sefydliadau neu sectorau yn gweithio gyda'i gilydd. Mae hyn yn cynnwys newid rheolau, arferion a sut mae pobl yn gweithio gyda'i gilydd. Mae hefyd yn cynnwys yr adnoddau sydd ganddyn nhw, pwy sydd â grym, a'r hyn mae pawb yn meddwl sy'n bwysig.

Mae gennym ni ddiddordeb arbennig yn y ffordd y bydd eich prosiect yn gwneud y canlynol:

  • casglu dysgu i ddangos eich effaith

    A rhannu hyn mewn ffordd sy'n ddefnyddiol i eraill. Fel rhannu dysgu gyda'r bobl y gallai eu helpu fwyaf, yn lle ei rannu gyda phawb.

  • cydweithio a gweithio gyda phartneriaid

    Trwy rannu eich gwaith yn agored, a gweithio gydag eraill. Byddwn ni am wybod sut rydych chi'n bwriadu cydweithio â sefydliadau eraill, neu ar draws sectorau. A sut y byddwch chi'n sicrhau y bydd sefydliadau neu gymunedau rydych chi'n gweithio gyda nhw yn bartneriaid cyfartal, hyd yn oed os ydynt yn llai neu'n llai profiadol.

  • cael effaith gadarnhaol ar bobl, cymunedau a'r amgylchedd naturiol.

Rydym ni’n annhebygol o ariannu prosiectau:

  • sydd yn newydd sbon (lle rydych chi'n rhoi cynnig ar ffordd hollol newydd o weithio)
  • nad oes ganddynt dystiolaeth o'u heffaith hyd yn hyn
  • nad oes ganddynt gynllun ar gyfer cynyddu eu heffaith
  • sydd ond yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau (ac nid newid systemau)
  • sydd ond yn bwriadu symud eu gweithgareddau presennol ar-lein
  • sydd yn gweithio ar ei ben ei hun i wneud newidiadau (yn hytrach na gweithio gyda phobl a sefydliadau eraill i wneud newidiadau mwy a pharhaol hirach).

Yr hyn rydyn ni’n edrych amdano o ran dysgu a gwerthuso

Pan fyddwch chi’n gwneud cais dylech ddweud wrthym ni am y canlynol:

  • sut rydych chi'n gwybod bod yr hyn rydych chi wedi'i wneud eisoes yn effeithiol
  • sut rydych chi wedi defnyddio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu i wneud pethau'n well
  • sut y byddwch chi'n cynyddu'ch effaith gyda'r grant hwn.

Os byddwch chi’n cael grant, byddwn ni’n disgwyl i chi fesur y gwahaniaeth mae eich gwaith yn ei wneud. Rydym ni’n gwybod y gall hyn fod yn gymhleth, ac na fydd pethau'n mynd fel y cynlluniwyd bob amser. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i gytuno ar yr hyn rydym ni ei angen a phryd.

Byddwn ni’n disgwyl i chi rannu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu gydag eraill, a gydag unrhyw bartneriaid y byddwn ni’n eu cyflwyno i helpu i gasglu tystiolaeth a dysgu.

Rydym ni’n hapus i ariannu gwaith dysgu a gwerthuso

Gan gynnwys talu am sefydliadau allanol i'ch helpu os ydych chi ei angen. Dylech gynnwys costau ar gyfer hyn yn eich cais.

Os byddwch yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion bregus

Mae angen i chi gael polisi ar waith sy'n esbonio sut y byddant yn ddiogel. Os byddwch chi’n cael grant bydd angen i chi ddilyn ein disgwyliadau ar ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl.

Mae gwefan NCVO yn cynnwys gwasanaethau cyngor a gwybodaeth diogelu plant.

Cydraddoldeb, tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym ni’n disgwyl i'ch sefydliad a'r gweithgareddau rydym ni’n eu hariannu fod yn agored ac yn hygyrch, er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a herio gwahaniaethu.

Byddem yn hoffi ddeall eich ymagwedd tuag at gydraddoldeb, tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant. Efallai y byddwn ni’n gofyn am weld polisi cydraddoldeb eich sefydliad fel rhan o'n hasesiad.

Gallwch ddarllen mwy am ein hegwyddorion cydraddoldeb.

Ystyried eich effaith amgylcheddol

Rydym ni wedi ymrwymo i'ch helpu i ddiogelu'r amgylchedd. Gallwch wirio ein canllawiau ar y canlynol:

Mae gan ein Hwb Gweithredu Hinsawdd wybodaeth hefyd am ein dull o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys dysgu a mewnwelediadau, straeon a chyllid.

Os byddai'n well gennych chi wylio fideo am yr hyn y byddwn ni’n ei ariannu

Gallwch wylio crynodeb fideo byr o Gronfa’r Deyrnas Unedig.

Beth allwch chi wario'r arian arno

Faint o arian y gallwch chi ei gael

Gallwch wneud cais am rhwng £500,000 a £5 miliwn. Mae grant ar gael am 2 i 10 mlynedd. Rydym ni’n disgwyl ariannu tua 20 o brosiectau y flwyddyn.

Gallwn ariannu pethau fel:

  • costau staff, gan gynnwys gweithwyr sesiynol
  • gwaith datblygu (profi ffyrdd newydd o weithio, hyfforddi a datblygu staff, datblygu llywodraethu, uwchraddio a phrynu technoleg neu TG, rhannu dysgu)
  • trafnidiaeth
  • cyfleustodau a chostau rhedeg
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • dysgu a gwerthuso
  • offer
  • costau cyfalaf (ond ni ddylai'r rhain fod yn swm sylweddol o'r arian rydych chi’n gofyn amdano)
  • costau sy'n gysylltiedig â chyflawni eich prosiect mewn ieithoedd eraill, fel y Gymraeg.

Gallwn ariannu rhywfaint o weithgarwch gwleidyddol ac ymgyrchu

Ond dim ond os:

  • nad yw'r gweithgaredd yn blaid wleidyddol. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddo ymwneud â pholisi, arfer, neu ddeddfwriaeth yn hytrach na gwrthwynebu neu gefnogi plaid wleidyddol
  • bwriad y gweithgaredd yw helpu achos eich sefydliad a bod o fudd i'r cyhoedd neu'r gymdeithas.

Ni fyddwn yn ariannu prosiectau lle mai gweithgareddau gwleidyddol yw'r prif bwrpas. Ond gallwn ariannu prosiectau sy'n ymwneud yn bennaf ag ymgyrchu.

Os byddwch chi’n cael eich gwahodd i'r cam nesaf, byddwn yn siarad â chi i gytuno beth fydd y grant yn ei gwmpasu.

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau statudol a gweithgareddau sy'n disodli arian y llywodraeth
  • prosiectau cyfalaf neu adeiladu mawr
  • benthyciadau, gwaddoliadau neu log
  • talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais
  • gweithgareddau lle bydd elw yn cael ei ddosbarthu ar gyfer elw preifat
  • gweithgareddau codi arian
  • TAW y gallwch ei hadfer
  • alcohol
  • pethau rydych chi wedi gwario arian arnynt yn y gorffennol ac yn edrych i hawlio am y tro (costau ôl-weithredol)
  • eitemau a fydd o fudd i unigolyn yn unig, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • gweithgareddau crefyddol (ond gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n ymwneud â chynnwys crefyddol).

Ymrwymiadau rheoli cymhorthdal y DU

Daw ein grantiau o gronfeydd cyhoeddus a gofynnir i geisiadau llwyddiannus gydymffurfio ag Ymrwymiadau Rheoli Cymhorthdal Rhyngwladol y DU a restrir ar wefan GOV.UK. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os ydych chi angen mwy o arweiniad.

Cyflawni eich prosiect yng Nghymru

Os mai Cymru yw un o'r gwledydd y byddwch chi’n gweithio ynddi, bydd angen i chi ddarparu eich gwasanaethau yn ddwyieithog (yn Gymraeg a Saesneg). Mae hyn yn rhan o'n hamod grant. Darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog a chofiwch gynnwys y costau yn eich cyllideb. Darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog.