Tri degawd o wneud gwahaniaeth: Straeon am gymunedau sy'n newid bywydau
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hon yn archwilio'r gwahaniaeth parhaol mae grantiau’r Loteri Genedlaethol wedi'i wneud dros y 3 degawd diwethaf. Mae'n rhannu straeon prosiect i ddangos sut mae grantiau dan arweiniad y gymuned wedi grymuso pobl, gan eu helpu i weithredu ar yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, adeiladu cysylltiadau, a chefnogi ei gilydd.
Mae'r adroddiad yn dangos beth sydd wedi helpu cymunedau i ffynnu a sut y gall grantiau gefnogi newid hirdymor.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod grantiau wedi cefnogi sefydliadau cymunedol ac wedi helpu pobl i ymateb i heriau lleol, gan wneud gwahaniaeth parhaol.
Mae'r ymchwil yn dangos y canlynol:
mae sefydliadau cymunedol yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi pobl a gwasanaethau lleol
gall grantiau bach gael effaith crychdonnau, gan helpu cymunedau i osod y sylfeini ar gyfer perthnasoedd parhaus cryf a rhwydweithiau lleol
mae prosiectau'n gweithio orau pan fo cymunedau yn siapio penderfyniadau a gweithgareddau
mae buddsoddiad hirdymor yn helpu sefydliadau i feithrin sgiliau, hyder ac arweinyddiaeth leol
mae prosiectau blaenllaw yn creu tirnodau cenedlaethol a lleol, gan adeiladu balchder cymunedol
mae digwyddiadau cymunedol yn meithrin cyfeillgarwch a chymdogaeth