Talent Match - Cyflawniadau a gwersi ar gyfer dylunio polisi a rhaglenni
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r papur hwn yn crynhoi cyflawniadau allweddol a dysgu o'r rhaglen cyflogaeth ieuenctid Talent Match, a oedd yn cefnogi pobl ifanc agored i niwed rhwng 18 a 24 mlwydd oed sy'n wynebu rhwystrau i ddod o hyd i waith.
Roedd y rhaglen yn unigryw gan ei bod wedi'i chychwyn gan bobl ifanc a'i chynllunio gyda nhw. Mae'r adroddiad yn rhannu gwersi ar gyfer cyllidwyr, partneriaid cyflenwi a sefydliadau sy'n cefnogi pobl ifanc ar eu taith i gyflogaeth.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod y rhaglen yn llwyddiannus wrth helpu pobl ifanc agored i niwed i mewn ac yn agosach at gyflogaeth. Yn ystod y 3 blynedd gyntaf, fe wnaeth gefnogi dros 22,000 o bobl ifanc ddi-waith.
Fe wnaeth Talent Match fabwysiadu ymagwedd sy'n canolbwyntio ar ieuenctid. Roedd hyn yn golygu rhoi dymuniadau a dyheadau pobl ifanc yn gyntaf, cyn y gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi.
Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod y canlynol:
mae'n bwysig ystyried integreiddio cymorth iechyd meddwl gyda chymorth cyflogaeth
roedd pobl ifanc yn gwerthfawrogi cefnogaeth 1-i-1 gan staff dibynadwy
roedd cymorth hyblyg yn helpu pobl i symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain
roedd partneriaethau rhwng sefydliadau yn gwella mynediad at gymorth
roedd cynnwys pobl ifanc mewn dylunio rhaglenni yn cryfhau cyflawni
gall cymorth yn y gwaith wella cynaliadwyedd canlyniadau cyflogaeth gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol arwain partneriaethau cyflogaeth ieuenctid strategol yn llwyddiannus