Mynegai Ymchwil Cymunedol 2023
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r Mynegai Ymchwil Cymunedol blynyddol yn arolwg o dros 8,000 o oedolion ledled y DU. Mae'n gofyn am eu profiadau, eu teimladau, a'u gobeithion ar gyfer eu cymunedau.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n gadarnhaol ac yn gweld cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Mae mwy o bobl yn cymryd rhan yn lleol ac yn gwirfoddoli.
Mae gwahanol grwpiau a lleoedd yn cael profiadau gwahanol. Nid yw pawb yn wynebu'r un problemau neu â'r un gobeithion. Mae'r arolwg yn dangos pa mor amrywiol yw cymunedau'r DU.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr arolwg ganfod bod pobl ledled y DU yn teimlo ymdeimlad o berthyn i'r gymuned ac yn cydnabod bod ysbryd cymunedol go iawn lle maen nhw'n byw. Maen nhw hefyd yn meddwl bod eu cymunedau yn gwneud yn dda o'i gymharu ag eraill ar bethau fel addysg, mannau cymunedol, ansawdd bywyd a lles.
Tynnodd pobl sylw at leihau tlodi, creu strydoedd mawr ffyniannus, a gwella mynediad at dai fforddiadwy a chyfleusterau ieuenctid fel y nodau pwysicaf i'w hardal leol.
Fe wnaeth yr arolwg ganfod y canlynol hefyd:
mae pobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo'n rhan o'u cymuned na'r rhai dros 35 mlwydd oed
banciau bwyd, cefnogi pobl hŷn, a chefnogi pobl ifanc yw'r meysydd mwyaf poblogaidd ar gyfer gwirfoddoli
mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo bod pandemig Covid-19 wedi cryfhau ysbryd cymunedol yn hytrach na'i wanhau
mae cefnogaeth gyda'r costau byw cynyddol yn flaenoriaeth allweddol - gyda'r mwyafrif o ymatebwyr yn dweud eu bod eisoes wedi lleihau eu gwariant eu hunain
pan ofynnir iddynt am eu hamgylchedd ffisegol lleol, mae pobl yn blaenoriaethu diogelwch ar y strydoedd
bwriad y canfyddiadau hyn yw hysbysu llunwyr polisi, cyllidwyr a sefydliadau eraill sy'n gweithio i gryfhau cymunedau