Helpu Teuluoedd sy'n Gweithio – Adolygiad Rhaglen
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn adolygu'r rhaglen Helpu Teuluoedd sy'n Gweithio, gan esbonio'r cyflawniadau allweddol a dangos rhai o'r prif ganlyniadau. Roedd y rhaglen yn cefnogi teuluoedd oedd wedi’u heffeithio gan dlodi er bod ganddynt o leiaf 1 person ar yr aelwyd a oedd yn gweithio.
Gweithiodd prosiectau i ddatblygu atebion hirdymor ar gyfer tlodi mewn gwaith wrth ddarparu cymorth uniongyrchol i deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio.
Canfyddiadau
Cyrhaeddodd y prosiectau dros 10,000 o bobl mewn gwaith oedd wedi’u heffeithio gan dlodi yng Nghymru.
Fe wnaeth y prosiectau hyn helpu i wneud y canlynol:
gwella siawns pobl o ddod o hyd i waith mwy diogel neu â thâl gwell trwy hyfforddiant, cymwysterau a datblygu sgiliau newydd
lleihau costau i deuluoedd (er enghraifft drwy gyfnewidfeydd gwisg ysgol, llyfrgelloedd teganau ac offer cartref)
gweithgareddau cymorth na fyddai teuluoedd fel arall wedi gallu eu fforddio (fel diwrnodau allan teuluol)
darparu gwybodaeth a chyngor i deuluoedd, gan gynnwys cymorth gan gymheiriaid