Ymunwch â'n Tîm Cynghorwyr Llais Ieuenctid
22 Gorffennaf 2026
Rydym yn chwilio am 4 person ifanc arall sy'n angerddol am yr amgylchedd a natur i ymuno â'n Tîm Cynghorwyr Llais Ieuenctid.
Bydd y rolau yn gweithio gyda thîm Portffolio y DU, gan weithio gyda phrosiectau ledled y DU.
Drwy ymuno byddwch chi’n:
gweithio fel rhan o dîm i sicrhau bod Llais Ieuenctid yn cael ei gynrychioli yn y gwaith o ddyfarnu grantiau'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd
datblygu cyfleoedd ariannu yn y dyfodol ar gyfer sefydliadau ieuenctid a phobl ifanc
llunio prosesau ar gyfer Llais Ieuenctid i gael ei gynnwys yn y Gronfa Gweithredu Hinsawdd
bod yn llysgennad ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn digwyddiadau cysylltiedig sy'n hyrwyddo ein Llais Ieuenctid a gwaith hinsawdd, amgylchedd a natur
I fod yn gymwys
Rhaid i chi fod:
18 i 25 oed
Wedi eich lleoli yn y DU – rydym yn chwilio am un person ym mhob gwlad o'r DU (Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr)
Y sgiliau allweddol rydyn ni'n chwilio amdanynt
Mae'r rhain yn cynnwys:
gwaith tîm
meddwl yn feirniadol
datrys problemau
sgiliau cyfathrebu da
Y profiad allweddol yr ydym yn chwilio amdano
Mae hyn yn cynnwys:
cyfranogiad yn eich cymuned leol
gwybodaeth am anghenion eich cymuned, yn enwedig mewn perthynas â'r amgylchedd a natur, a sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu heffeithio
bod yn llysgennad
rheoli prosiect
Yr hyn y byddwch chi'n ei gael
Fel Cynghorydd Llais Ieuenctid, byddwch yn ennill:
cysylltiadau â phobl ifanc a chydweithwyr eraill ledled y DU
profiad o weithio o fewn sefydliad cenedlaethol
hyder mewn rhannu eich barn a dylanwadu ar benderfyniadau
sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cefnogi eich gyrfa a'ch datblygiad yn y dyfodol – fel cyfathrebu ac arweinyddiaeth
Ymrwymiad amser a thaliad
Rydym am i'r rôl hon fod yn hygyrch ac yn rheoladwy ochr yn ochr ag ymrwymiadau eraill fel cyfrifoldebau gwaith, astudio neu ofalu.
Gofynnwn i chi ymrwymo i:
tua 10 awr y mis
cyfarfodydd ar-lein rheolaidd gyda rhai cyfarfodydd a digwyddiadau mewn person trwy gydol y flwyddyn
Bydd angen i chi allu ymrwymo i'r rôl o fis Medi 2026 tan ddiwedd Awst 2027.
Mae Cynghorwyr Llais Ieuenctid yn cael eu talu £22 yr awr. Maen nhw hefyd yn cael costau teithio a chynhaliaeth.
I ddysgu mwy
Gallwch:
lawrlwytho’r pecyn cais – mae hwn yn cynnwys y disgrifiad rôl, y ffurflen gais a dogfen awgrymiadau
Ymunwch â'n sesiwn holi ac ateb ar 27 Gorffennaf am 1pm, ar Microsoft Teams – cofrestrwch drwy e-bostio Youthvoice.Recruitment@tnlcommunityfund.org.uk
Sut i wneud cais
I wneud cais, mae angen i chi:
gwblhau’r ffurflen gais gan esbonio sut rydych chi'n cwrdd â'r disgrifiad rôl
danfon eich ffurflen gais wedi'i chwblhau at Youthvoice.Recruitment@tnlcommunityfund.org.uk
Dyddiadau allweddol
Mae'r dyddiadau allweddol yn cynnwys:
dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 11:59pm ar 4 Awst 2026
dyddiadau cyfweliadau – 17 i 21 Awst 2026
cynefino – wythnos yn dechrau 7 Medi 2026