Galwad i’ch cymuned gymryd cam bach dros yr amgylchedd. Mae Grantiau Bach Gwyrdd bellach ar agor am geisiadau
22 Gorffennaf 2026
Cyflwyniad i ariannu amgylcheddol diweddaraf Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gan ein harweinydd amgylcheddol, John Rose.
Mae gan yr haf ffordd o wneud i ni sylwi ar bethau. Rydyn ni'n aml y tu allan yn fwy, yn symud trwy ein hardaloedd lleol ar gyflymder arafach, ac yn sydyn yn edrych ar bethau cyfarwydd gyda llygaid newydd:
darn o dir heb ei ddefnyddio a allai fod yn rhywbeth
to neuadd gymunedol sy'n ferwedig yn yr haul
grŵp o bobl ifanc gyda digon o frwdfrydedd i’w roi rhywle da
Rydw i wedi bod yn meddwl tipyn am hyn yn ddiweddar. Oherwydd rydyn ni'n newydd lansio Grantiau Bach Gwyrdd.
Cyflwyno Grantiau Bach Gwyrdd
Mae Grantiau Bach Gwyrdd yn grantiau rhwng £300 a £20,000, sydd ar gael nawr i gymunedau ledled:
Cymru
Yr Alban
Gogledd Iwerddon
Pwrpas y grantiau
Bydd y rhaglen yn cefnogi prosiectau sy'n:
gwella mannau lleol
gwarchod natur
lleihau gwastraff
cefnogi gwytnwch yn yr hinsawdd
cysylltu pobl â'r amgylchedd ac â'i gilydd
helpu i greu cymunedau mwy gwyrdd, iach a chynaliadwy
Mae'r rhain yn grantiau ar gyfer grwpiau cymunedol sydd â syniadau ymarferol a all wneud gwahaniaeth amgylcheddol cadarnhaol lle maen nhw'n byw.
Nid oes rhaid i chi fod yn arbenigwr amgylcheddol
Yn aml, pan fyddwn ni’n siarad â grwpiau cymunedol, rydyn ni'n clywed yr un peth: ‘O, dydyn ni ddim wir yn sefydliad amgylcheddol’.
Ac yna maen nhw'n disgrifio cynnal prosiectau fel:
caffi atgyweirio
prosiect ieuenctid sy'n cael pobl ifanc allan i fannau gwyrdd
neuadd gymunedol sy'n rhewi yn y gaeaf ac yn costio ffortiwn i'w gwresogi
Y grwpiau hyn yw'r union beth mae'r ariannu hwn ar ei gyfer
Nid yw gweithredu amgylcheddol ar wahân i fywyd cymunedol. Mae'n cysylltu â lles, balchder lleol, bwyd, gwastraff, ynni, costau byw, mannau a rennir, sgiliau a pherthyn. Mae llawer o grwpiau eisoes yn gwneud gwaith amgylcheddol heb ei alw'n hynny. Mae'r arian hwn yn eu helpu i gymryd y cam cyntaf.
Camau bach, gwahaniaeth go iawn
Nid yw'r grantiau yma yn ymwneud â gofyn i gymunedau ddatrys yr argyfwng hinsawdd, ond yn hytrach mae am helpu pobl leol i gymryd camau rheoladwy, ymarferol sy'n gwella'r lleoedd maen nhw'n eu hadnabod ac yn gofalu amdanynt.
Gall grant bach helpu grŵp i brofi syniad, gwella gofod a rennir, magu hyder a chreu rhywbeth gweladwy. Nid oes angen i brosiectau fod yn fawr neu'n gymhleth. Mae ond angen iddyn nhw fod yn bwysig i'r cymunedau sy'n eu gwneud, ac yn dda i bobl a'r blaned.
Os ydych wedi derbyn grant gennym ni yn eisoes, gallwch wneud cais o hyd
Os oes gan eich grŵp grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn barod, gallwch dal wneud cais am Grantiau Bach Gwyrdd. Gall grwpiau dderbyn Grant Bach Gwyrdd ochr yn ochr g ariannu presennol drwy grant fel Arian i Bawb Y Loteri Genedlaethol.
Felly, os oes gennych syniad rydych chi'n meddwl y byddai'n dda i'ch cymuned a'r blaned, cysylltwch â ni. Gallwn ni drafod os gallai ariannu Grantiau Bach Gwyrdd weithio ochr yn ochr â'r hyn rydych chi eisoes yn ei wneud.
Os ydych wedi eich lleoli yn Lloegr
Mae Grantiau Bach Gwyrdd ar gyfer cymunedau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, mae Arian i Bawb Y Loteri Genedlaethol Lloegr – Yr Amgylchedd eisoes yn rhedeg ac wedi'i wreiddio yn yr un egwyddor: grantiau bach, gweithredu dan arweiniad y gymuned, manteision ymarferol i bobl a'r blaned.
Os ydych chi'n grŵp cymunedol Seisnig gyda syniad am fan lleol mwy gwyrdd, dyna eich man cychwyn.
Gall gweithredoedd gwyrdd bach arwain at fanteision cymunedol mawr
Wrth i chi fynd allan yr haf hwn, edrychwch o’ch cwmpas:
Beth allai fod ychydig yn well, neu'n fwy gwyrdd?
Beth mae eich cymuned wedi bod yn siarad amdano ers blynyddoedd ond erioed wedi dechrau?
Does dim angen i chi fod yn arbenigwr. Dim ond syniad ymarferol sydd ei angen arnoch a'r ewyllys i wneud iddo ddigwydd.
Sut i wneud cais
Gallwch: