Neidio i'r prif gynnwys

Dweud eich dweud ar sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddosbarthu

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth i:

  • ofyn i bobl rannu eu barn ar sut y dylid gwario arian a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol

  • deall blaenoriaethau ac anghenion pobl a chymunedau ledled y DU

Gallwch:

Mae'n gyfle i rannu eich barn ar sut mae arian y Loteri Genedlaethol wedi gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Mae'r arolwg ar agor tan 23 Medi 2026.

Sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau ledled y DU

Darganfyddwch sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth drwy:

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gwnaethom ddyfarnu £939.7 miliwn i gymunedau ledled y DU. Mae hynny'n £3 miliwn ar gyfartaledd bob diwrnod gwaith.

Roedd ein grantiau yn amrywio o £300 i £21.6 miliwn. Ac roedd 86% o'n dyfarniadau yn grantiau bach a oedd yn cefnogi grwpiau llawr gwlad lleol.

Mae'r arian rydyn ni'n ei ddosbarthu yn cwmpasu pob cod post yn y DU. Mae ein timau ariannu'n gweithio yn y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu, ar draws pob rhanbarth a chenedl. Ac maen nhw'n defnyddio eu gwybodaeth leol, tystiolaeth, penderfyniadau a pherthnasoedd i sicrhau bod yr ariannu'n adlewyrchu'r hyn sydd ei angen ar gymunedau.

Mae ein Hadroddiad Effaith diweddar yn dangos ein bod:

  • yn cyrraedd bron i 7 miliwn o bobl

  • wedi dyrannu dros 13,000 o grantiau yn 2024 i 2025

  • yn gwneud gwahaniaeth i bobl bob dydd

Rydyn ni'n buddsoddi lle mae ei angen fwyaf. A lle mae'n bwysig i gymunedau. Ein nod yw gwneud ariannu yn syml ac yn hyblyg fel y gall sefydliadau wneud eu gwaith gorau a chreu newid parhaol.

Gwyddom, pan fydd cymunedau'n gryf, maen nhw'n:

  • newid bywydau pobl

  • helpu pobl i deimlo'n iachach ac yn fwy hyderus

  • rhoi mwy o ymdeimlad o reolaeth i bobl dros eu dyfodol

Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

"Rydym yn croesawu'r alwad hon am dystiolaeth - mae'n hanfodol sicrhau bod yr achosion da sy'n cael eu hariannu trwy haelioni chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cael eu gyrru gan anghenion, gobeithion a dyheadau pobl ledled y wlad ymhell i'r dyfodol.

Byddwn yn gweithio gyda'n cydweithwyr ledled y DU a deiliaid grant i sicrhau bod hyn yn adeiladu ar ein profiad cyfunol o ddarparu grantiau sy'n newid bywydau i gymunedau dros y 30 mlynedd diwethaf. Rydyn ni'n gwybod bod cymaint mwy y gallwn ei wneud i gefnogi cymunedau ac rydyn ni'n annog pobl i rannu eu barn a'u straeon."