Neidio i'r prif gynnwys

Sut rydyn ni’n defnyddio arian asedau segur

Un o’r ffyrdd y mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian yw trwy rywbeth o’r enw Cynllun Asedau Segur.

Nid yw arian asedau segur yn dod o werthiant tocynnau’r Loteri Genedlaethol.

Mae’r cynllun yn caniatáu i ni gefnogi cymunedau ac achosion da ledled y DU gydag asedau ariannol nas defnyddiwyd.

Ynglŷn â’r Cynllun Asedau Segur

O dan Gynllun Asedau Segur Llywodraeth y DU, rydym yn dosbarthu arian gan ddefnyddio asedau ariannol coll neu anghofiedig, fel hen gyfrifon banc.

Os na ellir aduno’r asedau hyn â’u perchnogion, rydym yn dosbarthu rhywfaint o’r arian i achosion cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae yna bwerau cyfreithiol penodol sy’n caniatáu inni wneud hyn. Rhain yw:

O dan y ddeddfwriaeth hon, gall sefydliadau’n sy’n delio ag asedau ariannol drosglwyddo arian o gyfrifon nad ydynt wedi’u defnyddio ers amser maith i Reclaim Fund Ltd.

Y sefydliadau sy’n gallu gwneud hyn yw:

  • banciau

  • cymdeithasau adeiladu

  • cwmnïau yswiriant

  • darparwyr pensiwn

  • gwasanaethau rheoli cyfoeth

  • darparwyr gwarantau

Mae Reclaim Fund Ltd yn cadw rhywfaint o’r arian o’r neilltu rhag ofn bod rhywun yn ei hawlio. Caiff gweddill y gwarged ei drosglwyddo atom ni, ac rydyn ni’n ei ddosbarthu allan fel grantiau.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw’r unig ddosbarthwr arian asedau segur.

Beth sydd wedi ei ariannu gydag arian asedau segur

Mae’r ddeddfwriaeth yn dweud y dylid rhoi arian asedau segur:

  • i achosion cymdeithasol ac amgylcheddol

  • ym mhob un o bedair gwlad y DU

Mae llywodraeth pob gwlad yn gwneud ei phenderfyniadau ei hun ar sut orau i ddefnyddio’r arian hyn. Am fwy o fanylion, gallwch ddarllen cyfarwyddiadau gwariant pob gwlad ar gyfer sut maen nhw am i ni ddosbarthu’r asedau segur.

Dyma rai o’r rhaglenni ariannu a’r mudiadau rydyn ni wedi’u hariannu drwy’r Cynllun Asedau Segur.

Cymru

Yr Alban

Gogledd Iwerddon

Lloegr

Rydym hefyd wedi dosbarthu arian asedau segur i fudiadau penodol yn Lloegr. Y mudiadau hynny yw:

Rydym hefyd yn ariann’r Oversight Trust, sef corff annibynnol sy’n gyfrifol am oruchwylio sut mae’r 4 mudiad yma yn rheoli eu harian.