Sut i wneud cwyn
Os ydych am wneud cwyn ynglŷn â’ch cyswllt gyda’n staff, cais am grant rydych wedi ei wneud neu grant rydym wedi ei ddyfarnu, defnyddiwch y canllaw hwn. Mae hwn hefyd yn esbonio’r amgylchiadau na fydd ein proses cwynion yn ymdrin â hwy.
Ni fydd gwneud cwyn yn effeithio ar y gwasanaeth a gewch gennym ni. Felly, os yw eich cwyn ynglŷn â chais ariannu, ni fydd yn effeithio ar eich siawns o gael grant gennym ni yn y dyfodol.
Os oes gennych gwyn am ein gwasanaeth Cymraeg, mae proses ar wahân. Ewch i’r dudalen hon i gael gwybod rhagor am ein safonau Cymraeg neu ffoniwch 0300 123 0735.
Beth gallaf gwyno amdano?
Gallwch gwyno os credwch:
- fod camweinyddu wedi digwydd (methiant i gyflawni ein dyletswyddau a’n cyfrifoldebau’n gywir). Er enghraifft, os yr ydym wedi oedi, gwneud camgymeriadau neu fethu a dilyn y gweithdrefnau yn ein proses ymgeisio
- ein bod wedi methu â rhoi mynediad i wybodaeth i chi neu wedi rhoi cyngor neu wybodaeth anghywir i chi
- nad ydym wedi’ch trin yn gwrtais
- ein bod wedi gwahaniaethau yn eich erbyn neu nad ydym wedi’ch trin yn deg
Os yw eich cwyn ynglŷn â chais ariannu, gallwn adolygu eich cais eto dim ond os:
- ydym yn darganfod nad oeddem wedi dilyn y gweithdrefnau a gyhoeddwyd i asesu eich cais
- ydych yn gallu dangos ein bod wedi camddeall rhan sylweddol o’ch cais
- ydych yn gallu dangos nad oeddem wedi cymryd sylw o wybodaeth berthnasol
Am beth na allaf gwyno?
Cais a wrthodwyd
Efallai y byddwch yn siomedig os gwrthodwn eich cais am gyllid. Fodd bynnag, ni allwch ddefnyddio’r weithdrefn gwyno i apelio yn erbyn ein penderfyniad os ydym wedi dilyn ein proses gwneud penderfyniadau yn gywir.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol neu bolisi’r llywodraeth
Ni allwch gwyno am ein polisïau a gyhoeddwyd nac unrhyw bolisi llywodraeth drwy’r broses hon. Os oes gennych unrhyw sylwadau am ein polisïau, E-bost: customer.services@tnlcommunityfund.org.uk neu ffoniwch 0345 410 2030.
Twyll
Os ydych yn credu bod twyll wedi digwydd, peidiwch â defnyddio’r weithdrefn gwyno hon i’w adrodd. Yn lle hynny, cysylltwch â’r heddlu neu’n adran archwilio fewnol. I godi eich pryderon gyda ni, E-bost: fraud@tnlcommunityfund.org.uk neu ffoniwch 0800 496 9991.
Cwynion y tu allan i’n prosesau rhoi grantiau
Ni allwch ddefnyddio’r broses gwyno hon ar gyfer unrhyw ryngweithio gyda ni y tu allan i’n prosesau rhoi grantiau. E-bost: customer.services@tnlcommunityfund.org.uk neu ffoniwch 0345 410 2030, a byddwn yn ei basio ymlaen at yr adran gywir i chi.
Sut alla i wneud cwyn?
Mae tair cam i wneud cwyn:
- Cam Un: Dywedwch wrthym beth ddigwyddodd
- Cam Dau: Codwch y gŵyn gyda’n Prif Weithredwr
- Cam Tri: Cael adolygiad annibynnol gan sefydliad arall
Rydym yn gobeithio y bydd eich cwyn yn cael ei datrys yn y cam cyntaf. Fodd bynnag, os nad ydych yn hapus â’n hymateb cyntaf, byddwn yn eich cynghori ac yn eich arwain drwy Gam Dau ac, os oes angen, Gam Tri.
Cam Un: Dywedwch wrthym beth ddigwyddodd
Os hoffech wneud cwyn am ein gwasanaeth, llenwch ein ffurflen gwyno gyda’r manylion.
Os oes arnoch angen unrhyw gymorth i lenwi’r ffurflen, neu os oes gennych anghenion hygyrchedd, ffoniwch ni ar 0345 410 2030 a byddwn yn falch o’ch helpu.
Wrth wneud eich cwyn, rhowch y ffeithiau mor glir â phosibl mewn trefn resymegol. Cofiwch gynnwys manylion a dyddiadau pwysig lle bo modd.
Os oes arnoch angen cymorth, gallwch gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth lleol. Ewch i’w gwefan i ddod o hyd i’ch swyddfa leol neu ffoniwch 0300 023 1231.
Os codwch gŵyn, bydd yn gyfrinachol a byddwn yn eich trin gyda pharch. Rydym yn disgwyl i chi drin ein staff yn yr un modd.
Rydym yn anelu at ddatrys cwynion yn gyflym ac, os yn bosibl, rhoi pethau’n iawn.
Pryd fyddaf yn clywed rhywbeth yn ôl?
Byddwn yn cadarnhau derbyn eich cwyn o fewn tri diwrnod gwaith. Byddwn hefyd yn dweud wrthych sut y gallwch gysylltu â’r person sy’n delio â’ch cwyn a phryd i ddisgwyl ymateb.
Byddwch yn cael ymateb terfynol i’ch cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith. Os na allwn roi ymateb llawn yn yr amser hwn, byddwn yn dweud wrthych pam a phryd y mae’n debygol y byddwch yn ei gael.
Beth os nad wyf yn hapus ag ymateb i’m cwyn?
Cam Dau: Codwch y gŵyn gyda’n Prif Weithredwr
Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb a gewch yn y cam cyntaf o’r broses hon, gallwch E-bost: chiefexec@tnlcommunityfund.org.uk, neu ysgrifennu atynt yn:
Prif WeithredwrCronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Society Building
Regents Wharf
8 All Saints Street
Llundain
N1 9RL
Yn eich e-bost neu’ch llythyr, dywedwch wrthym:
- beth ddigwyddodd
- pryd y digwyddodd
- pwy a ddeliodd â chi
- beth yr hoffech i ni ei wneud i roi pethau’n iawn
Rhaid i chi wneud hyn o fewn pedair wythnos i dderbyn ein hymateb i’ch cwyn.
Os na allwch wneud eich cwyn yn ysgrifenedig, ffoniwch ni ar 0345 410 2030.
Beth os nad wyf yn dal yn fodlon?
Cam Tri: Cael adolygiad annibynnol gan sefydliad arall
Os nad ydych yn fodlon ag ymateb ein Prif Weithredwr, efallai y gallwch gyfeirio eich cwyn at y Adolygydd Cwynion Annibynnol (ICR). Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw’r opsiwn hwn ar gael i chi, neu os byddai corff rheoleiddio arall, fel y Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yn fwy priodol i ddelio â’ch cwyn.
Os yw’r ICR yn gam nesaf gorau, byddwn yn eich helpu i gysylltu â nhw i adolygu eich cwyn.
Pwy yw’r ICR?
Mae’r ICR:
- yn sefydliad annibynnol sy’n adolygu cwynion na ellir eu datrys yn fewnol
- yn gwneud ymchwiliadau i ddeall pob ochr i’r gŵyn
- yn rhoi argymhellion annibynnol ac o blaid neb
- yn darparu’r gwasanaeth hwn am ddim
Beth yw eu proses?
Os ydych am i’r ICR ystyried eich cwyn, cysylltwch â ni o fewn pedair wythnos i dderbyn ymateb ein Prif Weithredwr. Byddwn yn eich helpu i godi’r gŵyn gyda nhw, neu’n gofyn i’n Prif Weithredwr wneud hyn i gychwyn y broses.
Pan fyddant yn derbyn y gŵyn, bydd yr ICR yn asesu ac yn dweud wrthych a fyddant yn gwneud ymchwiliad. Mae’n eu pŵer i benderfynu peidio â gwneud hynny, a byddant yn rhoi eu rhesymau i chi. Ni fyddant ychwaith yn ystyried y gŵyn nes ei fod wedi mynd drwy’n proses gwyno gyntaf.
Os yw’r ICR yn credu bod eich cwyn yn gyfiawn, byddant yn:
- dechrau ymchwiliad teg, gan ystyried y ddwy ochr
- darparu adroddiad o’u canfyddiadau o fewn tri mis, fel arfer yn gynt
- os yw’r gŵyn yn gyfiawn, darparu argymhellion ar beth i’w wneud a sut i osgoi cwyn debyg yn y dyfodol
Byddwn yn adolygu’r argymhellion hyn ac fel arfer yn gwneud newidiadau cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, ni all yr ICR awgrymu newidiadau nac wneud sylwadau sy’n ymwneud â’n penderfyniadau cyllido, ein cyfrifoldebau cyfreithiol, a’n polisïau ar ddyfarnu grantiau.
Pwy arall all adolygu fy nghwyn?
Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru)
Rôl yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd yw adolygu cwynion nad yw cyrff cyhoeddus wedi gweithredu’n iawn neu sydd wedi darparu gwasanaeth gwael. Maent hefyd yn cynnig y gwasanaeth hwn am ddim.
Yn ôl y gyfraith, mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar y llywodraeth a’r Gwasanaeth Sifil, ac mae ganddo bwerau eang i ymchwilio. Fel arfer nid yw’r Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion os:
- nid ydynt wedi mynd drwy’n gweithdrefnau cwyno yn gyntaf
- mae mwy nag un flwyddyn wedi mynd heibio ers i chi ddod yn ymwybodol o achos eich cwyn
Dim ond achosion a gyfeirir atynt gan Aelod Seneddol (AS) y gall yr Ombwdsmon eu hystyried. Felly, bydd angen i chi siarad â’ch AS i godi eich pryder.
I gysylltu â gwasanaeth yr Ombwdsmon, ffoniwch 0345 015 4033 neu ysgrifennwch at:
CitygateStryd Mosley
Manceinion
M2 3HQ
Gallwch hefyd ddarganfod mwy ar wefan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Adolygiad barnwrol
Adolygiad barnwrol yw pan fydd barnwr yn archwilio eich cwyn i weld a ydym wedi ymddwyn yn anghyfreithlon.
Ni all y barnwr ddyfarnu bod yn rhaid i ni newid penderfyniad cyllido, ond gall ofyn i ni ailystyried ein penderfyniad.
Gwasanaeth Ymholiadau Cyhoeddus
Os ydych am roi sylwadau ar unrhyw bolisi llywodraeth ar ddosbarthiad y Loteri, E-bost: enquiries@culture.gov.uk neu ysgrifennwch at:
Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon100 Parliament Street
Llundain
SW1A 2BQ
Gallwch hefyd ddarganfod mwy ar wefan yr Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
Beth fyddwch yn ei wneud gyda’m gwybodaeth bersonol?
Os defnyddiwch ein gweithdrefn gwyno, rydych yn cytuno y gallwn ddefnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a anfonwch ataf at ddibenion sy’n gysylltiedig â’ch cwyn. Efallai y byddwn hefyd yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i bobl a sefydliadau eraill os oes rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith neu os ydych wedi rhoi caniatâd i ni.
Cyfleoedd cyfartal
Rydym wedi ymrwymo i gyfleoedd cyfartal ac yn cymryd cwynion am wahaniaethu o ddifrif. Efallai y byddwn yn defnyddio cwynion am wahaniaethu i adolygu ein polisïau a’n gweithdrefnau. Mae hyn i sicrhau ein bod yn trin pawb yn gyfartal.
Rydym yn cadw’r holl wybodaeth yn gyfrinachol.
Beth os oes arnaf angen yr wybodaeth hon mewn fformat arall?
Os oes gennych unrhyw anghenion cyfathrebu penodol, neu os oes arnoch angen gwybodaeth mewn ieithoedd eraill neu mewn fformat arall, E-bost: customer.services@tnlcommunityfund.org.uk neu ffoniwch 0345 410 2030.
Os ydych yn defnyddio gwasanaeth trosglwyddo testun Relay UK, deialwch ‘18001’ cyn deialu ein rhif.