Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Codi pryder

Codi pryder am ymgeisydd neu ddeiliad grant

Gall unrhyw un godi pryder am sefydliad sydd wedi gwneud cais i ni neu sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Fel gwarcheidwad arian cyhoeddus, byddwn bob amser yn cymryd pryderon o’r fath o ddifrif, ac mae gennym brosesau i sicrhau eu bod yn cael eu hymchwilio’n drylwyr.

Mae’r canllaw hwn yn egluro sut i godi pryder a sut y byddwn yn delio ag ef.

Pwy i gysylltu â nhw

Os hoffech godi unrhyw bryderon, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar:

0345 4 10 20 30

Customer.Services@tnlcommunityfund.org.uk

Beth allwn ni ei ystyried drwy’r broses hon?

Dim ond pryderon am y canlynol y gallwn eu hystyried:

  • cais cyfredol am gyllid
  • honni bod telerau ac amodau cytundeb cyllid cyfredol wedi’u torri

Os ydych yn codi pryderon am benderfyniad rydym wedi’i wneud i ariannu sefydliad, byddwn yn adolygu’r wybodaeth a roddwch ac a fyddai wedi effeithio ar ein penderfyniad. Fodd bynnag, nodwch:

  • ni allwn fynd i drafodaeth am unrhyw anghytundeb sydd gennych â phenderfyniad cyllido penodol oni bai ei fod yn cynnwys torri telerau ac amodau’r cyllid
  • ni allwn gymryd rhan mewn unrhyw anghytundebau personol sydd gennych â sefydliad penodol. Os yw eich pryder yn anghytundeb personol, dylech gyfeirio hyn at y sefydliad dan sylw
  • er y gallwn gymryd camau i ymchwilio i dorri cytundeb cyllid, ni allwn orfodi’r gyfraith. Os yw eich pryder yn cynnwys torri’r gyfraith, dylech ystyried codi’r mater gyda’r corff rheoleiddio perthnasol neu, mewn materion troseddol, yr heddlu

Ateb eich pryderon

Nid ydym yn gwneud gwybodaeth am ein gweithdrefnau ymchwilio yn gyhoeddus. Byddai gwneud hynny’n galluogi sefydliadau i osgoi ein gwiriadau ac yn peryglu ein gallu i ddiogelu arian cyhoeddus.

Felly mae’n annhebygol y byddwn yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth i chi am gynnydd neu ganlyniad unrhyw ymchwiliad a gynhaliwn.

Hawliau i gyfrinachedd

Fel rhan o adolygiad o wybodaeth, efallai y bydd angen i ni gysylltu â’r sefydliad rydym wedi’i ariannu. Yn yr achos hwn, byddwn yn parchu eich anhysbysrwydd. Byddwn yn anrhydeddu unrhyw geisiadau penodol a wnewch ynghylch cyfrinachedd.

Yn yr un modd, os ydych yn gweithio i’r sefydliad rydych yn codi pryderon amdano, neu’n gyswllt a enwir ar gais neu gytundeb cyllid, ac yr hoffech i ni gadw eich manylion yn gyfrinachol, rhowch wybod i ni am hyn ar adeg codi pob pryder gyda ni. Bydd eich cais yn cael ei barchu, hyd yn oed os oes gennych ddyletswydd gontractiol i roi gwybod i ni am unrhyw ddigwyddiad neu arfer a allai beryglu llwyddiant y prosiect neu gyfateb i gamddefnyddio arian cyhoeddus.

Os byddwn yn derbyn gwybodaeth sy’n awgrymu y gall unigolion fod mewn perygl, efallai y bydd angen i ni rannu’r wybodaeth hon gyda’r heddlu neu awdurdodau priodol eraill. Yn yr achosion hyn, byddem yn dal i gymryd camau i gadw eich cyfrinachedd.