Sut i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad
Gallwch ofyn am adolygiad o'r penderfyniad os gallwch ddangos naill ai:
- roedd y ffeithiau y seiliwyd y penderfyniad arnynt yn cynnwys gwall materol ac amlwg, neu
- ni ddilynwyd proses Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol y seiliwyd y penderfyniad arni yn gywir
Rhaid i chi anfon y cais hwn i'n hadran gyfreithiol i'r cyfeiriad canlynol o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad y llythyr 'Datganiad Penderfyniad':
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol/Head of Legal Services Legal Department
The National Lottery Community Fund
Society Building
Regents Wharf
8 All Saints Street
London
N1 9RL
Neu e-bostio:legal@tnlcommunityfund.org.uk
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys rhif cyfeirnod eich prosiect mewn unrhyw gyfathrebiadau â ni.