Trawsgrifiad o grynodeb fideo byr Cronfa’r Deyrnas Unedig
Gwyliwch ein crynodeb fideo byr o Gronfa’r Deyrnas Unedig.
Trawsgrifiad
Sleid 1
Dyma grynodeb fideo yn rhannu gwybodaeth am Gronfa’r Deyrnas Unedig, rhaglen ariannu sy'n cael ei chynnig gan Bortffolio’r Deyrnas Unedig yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Sleid 2
Nod y cyflwyniad hwn yw rhoi gwybodaeth i chi i'ch helpu i benderfynu os yw'r rhaglen yn addas ar gyfer eich gwaith, neu ddarparu gwybodaeth am feini prawf a nodau’r rhaglen, awgrymiadau, manylion am yr hyn nad ydym yn edrych i'w ariannu a rhestr wirio o bethau i’w hystyried cyn ymgeisio.
Yn ogystal â'r wybodaeth hon, rydym yn eich annog yn gryf i ddarllen pob adran ar wefan Cronfa’r Deyrnas Unedig.
Sleid 3
Mae'r rhestr wirio hon yn dangos rhai o'r pethau pwysig y dylech eu hystyried cyn gwneud cais. Os gallwch chi ateb Ie i’r holl gwestiynau hyn, gallai Cronfa’r Deyrnas Unedig fod yn addas ar gyfer eich gwaith. Mae'n bwysig nodi bod ein prosesau asesu yn gystadleuol iawn, felly ni allwn warantu llwyddiant ar unrhyw gam o'r broses. Byddwn yn dangos y rhestr wirio hon eto ar ddiwedd y cyflwyniad.
Y pethau y dylech eu hystyried yw:
- A yw eich sefydliad yn gymwys i ymgeisio ar gyfer y rhaglen hon?
- A yw eich prosiect yn bodloni'r holl feini prawf?
- A yw eich prosiect yn bodloni un nod yn dda?
Sleid 4
- A fydd eich prosiect o fudd i gymunedau ar draws y Deyrnas Unedig?
- Allwch chi ddangos tystiolaeth o effaith?
- Ydych chi am wneud y newidiadau hirhoedlog i systemau a gwasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl?
Byddwn yn manylu mwy ar y rhain ar y sleidiau canlynol.
Sleid 5
Mae'r sleid hon yn rhoi gwybodaeth am amseru a symiau.
Mae Cronfa’r Deyrnas Unedig yn cynnig grantiau rhwng £500,000 a £5 miliwn ac rydym yn disgwyl ariannu tua 20 o brosiectau y flwyddyn.
Hyd y grantiau sydd ar gael yw 2-10 mlynedd, ac rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o brosiectau fod yn 3-5 mlynedd o hyd.
Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, rhaglen dreigl agored yw Cronfa’r Deyrnas Unedig.
Sleid 6
Mae'r sleidiau nesaf yn rhoi gwybodaeth am feini prawf y rhaglen, y mae’n rhaid i bob prosiect eu bodloni.
Sleid 7
- Y cyntaf yw buddio cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig. Gallwn ariannu prosiectau sy'n dangos hyn mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, gweithio ar draws y Deyrnas Unedig neu ar draws mwy nag un wlad neu'r Deyrnas Unedig, neu brosiectau sy’n seiliedig ar lefydd sy’n gallu dangos sut y byddant yn rhannu dysgu a allai dylanwadu ac ysbrydoli newid mewn ardaloedd eraill. Mae diddordeb gennym yn y partneriaethau, perthnasoedd a rhwydweithiau sy’n gwneud hyn yn bosibl.
Sleid 8
- Rhif dau: cynyddu effaith profedig. Rydym yn chwilio am brosiectau sy’n adeiladu ar waith sydd eisoes yn bodoli sy’n gallu dangos tystiolaeth effaith ac sydd â chynlluniau i gynyddu’r effaith honno ymhellach. Gallai hyn fod trwy gyrraedd mwy o bobl neu ehangu i ardaloedd newydd. Neu gallai hefyd fod trwy ddatblygu seilwaith gwell neu wella’r gefnogaeth rydych eisoes yn ei chynnig i bobl.
Sleid 9
- Y trydydd maen prawf yw: cefnogi anfantais a gwahaniaethu. Rydym yn edrych i dargedu ein harian lle mae ei angen fwyaf. Mae gennym ffocws cryf ar degwch. Felly, rydym yn edrych ar sut y gellir gwneud pethau’n decach ar gyfer y grwpiau hyn.
Sleid 10
- A'r un olaf: Helpu creu newidiadau parhaol i wasanaethau neu systemau: rydym am gefnogi prosiectau uchelgeisiol a allai arwain at newid hirdymor, parhaol a thrawsnewidiol. Rydym yn galw hyn yn newid systemau a gallai hyn gynnwys mynd i’r afael â gwreiddiau problemau, newid rheolau arferion, neu ffyrdd o weithio, a rhoi mwy o reolaeth i gymunedau dros benderfyniadau ac adnoddau.
- Gall prosiectau wneud hyn ochr yn ochr â darparu gwasanaeth, ond nid ydym yn edrych i ariannu prosiectau sydd ond yn ceisio darparu gwasanaeth.
Sleid 11
Mae'r sleidiau nesaf yn rhoi gwybodaeth am amcanion y rhaglen, ac rydym yn chwilio am amrywiaeth o brosiectau ar draws y nodau hyn. Rydym yn credu y bydd y prosiectau cryfaf yn bodloni un o'r amcanion hyn yn gryf.
Sleid 12
Nod un yw gwella perthnasoedd rhwng pobl â phrofiadau bywyd gwahanol, oherwydd gwyddom fod gan gysylltiad ar draws ffiniau cymdeithasol fanteision cymdeithasol enfawr a dwfn. Gallai hyn olygu dod â phobl at ei gilydd o wahanol gefndiroedd, cenedlaethau neu lefydd.
Sleid 13
Nod dau yw cefnogi pobl a chymunedau i gysylltu’n ystyrlon ar-lein pan ei fod yn anodd cyfarfod wyneb yn wyneb. Gall enghreifftiau gynnwys oherwydd problemau iechyd, cysylltiadau trafnidiaeth gwael neu oherwydd eu bod yn byw’n bell o eraill sydd â phrofiadau neu hunaniaeth debyg. Rydym yn ymwybodol o dlodi digidol yma a byddem yn annog prosiectau i ddweud wrthym sut maen nhw’n bwriadu ymdrin â hyn.
Sleid 14
Nod tri yw cefnogi pobl o bob cefndir i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau – er enghraifft, creu ffyrdd i bobl leol gael pŵer dros benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Sleid 15
Nod pedwar yw helpu plant a phobl ifanc sy'n wynebu heriau penodol newid y systemau sydd o’u hamgylch – drwy roi llais iddynt a gweithredu arno. Dylai prosiectau nodi beth yw’r heriau penodol a sut y byddant yn targedu’r plant a’r bobl ifanc penodol hynny.
Sleid 16
A nod pump yw helpu mwy o sefydliadau i esblygu a gwrando ar blant a phobl ifanc - trwy wreiddio arferion llais ieuenctid gwych i sefydliadau ddefnyddio'r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddweud i wella eu cymunedau a'r systemau a'r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt.
Sleid 17
Rydym yn croesawu prosiectau sydd wedi’u harwain ac sydd ar gyfer pobl anabl. Mae hyn oherwydd rydym yn ymwybodol o’r heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu ac hoffem annog mwy o geisiadau ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar leisiau pobl ifanc. Ond rydym yn agored i brosiectau sy’n gweithio gyda phob cymuned, dim ond eu bod yn bodloni’r holl feini prawf ac un nod.
Sleid 18
Dyma rai awgrymiadau am y meini prawf a'r nodau.
- Yn gyntaf, nid oes angen i brosiectau fodloni’r holl amcanion. Rydych yn fwy tebygol o gael eich ariannu os ydych chi’n bodloni un nod yn dda iawn.
- Yn yr un modd, rydym yn annhebygol o ariannu prosiectau sydd eisiau gwneud ychydig o bopeth.
Sleid 19
- Byddwn ond yn eich ariannu i gynyddu effaith y pethau rydych chi eisoes yn eu gwneud. Dylech allu dangos tystiolaeth gref o effaith y pethau hynny.
- Ac mae'n ddefnyddiol i gadarnhau'r hyn yr ydym yn ei olygu trwy gymunedau. Rydyn ni'n golygu pobl sydd naill ai’n byw yn yr un ardal, neu’n rhannu hunaniaeth, diddordeb neu brofiad.
Sleid 20
Rydym bob amser yn ei gweld hi'n ddefnyddiol esbonio yr hyn nad ydym yn edrych i'w ariannu:
Sleid 21
Felly nid ydym yn chwilio am brosiectau:
- Sy'n newydd sbon nad ydynt yn cael effaith y gallant ei dangos neu nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau ar gyfer cynyddu effaith.
Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n gallu dangos eu heffaith ac sydd â chynlluniau ar gyfer cynyddu'r effaith honno ymhellach.
- Nid ydym yn chwilio am brosiectau sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau yn unig: rydyn ni eisiau gweld cynlluniau sydd hefyd yn newid systemau.
- Nid ydym yn chwilio am brosiectau sydd ond yn cynllunio i symud gweithgareddau presennol ar-lein: y nod yw cefnogi’r rheiny sy’n profi rhwystrau i gysylltiad all-lein.
- Ac nid ydym yn chwilio am brosiectau sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain i wneud newidiadau: rydym yn teimlo bod y meini prawf yn cael eu dangos orau gan sefydliadau sy’n gweithio ag eraill.
Sleid 22
Dyma rai pethau eraill rydym yn chwilio amdano mewn prosiectau.
Sleid 23
Ymgysylltiad a llais y gymuned: Mae diddordeb gennym yn y ffordd y mae cymunedau’n cymryd rhan yn eich sefydliad trwy lywodraethu a gwneud penderfyniadau neu ddyluniad a darpariaeth eich gwasanaethau. Dylech ddweud wrthym sut y mae cymunedau wedi llywio’r prosiect a sut y byddant yn parhau i ddylanwadu arno.
Sleid 24
Roeddem yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol i roi enghreifftiau sy'n dod â'r meini prawf a’r nodau yn fyw. Rydym wedi rhoi pedair enghraifft i ddangos y mathau o brosiectau sy'n bodloni meini prawf a nodau’r rhaglen.
Sleid 25
Mae Prosiect A yn ehangu ei waith mewn un lle, gan adeiladu ar dystiolaeth o effaith hyd yn hyn. Gan weithio mewn partneriaeth draws-sector, bydd y prosiect yn dod â thrigolion at ei gilydd gydag arweinwyr cymunedol i adnabod a gweithredu ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Bydd yn dangos budd ledled y DU drwy rannu dysgu gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i'w galluogi i archwilio'r gwaith yn eu cyd-destunau eu hunain.
Sleid 26
Mae Prosiect B yn adeiladu ar waith mewn tri lleoliad yng Nghymru a Lloegr, ac yn ehangu i ardal arall yn yr Alban. Mae'r prosiect yn annog cysylltiadau rhwng unigolion, grwpiau lleol a'r cyrff statudol i leihau unigrwydd cymdeithasol. Ei nod yw creu newid system drwy adeiladu seilwaith i gynnig rhwydwaith cymorth ar gyfer cymunedau sy’n agored i niwed.
Sleid 27
Partneriaeth o sefydliadau rhanbarthol yw Prosiect C a fydd yn defnyddio ymchwilwyr cymheiriaid ac hyfforddiant ar gyfer sefydliadau’r sector ieuenctid i wreiddio llais ieuenctid mewn penderfyniadau a dyluniad gwasanaethau a systemau.
Sleid 28
Rhaglen o weithgareddau yw Prosiect D sy’n cysylltu ac yn grymuso pobl ifanc LHDTC+ i eirioli ar gyfer eu cymuned. Nod y prosiect yw dylanwadu ar bolisi ac arfer i greu newid cadarnhaol a gwella canlyniadau a phrofiadau ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ ledled y DU.
Sleid 29
A dyma'r rhestr wirio eto i’ch atgoffa. Os gallwch chi ateb yn gadarnhaol i'r holl gwestiynau hyn, gallai Cronfa’r Deyrnas Unedig fod yn addas ar gyfer eich gwaith.
Y pethau y dylech eu hystyried yw:
- A yw eich sefydliad yn gymwys i ymgeisio ar gyfer y rhaglen hon?
- A yw eich prosiect yn bodloni'r holl feini prawf?
- A yw eich prosiect yn bodloni un nod yn dda?
Sleid 30
- A fydd eich prosiect o fudd i gymunedau ledled y DU?
- A allwch chi ddangos tystiolaeth o effaith?
- Ydych chi'n edrych i wneud newidiadau hirhoedlog i systemau a gwasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl?
Sleid 31
Yn olaf, dyma ychydig o wybodaeth am y camau nesaf y gallwch eu cymryd.
Sleid 32
Os ydych chi'n teimlo bod eich prosiect yn addas ar gyfer y rhaglen, gallwch ddod o hyd i ffurflen gais ar-lein ar ein gwefan. Mae'r ffurflen hon yn gofyn tri phrif gwestiwn.
- Beth ydych chi eisiau ei wneud a pham?
- Sut mae eich prosiect yn bodloni ein blaenoriaethau ariannu?
- Beth ydych chi'n gobeithio ei ddysgu a pha effaith fydd eich dysgu'n ei chael?
Sleid 33
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, gallwch gysylltu â'n tîm cyngor dros y ffôn ar 0345 4 10 20 30 neu drwy e-bost general.enquiries@tnlcommunityfund.org.uk.
Gall y tîm cyngor hefyd roi gwybodaeth i chi am raglenni ariannu eraill y mae’r Gronfa’n eu cynnig. Diolch am wylio'r fideo wybodaeth hon am raglen Cronfa’r Deyrnas Unedig. am raglen Cronfa’r Deyrnas Unedig.