Sut i fesur cynnydd eich prosiect Camau Cynaliadwy Cymru: Gyrfaoedd Gwyrdd
Rhaid i’ch prosiect fesur cynnydd wrth fynd yn ei flaen
Rydym yn chwilio i ariannu prosiectau a fydd yn rhannu dysgu a chyflawniadau i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi ar arferion. Rydyn ni eisiau i chi archwilio a bod yn chwilfrydig.
Er mwyn gwerthuso’ch prosiect yn dda, rhaid i chi gael cefnogaeth wrth rywun sydd â phrofiad. Gall hyn fod yn rhywun o’ch tîm gwerthuso eich hun neu fe allwch ddewis recriwtio gwerthuswr. Gall eich gwerthuswr fod yn bartner ar gyfer eich prosiect neu wedi eu recriwtio fel ymgynghorydd.
Efallai y byddwn yn gofyn am gasglu rhywfaint o ddata mewn modd cyson. Os felly, byddwn yn darparu canllawiau i gefnogi’r rhai a wahoddir i ymgeisio am arian prosiect.
Os byddwch yn derbyn arian prosiect, byddwch yn gweithio gyda ni ac yn rhannu cynnydd bob 3 mis. Mae hyn yn debygol o gynnwys astudiaethau achos yn ogystal â data.
Byddwn yn gofyn i chi sefydlu 4 deilliant ar gyfer eich prosiect
Wrth ddeiliannau rydym yn golygu disgrifiadau byr o’r newidiadau rydych chi’n ceisio eu gwneud. Dylent ddweud wrthym ba wahaniaeth y bydd eich prosiect yn ei wneud.
Dylent helpu i gyflawni ein deilliannau ein hunain sef:
helpu pobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig i gael ffyrdd mewn i yrfaoedd gwyrdd. Gallai hyn gynnwys datblygu sgiliau, profiad gwaith gwirfoddol ac am dâl, a chyflogaeth tymor hirach
cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o yrfaoedd gwyrdd
sicrhau bod cyflogwyr wedi’u paratoi ar gyfer cefnogi pobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig
rhannu eich dysgu a chyflawniadau i godi ymwybyddiaeth a dylanwadi ar bolisi ar arferion. Efallai y byddwn yn gofyn am gasglu rhywfaint o ddata mewn modd cyson. Byddwn yn rhannu canllawiau i’ch cefnogi gyda gwneud hyn.
Dylech ddefnyddio dangosyddion i fesur eich deilliannau
Ar ôl i chi ddewis eich deilliannau, mae angen i chi osod o leiaf un 'dangosydd' ar gyfer pob deilliant.
Mae dangosydd yn rhywbeth y gallwch ei fesur i wybod bod eich deilliant yn digwydd. Maent yn eich helpu i fesur eich cynnydd tuag at wneud y newid hwnnw.
Y dangosydd yw'r ateb i'r cwestiwn: 'os yw newid yn digwydd, sut fyddwn ni'n gwybod?'
Sut i osod eich dangosyddion
Gall dangosyddion ar gyfer deilliannau fesur niferoedd, megis nifer y bobl ifanc sydd wedi cwblhau lleoliad gwaith.
Gallent hefyd fesur teimladau pobl, fel bod pobl ifanc yn fwy hyderus.
Ar gyfer pob dangosydd, dylech esbonio:
faint fydd yn newid – er enghraifft 'bydd 500 o bobl ifanc yn deall gyrfaoedd gwyrdd'
pryd y bydd yn digwydd – er enghraifft 'erbyn diwedd y prosiect'
sut y byddwch chi'n cael y wybodaeth hon – er enghraifft 'Ffurflenni adborth gan bobl ifanc a fynychodd sesiynau ymwybyddiaeth'
Enghreifftiau o ddeilliannau a dangosyddion
Gallech osod eich canlyniadau a'ch dangosyddion fel hyn:
Deilliant:
Mae mwy o gyflogwyr wedi'u paratoi i gefnogi pobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig.
Dangosydd:
Bydd 90 o gyflogwyr wedi derbyn cefnogaeth ac wedi ennill sgiliau newydd ac yn teimlo eu bod wedi'u paratoi i gefnogi person ifanc o gymuned leiafrifiedig ethnig.
Amseroedd a lefelau dangosyddion:
Erbyn diwedd blwyddyn 1: 10 o gyflogwyr
Erbyn diwedd blwyddyn 2: 20 o gyflogwyr
Erbyn diwedd blwyddyn 3: 30 o gyflogwyr
Erbyn diwedd blwyddyn 4: 60 o gyflogwyr
Erbyn diwedd y prosiect: 90 o gyflogwyr
Enghraifft o sut y gallech gael y wybodaeth hon
Gallech chi:
ddefnyddio data o gofnodion cyrsiau hyfforddi y mae cyflogwyr wedi'u mynychu a chymorth un-i-un a dderbyniwyd gan hyfforddwyr swyddi
gwneud arolwg gan y cyflogwr cyn iddynt dderbyn cymorth ac ar ôl derbyn cymorth
cyfweld sampl o gyflogwyr fel astudiaethau achos i gael rhagor o wybodaeth
Mae'n debygol y bydd gennych sawl dangosydd ar gyfer un neu fwy o'ch deilliannau, er enghraifft:
Deilliant:
Mae mwy o bobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig wedi cael eu cefnogi i mewn i yrfaoedd gwyrdd.
Dangosydd:
mae pobl ifanc wedi derbyn cyngor
mae pobl ifanc yn teimlo’n fwy hyderus
mae gan bobl ifanc fwy o sgiliau
mae pobl ifanc wedi cwblhau profiad gwaith
mae pobl ifanc wedi cwblhau lleoliad Gwaith o 6 mis neu fwy
mae pobl ifanc wedi sicrhau swydd werdd
mae pobl ifanc yn parhau i weithio mewn swydd werdd chwe mis ar ol gadael y prosiect
Enghraifft o sut y gallech gael y wybodaeth hon
Gallech chi:
defnyddio data o gofnodion pob person ifanc sy'n cofrestru gyda'r gwasanaeth
defnyddio arolygon gan bobl ifanc cyn iddynt dderbyn cymorth ac ar ôl derbyn cymorth
cynnal grwpiau ffocws a sesiynau un i un gyda phobl ifanc i ddarganfod mwy o wybodaeth am eu profiadau
gofyn am adborth gan bobl ifanc ar ôl iddynt adael y gwasanaeth
Efallai y bydd angen i chi newid sut a beth rydych chi'n mesur
Gall prosiectau gael canlyniadau annisgwyl, yn rhai dymunol neu annymunol. Efallai y bydd angen i chi addasu rhai dangosyddion wrth fynd ati. Dylech hefyd gasglu straeon neu ddysgu am y newidiadau rydych chi'n eu gweld yn eich prosiect, neu yr oeddech chi'n disgwyl eu gweld ond na ddigwyddodd. Bydd casglu'r wybodaeth hon yn eich helpu chi a ni i ddysgu a bydd yn eich helpu i wella eich prosiect wrth i chi fynd.
Cysylltu â ni
I gael help neu gyngor gallwch:
ein ffonio ni ar 0300 123 0735 (mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)
danfonwch e-bost at sustainablestepswales@tnlcommunityfund.org.uk