Tudalen we Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd

Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau newydd.

Mae ceisiadau'n cael eu hasesu.

Nod y rhaglen hon yw helpu pobl ifanc (rhwng 16 a 30 oed) yng Nghymru i gael gyrfaoedd gwyrdd. Drwy yrfaoedd gwyrdd, rydym yn golygu gyrfaoedd sy'n lleihau allyriadau carbon, adfer byd natur ac yn ein helpu i addasu i'n hinsawdd newidiol.

Gallai enghreifftiau o yrfaoedd gwyrdd fod yn unrhyw beth o gynorthwyydd gweinyddol i ymgynghorydd amgylcheddol, i gogydd mewn caffi diwastraff, neu beiriannydd dan hyfforddiant i gwmni ynni adnewyddadwy.

Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu pobl ifanc:

  • datblygu eu hyder
  • dysgu sgiliau newydd iddynt – gallai hyn gynnwys sgiliau cymdeithasol a thechnegol
  • cael profiad a lleoliadau gwaith a allai arwain at gyfleoedd hirdymor.

Hoffem ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc ag anableddau a/neu bobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol. Ein nod yw annog amrywiaeth mewn gyrfaoedd gwyrdd drwy roi help llaw i'r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

I gael grant, rhaid i chi fod eisiau gweithio mewn partneriaeth. Gallwn eich helpu i gysylltu â sefydliadau eraill sydd â diddordeb.

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Partneriaethau
Maint yr ariannu
£20,001 hyd at oddeutu £3,000,000. Dylai'r prosiectau fod am gyfnod tua 5 mlynedd.
Cyfanswm ar gael
£10 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

Mae'r rhaglen hon bellach ar gau

Sut i ymgeisio

Caeodd Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd i geisiadau newydd ar 30 Ebrill 2024.

Byddwn yn dyfarnu'r grantiau mewn dau gam:

  • Cam un: Bydd partneriaethau’n derbyn grant datblygu. Bydd hyn yn rhoi adnoddau iddynt gydweithio a datblygu eu syniadau. Rydym yn disgwyl cyhoeddi'r partneriaethau sy'n derbyn grant datblygu yn ystod haf 2024.
  • Cam dau: Yna bydd y partneriaethau hyn yn cael cyfle i wneud cais am grant arall i gyflawni eu prosiectau. Bydd hyd at £3 miliwn ar gael. Rydym yn disgwyl cyhoeddi ymgeiswyr llwyddiannus cam dau yn ystod gwanwyn 2025.

1. Dysgwch ragor am y rhaglen hon

Gallwch wylio'r briff fideo.

Lawrlwythwch gwestiynau ac atebion am y rhaglen yma.

2. Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau am eich cais

I gysylltu â ni, gallwch:

Ffurflen mynegi diddordeb

Y dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb oedd 30 Ebrill 2024.

Gallwch weld rhestr lawn o'r cwestiynau a ofynnir yn y ffurflen mynegi diddordeb.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano yn eich ffurflen mynegi diddordeb

Ar eich ffurflen mynegi diddordeb, mae’n rhaid i chi ddangos y canlynol:

  • eich bod wedi sefydlu partneriaeth sydd â chysylltiadau cryf yn y gymuned yr ydych yn bwriadu gweithio ynddi
  • partneriaeth sydd â'r profiad i helpu pobl ifanc yn eich cymuned i gael gyrfa werdd
  • tystiolaeth gref bod y prosiect hwn yn ategu gwasanaethau presennol a gwasanaethau’r dyfodol a’i fod yn llenwi bwlch
  • eich bod eisoes wedi ymgysylltu â phobl ifanc o'n grwpiau targed yn ogystal â'u teuluoedd, a darparwyr gwasanaeth eraill.

Gallech ofyn am grant datblygu o £300 hyd at £25,000 yn eich ffurflen mynegi diddordeb

Os cewch eich gwahodd i'r cam nesaf, bydd y grant hwn yn eich helpu i archwilio eich syniadau ymhellach gyda'ch partneriaid.

Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen mynegi diddordeb, byddwn yn:

  • anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi ein bod wedi ei derbyn
  • ei hadolygu ac efallai’n cysylltu â chi i drafod eich syniad yn fanylach
  • gwneud ein gwiriadau diogelwch - gallwch ddysgu rhagor am y gwiriadau a wnawn
  • anelu at ddweud wrthych os ydych wedi cyrraedd y cam nesaf erbyn dydd Mercher 31 Gorffennaf 2024.

Os byddwn yn eich gwahodd i gam dau, byddwn yn gofyn i chi roi mwy o wybodaeth i ni.

Mae ail gam y cais yn cynnwys:

  • ffurflen gais – mae’r ffurflen hon yn dweud wrthym am eich sefydliad
  • cynllun prosiect – mae hwn yn dweud wrthym am eich cynnig a sut y byddwch yn ei reoli a’i gyflawni. Byddwn yn rhoi cyngor ychwanegol os cewch eich gwahodd i'r cam nesaf
  • cyllideb prosiect – mae hwn yn dweud wrthym faint fydd eich prosiect yn ei gostio a faint ohono yr hoffech i ni ei ariannu
  • cynllun gweithredu amgylcheddol – mae hwn yn dweud wrthym sut fydd eich prosiect yn amgylcheddol gynaliadwy. Dysgwch am lunio cynllun gweithredu amgylcheddol ar ein gwefan.
  • cyfrifon blynyddol eich sefydliad (neu frasamcan 12 mis ar gyfer sefydliadau newydd)
  • cytundeb partneriaeth drafft – efallai y bydd gennych fwy nag un cytundeb.

Os nad ydych yn elusen efallai y bydd angen i chi anfon y canlynol atom hefyd:

  • dogfen lywodraethol eich sefydliad. Nid oes angen i chi ddarparu dogfen lywodraethol ar gyfer eich partneriaid.

Mae'n rhaid i chi wario'ch grant datblygu ac anfon eich ffurflen gais cam dau atom erbyn 5yp ar ddydd Mawrth 14 Ionawr 2025.

Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi gwblhau ffurflen gais

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu. Rydym yn hapus i siarad am ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad.

Byddwn yn anfon ein penderfyniad am eich cais atoch dros e-bost erbyn dydd Llun 31 Mawrth 2025.

Os na fyddwch yn llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych pam.

Pwy all ymgeisio

Rhaid i chi weithio mewn partneriaeth

Byddwn ond yn ariannu prosiectau lle mae partneriaeth o sefydliadau yn cydweithio i gynllunio a chyflawni prosiect.

Gyda'i gilydd, bydd gan eich partneriaeth yr arbenigedd a'r profiad cywir i baratoi a chefnogi pobl ifanc ar gyfer gyrfaoedd gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys eu helpu i ddatblygu hyder a sgiliau emosiynol, ennill profiad gwaith a lleoliadau gwaith.

Gall sefydliadau perthnasol gynnwys y rheiny sydd:

  • dan arweiniad defnyddwyr neu’n arbenigo mewn cefnogi pobl ifanc ag anableddau neu bobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol
  • yn arbenigwyr mewn lleoliadau gwaith cyflogaeth
  • yn arbenigwyr mewn datblygu sgiliau a hyfforddiant. Gallai hyn gynnwys cymwysterau ffurfiol a chymorth i ddatblygu eu hyder a'u lles emosiynol
  • yn gyflogwyr sy'n cynnig swyddi gwyrdd
  • â chysylltiad da â'r gymuned gyda gwasanaethau a chyflogwyr eraill
  • yn gweithio yn yr economi werdd ac sydd â gwybodaeth arbenigol
  • yn gallu cynnal ymchwil a gwerthuso eich prosiect
  • â phrofiad o farchnata, cyfathrebu, llunio polisïau a dylanwadu
  • yn darparu gwasanaethau arbenigol a fyddai'n ategu neu'n cefnogi eich prosiect fel gwasanaethau iechyd meddwl, tai a phrawf.

Mae croeso i sefydliadau partner o bob sector a gallant fod yn sefydliadau sy'n gweithio'n lleol, yn rhanbarthol neu ledled Cymru.

Rhaid i'r sefydliad arweiniol, sy'n cyflwyno'r cais ar ran y bartneriaeth, fod wedi’i leoli yn y DU ac yn un o’r canlynol:

  • elusen gofrestredig
  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
  • sefydliad elusennol corfforedig (CIO)
  • cymdeithas gydweithredol (os oes ganddi gymal nid-er-elw)
  • cwmni cyfyngedig trwy warant (os oes ganddo gymal di-elw)
  • cwmni buddiannau cymunedol (CIC)
  • cymdeithas budd cymunedol.

Os penderfynwn ariannu eich prosiect, bydd y sefydliad arweiniol yn sicrhau bod y prosiect a'i bartneriaid yn bodloni ein telerau ac amodau grant. Bydd y sefydliad arweiniol yn rhoi diweddariadau cynnydd i ni, yn cysylltu â ni ynghylch unrhyw faterion sy'n ymwneud â'r prosiect ac yn derbyn y taliad ar ran y bartneriaeth.

Rhaid i chi ddefnyddio cytundeb partneriaeth

Gofynnwn am gytundebau partneriaeth gan y rhai a fydd yn helpu rheoli'r prosiect neu ddefnyddio ein grant i gyflawni'r prosiect.

Gallwch ddefnyddio ein templed cytundeb partneriaeth.

Mae'n rhaid i chi hefyd ddweud wrthym am sefydliadau eraill a allai fod ynghlwm mewn ffyrdd eraill megis sefydliadau y gallwch gyfeirio atynt neu dderbyn atgyfeiriadau ganddynt.

Mae angen o leiaf 3 aelod bwrdd neu bwyllgor arnoch sy'n 18 oed neu'n hŷn ac nad ydynt yn perthyn

Gall perthyn olygu:

  • yn perthyn trwy briodas
  • mewn partneriaeth sifil â’i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • yn perthyn trwy bartner hirdymor
  • yn cyd-fyw â’i gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn perthyn trwy waed.

Rhaid i bob cwmni sy'n ymgeisio fod ag o leiaf dri chyfarwyddwr nad ydynt yn perthyn yn unrhyw un o'r ffyrdd hyn. Mae hyn yn berthnasol i gwmnïau sydd hefyd wedi'u cofrestru fel elusennau.

Pwy na all ymgeisio

Ni allwn dderbyn ceisiadau pan fo’r prif ymgeisydd yn:

  • unigolyn neu’n unig fasnachwr
  • grŵp sy'n gwneud elw
  • gwneud cais ar ran sefydliad arall
  • sefydliad nad yw wedi'i sefydlu yn y DU.
Y prosiectau rydym ni'n eu hariannu

Gallwn ariannu prosiectau a fydd yn rhedeg am tua 5 mlynedd. Gallwn ariannu rhan o'ch prosiect neu'ch prosiect cyfan. Rydym yn croesawu amrywiaeth o geisiadau a all amrywio o ran nifer y bobl ifanc i’w cefnogi, yr ardal ddaearyddol a’r swm y gofynnir amdano.

Rhaid i bob prosiect:

  • helpu pobl ifanc ag anableddau a phobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol i ddechrau gyrfaoedd gwyrdd. Gallai hyn gynnwys datblygu sgiliau, profiad gwaith gwirfoddol a chyflogedig a chyflogaeth hirdymor.
  • cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc o yrfaoedd gwyrdd
  • sicrhau bod cyflogwyr wedi'u sefydlu i gefnogi pobl ifanc anabl a phobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol
  • cynllunio i rannu eich dysgu a'ch cyflawniadau i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi ac arferion. Efallai y byddwn yn gofyn i rywfaint o ddata gael ei gasglu mewn ffordd gyson. Byddwn yn darparu canllawiau i'ch helpu i wneud hyn.

Rydym ni'n galw'r rhain yn 'ganlyniadau' ariannu, neu'r newidiadau yr ydym ni eisiau i'r prosiectau a ariennir gennym eu gwneud. Mae’n rhaid i bob prosiect gael yr uchelgais o weld rhai o’r bobl ifanc y maen nhw’n eu cefnogi’n cael cyflogaeth â thâl (yn ogystal â helpu datblygu eu sgiliau a’u profiad).

Hoffem ariannu prosiectau sy'n cefnogi grwpiau penodol o bobl ifanc

Mae’n rhaid i brosiectau a ariennir:

  • weithio gyda phobl ifanc ag anableddau neu bobl ifanc ethnig leiafrifol, neu'r ddau. Dylent fod ynghlwm â dyluniad, cyflawniad a gwerthusiad y prosiect
  • ymrwymo i gydraddoldeb rhywedd a dod o hyd i ffyrdd o annog pobl sy’n nodi eu bod yn fenywod i gymryd rhan, a hynny mewn ffordd rhagweithiol. Dylai eich prosiect anelu at gael tua hanner y bobl yr ydych yn eu cefnogi yn nodi eu bod yn fenywod
  • canolbwyntio ar fuddio pobl sy’n byw yng Nghymru
  • gweithio ar draws rhanbarth – er enghraifft, dwy ardal awdurdod lleol neu ragor. Nid ydym yn disgwyl ariannu prosiectau a fydd yn gweithio ledled Cymru.
  • bod ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 30 oed. Gall helpu pobl sy’n iau nag 16 oed fod yn rhan o'ch prosiect ond ni ddylai hyn fod yn ffocws iddo

Beth rydym yn ei olygu trwy bobl ag anableddau

Rydym yn golygu person sydd â chyflwr iechyd corfforol, niwroddatblygiadol, gwybyddol neu feddyliol sy’n cyfyngu’n sylweddol ar agweddau o’u bywyd bob dydd neu eu symudedd.

Mae’n rhaid i’ch prosiect allu gweithio gyda’r rheiny sydd ag anghenion ychwanegol megis pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.

Beth rydym yn ei olygu trwy gymunedau ethnig leiafrifol

Rydym yn cynnwys Sipsiwn, Roma, teithwyr, pobl â statws ffoadur a phobl sy'n ceisio lloches. Gallwch ddysgu rhagor am bobl sy’n ceisio lloches a’u caniatâd i weithio a gwirfoddoli ar wefan GOV.UK.

Dylai eich prosiect ganolbwyntio ar y bobl ifanc sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur

Mae hyn yn golygu cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau niferus i gyflogaeth, fel:

  • iechyd meddwl neu gorfforol isel
  • hunan-barch a hyder isel
  • cyrhaeddiad addysgol isel
  • camddefnyddio sylweddau
  • digartrefedd
  • cofnodion troseddol
  • profiad o drawma yn ystod plentyndod
  • y rhai sydd wedi cael profiad o ofal awdurdod lleol.

Nid yw’r cyllid hwn ar gyfer cefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn unig. Ond rydym yn disgwyl i ymgeiswyr adnabod a gweithio gyda'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth. Mae’n iawn os yw’r bobl ifanc wedi cael cefnogaeth gan wasanaethau eraill yn flaenorol.

Rydym yn deall y bydd darparu cymorth ychwanegol yn gofyn am fwy o adnoddau ac yn golygu gweithio gyda llai o bobl ifanc.

Hoffem ariannu prosiectau sy'n ategu gwasanaethau a gweithgareddau presennol ac yn y dyfodol

Gwyddom fod gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill yn bodoli ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru. Mae’n rhaid i'ch prosiect ddangos dealltwriaeth gref o sut yr ydych yn ategu'r hyn sydd eisoes ar gael ac yn llenwi bwlch.

Fel rhan o hyn, rydym yn disgwyl y byddwch yn meithrin perthnasoedd i hwyluso atgyfeiriadau i wasanaethau eraill a ganddynt. Mae enghreifftiau o wasanaethau eraill yn cynnwys cyngor gyrfaoedd, gwasanaethau lleoliadau gwaith eraill, darparwyr addysg, gwasanaethau cymorth eraill i bobl ifanc a chanolfannau gwaith.

Rydym ni’n disgwyl ariannu tri neu bedwar prosiect i gyd

Byddwn yn ceisio cefnogi pobl ifanc mewn cymunedau trefol a gwledig. Gall cymunedau gwledig a threfol fod yn wahanol o ran eu dull. Er enghraifft, efallai y bydd gan gymunedau gwledig fwy o heriau o ran argaeledd swyddi a theithio.

Pethau y mae'n rhaid i chi eu dangos i gael cyllid

Bydd rhaid i chi ddangos y canlynol i ni:

  • bod gan eich sefydliad a'ch partneriaid gysylltiadau da a bod y cymunedau yr ydych am weithio gyda nhw yn ymddiried ynddynt
  • eich bod yn gallu dangos eich bod wedi gweithio gyda phobl ifanc, cyflogwyr, addysgwyr a gwasanaethau eraill i ddatblygu eich syniadau. Mae'n rhaid eich bod hefyd wedi meddwl am sut y gallwch gefnogi pobl ifanc, pa bynnag lwybr y maent yn ei ddewis i gael swydd werdd.

Mae pobl ifanc o'r grwpiau yr ydych yn bwriadu eu targedu wedi helpu i ddylunio'ch prosiect

Byddan nhw hefyd yn ymwneud â'i gyflawni a'i werthuso.

Mae'r gefnogaeth i bobl ifanc o ansawdd uchel, yn bwrpasol a byddwch yn gweithio ar gyflymder y person ifanc

Rhaid i chi helpu pobl ifanc i ddatblygu eu hyder a rhaid i chi amddiffyn eu lles emosiynol. Fel hyn, byddwch yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y profiad a'r canlyniad gorau posibl. Byddwch yn darparu cymorth cyn cyflogaeth, yn ystod ac ar ôl cyflogaeth. Byddwch hefyd yn bwriadu gweithio gydag eraill sydd eisoes yn cefnogi'r person ifanc. Er enghraifft, eu rhieni, gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol. Byddwch yn mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau unigryw i gyfranogiad y rhai sy'n nodi eu bod yn fenywod.

Dyma fideo YouTube gan Engage to Change sydd ag enghraifft o arwain pobl ifanc.

Byddwch yn bodloni safonau cyflogaeth cenedlaethol

Bydd prosiectau'n bodloni Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyflogaeth â Chymorth (NOS). Byddwch yn sicrhau y bydd gan bob person ifanc fynediad at hyfforddwr swydd neu fentor i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n darparu cefnogaeth fod wedi’u hyfforddi, neu’n fodlon cwblhau hyfforddiant mewn Technegau Cyflogaeth â Chymorth o fewn chwe mis o gyflogaeth. Bydd hefyd angen iddynt weithio tuag at Dystysgrif Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Cyflogaeth â Chymorth.

Bydd eich prosiect yn paratoi pobl ifanc ar gyfer gwaith

Gallai hyn gynnwys datblygu sgiliau a phrofiad gwaith di-dâl. Gall pob person ifanc wneud lleoliad gwaith cyflogedig am hyd at 12 mis os mai dyna sy'n gweithio iddyn nhw.

Bydd profiad gwaith a lleoliadau gwaith yn addas ar gyfer dyheadau'r person ifanc, a gallant roi cynnig ar fwy nag un lleoliad. Bydd y prosiect yn annog cyflogwyr i barhau i gyflogi’r person ifanc ar ôl i’r lleoliad ddod i ben, lle bynnag y bo modd. Rhaid i'ch prosiect fonitro taith y person ifanc am o leiaf 6 mis ar ôl y lleoliad.

Rydych yn deall sefyllfa bresennol a dyfodol yr economi yn eich rhanbarth

Er enghraifft, bydd angen i chi ddangos eich bod yn gwybod am ddatblygiadau presennol a dyfodol o ran sgiliau a chyflogaeth yn yr economi werdd. Mae hyn yn cynnwys y gallu i feithrin cysylltiadau cryf â chyflogwyr a byddwch yn eu helpu i ddeall anghenion y person ifanc yn well a sut i addasu i'w cefnogi.

Bydd eich prosiect yn meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o sgiliau'r dyfodol a phosibiliadau swyddi gwyrdd

Bydd ganddo gynllun ymgysylltu rhagweithiol i helpu mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfaoedd gwyrdd. Disgwyliwn hefyd y byddwch yn cynnig achrediad ar gyfer cyrsiau y mae pobl ifanc yn eu gwneud, er mwyn sicrhau bod cyflogwyr yn cydnabod ac yn deall y sgiliau.

Bydd eich prosiect yn cael ei gyflwyno'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod eich holl weithgareddau ar gael i'ch cymuned yn y ddwy iaith. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog neu cysylltwch â’r Tîm Iaith Gymraeg drwy anfon e-bost at cymorth.cymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk

Dylech sicrhau bod eich cyllideb arfaethedig yn cynnwys costau ar gyfer cyflwyno eich prosiect yn ddwyieithog, megis costau cyfieithu. Efallai y bydd angen i chi ystyried ffyrdd eraill hefyd i gyrraedd eich cynulleidfa darged.

Bydd gan eich prosiect bolisi gweithredol ar waith i gadw pobl yn ddiogel

Gan y bydd eich prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc, bydd angen i chi gael polisi ar waith sy'n esbonio sut y byddant yn ddiogel, gan gynnwys asesiadau risg, hyfforddiant ac unrhyw beth arall sydd ei angen. Mae gan wefan NCVO wasanaethau cyngor a gwybodaeth am ddiogelu plant.

Os ydych yn cael cyllid bydd angen i chi ddilyn ein polisi ar ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg.

Byddwch yn cyfyngu ar yr effaith ar yr amgylchedd

Hoffem ariannu prosiectau a fydd yn lleihau allyriadau carbon a’r effaith ar fyd natur a chynyddu manteision amgylcheddol. Darllenwch ein canllawiau ar leihau eich ôl-troed carbon.

Byddwch yn bodloni rheolau Rheoli Cymorthdaliadau

Mae ein grantiau yn dod o gronfeydd cyhoeddus a gofynnir i geisiadau llwyddiannus gydymffurfio ag Ymrwymiadau Rheoli Cymorthdaliadau Rhyngwladol y DU. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os oes angen rhagor o gyngor arnoch.

Enghreifftiau o brosiectau yr ydym wedi'u hariannu o'r blaen

Yn ogystal â ffynonellau eraill, mae Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd wedi dysgu o raglenni eraill yr ydym wedi’u hariannu o’r blaen, gan gynnwys:

Ar beth y gallwch chi wario’r arian

Yr hyn y gallwn ei ariannu i’ch helpu i ddatblygu eich syniad (cam 1)

Rydym yn cynnig grant datblygu o £300 hyd at £25,000. Bydd hyn yn helpu partneriaethau i ddatblygu eu syniadau ymhellach.

Rydym yn ariannu cefnogaeth ystyriol, o ansawdd uchel i bobl ifanc dros nifer o flynyddoedd. Credwn y bydd angen amser ar ymgeiswyr i ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni hynny.

Gallai’r cyllid hwn dalu am bethau fel:

  • amser staff
  • mwy o sesiynau ymgysylltu gyda phobl ifanc ac eraill yn y gymuned
  • cynnal cyfarfodydd partneriaeth.

Byddwn yn eich talu ymlaen llaw, ar ôl i chi dderbyn ein telerau ac amodau.

Pa gostau prosiect y gallwn eu hariannu (cam 2)

Gallwn ariannu prosiectau a fydd yn rhedeg am tua 5 mlynedd. Gallwn ariannu rhan o'ch prosiect neu'ch prosiect cyfan. Rydym yn croesawu amrywiaeth o geisiadau a all amrywio o ran nifer y bobl ifanc i’w cefnogi, yr ardal ddaearyddol a’r swm y gofynnir amdano.

Os gwahoddir eich partneriaeth i ymgeisio ar gyfer cam dau, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym beth yw costau eich prosiect. Gall y costau hyn gynnwys:

  • costau hyfforddiant neu leoliad gwaith pobl ifanc – anogwn i bob sefydliad dalu’r cyflog byw gwirioneddol
  • treuliau i bobl ifanc deithio i’r gweithle ac yn ôl neu hyfforddiant ac eitemau o ddillad nad ydynt fel arfer yn cael eu darparu gan y cyflogwr
  • hyfforddiant i staff a chyflogwyr
  • talu am staff prosiect fel cymorth hyfforddwr swydd
  • gorbenion
  • meddalwedd a seilwaith gwefannau
  • marchnata a chyfathrebu
  • eitemau bach o gyfarpar, fel cyfrifiaduron
  • costau monitro a gwerthuso
  • cyfieithu Cymraeg
  • ffioedd proffesiynol a chyfreithiol
  • cerbydau trydan – darllenwch ein canllawiau cerbydau trydan am ragor o wybodaeth.

Efallai y bydd cyllid ar gael ar gyfer rhai costau drwy'r cynllun Mynediad i Waith

Efallai y bydd y Cynllun Mynediad i Waith yn gallu cynnig cymorth penodol ar gyfer lleoliadau gwaith rhai pobl ifanc. Yn yr achos hwn, byddem yn disgwyl i’r person ifanc ymgeisio i’r cynllun hwnnw am gyllid yn gyntaf, gyda chymorth y cyflogwr neu’r hyfforddwr swydd. Os caiff eu cais ei wrthod neu os oes angen cymorth manylach, efallai y byddwn yn ystyried ei ariannu. Mae cyngor ar gael yma ar wefan Mynediad i Waith Llywodraeth y DU.

Ni allwn ariannu:

  • costau i gefnogi pobl ifanc sydd eisoes yn cymryd rhan mewn rhaglenni cyflogaeth eraill
  • alcohol
  • gwneud elw
  • TAW y gellir ei hadennill
  • gweithgareddau sy’n disodli cyllid y llywodraeth. Cyn i chi ymgeisio, dylech ymchwilio i ba gymorth sydd eisoes ar gael.
  • gweithgareddau gwleidyddol neu grefyddol
  • talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais.

Cysylltwch â ni

I gael cymorth neu gyngor gallwch: