Neidio i'r prif gynnwys

"Sero Net – Beth Net?": Mewnwelediadau ar iaith a chyfathrebu mewn prosiectau gweithredu hinsawdd cymunedol

Documents

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy'n rhedeg prosiectau gweithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned:

  • mewn cymunedau amrywiol

  • gyda phobl ag anabledd dysgu, awtistiaeth neu anghenion ychwanegol eraill

Mae'n dangos, wrth ddechrau sgyrsiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, ei bod yn well i:

  • symleiddio iaith

  • rhoi gweithredu hinsawdd yng nghyd-destun yr hyn sy'n bwysig i'r gymuned

Mae'r canfyddiadau'n deillio o 3 phrosiect yn rhaglen Grantiau Gweithredu Camau Cynaliadwy Cymru.

Canfyddiadau

Fe wnaeth yr adroddiad ganfod y gall iaith sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd eithrio, drysu neu ddatgysylltu pobl yn anfwriadol.

Esboniodd staff y prosiect beth yw'r rhwystrau i ymgysylltu wrth siarad am yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd.

Fe wnaethant rannu sut y gwnaethant oresgyn y rhwystrau hyn trwy:

  • ddefnyddio iaith syml a pherthnasol

  • dechrau sgyrsiau achlysurol am newid yn yr hinsawdd

  • cynnal sgyrsiau hinsawdd ochr yn ochr â dysgu sgiliau newydd

  • defnyddio gemau a heriau i annog dysgu ac ymddygiadau newydd

  • defnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau