Rhoi cynhwysion da yn y cymysgedd - Gwersi a chyfleoedd ar gyfer gweithio ac ariannu seiliedig ar le
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hwn yn dangos yr hyn rydym ni wedi'i ddysgu am gyllid lleol. Mae'n rhannu gwersi o enghreifftiau bywyd go iawn ac yn eu cyfuno â chanfyddiadau o ymchwil a chyllidwyr eraill. Mae'r adroddiad wedi'i anelu at gyllidwyr sydd â diddordeb mewn dulliau seiliedig ar le.
Canfyddiadau
Daeth yr ymchwil i'r casgliad y dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar le ddechrau drwy ddod i adnabod hanes a chefndir yr ardal o'u dewis. Mae hyn oherwydd nad yw'r preswylwyr yn ymddiried mewn sefydliadau sy'n dod o'r tu allan.
Mae'r adroddiad hefyd yn dangos y canlynol:
rhaid i gyllidwyr wrando'n astud ar y cymunedau maen nhw am weithio gyda nhw ac adeiladu ar eu cryfderau presennol
mae gweithio 'gyda' pobl ac nid gwneud pethau 'iddyn nhw' yn hanfodol
gallai fod yn ddefnyddiol dechrau'n fach, gan roi cynnig ar wahanol ddulliau
mae'n bwysig gadael lle i newidiadau oherwydd bod pethau bron bob amser yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl
mae'n naturiol y bydd pethau'n mynd o'i le - byddai cyllid hirdymor yn caniatáu amser a lle i fyfyrio, ailfeddwl a newid y cyfeiriad