Rhoi cymunedau yn gyntaf: Ein hadroddiad effaith o 2016-17 tan 2020-21
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hwn yn rhannu effaith Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros bum mlynedd hyd at 2021. Mae'r adroddiad yn dangos sut y gwnaeth grantiau’r Loteri Genedlaethol alluogi dros 72,000 o elusennau a sefydliadau cymunedol i gefnogi pobl a chymunedau ledled y DU.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod, mewn blwyddyn arferol, bod grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn galluogi sefydliadau cymunedol i:
gefnogi tua 5.2 miliwn o bobl
recriwtio 4,700 o staff cyfwerth ag amser llawn
casglu 290,000 o wirfoddolwyr
A phob mis, mae tua 1.8 miliwn o bobl yn mwynhau manteision lleoliadau cymunedol fel neuaddau pentref a pharciau, sy’n cael eu cefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod y canlynol:
mae grantiau’r Loteri Genedlaethol yn cyrraedd pob etholaeth seneddol yn y DU, gan fuddsoddi fwyaf mewn ardaloedd mwy difreintiedig
mae 97% o ddeiliaid grantiau yn adrodd am fuddion cadarnhaol i bobl, fel lles gwell, mwy o gyswllt cymdeithasol, a hyder a hunan-barch gwell
mae 91% o brosiectau sy'n targedu pobl ag anghenion cymhleth yn adrodd am welliannau yn iechyd meddwl y cyfranogwyr
heb grantiau coronafeirws penodol yn Lloegr, byddai 56% o ddeiliaid grantiau wedi darparu llawer llai o wasanaethau