Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Pŵer mewn pwrpas - Y gwahaniaeth rydym ni’n ei wneud wrth ysgogi gwirfoddolwyr

Documents

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio effaith cyllid y Loteri Genedlaethol ar wirfoddoli. Mae'n dangos sut mae cyllid sy'n cefnogi gwirfoddoli o fudd i bobl, cymunedau, a'r sector gwirfoddol a chymunedol. Mae'r adroddiad yn hysbysu cyllidwyr, llunwyr polisi a grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn cryfhau gwirfoddoli.

Canfyddiadau

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer gwirfoddoli yn sicrhau buddion personol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae hefyd yn helpu i adeiladu sector gwirfoddol a chymunedol cryfach, mwy amrywiol.

Mae'r gwaith hwn yn gwneud cyfraniad economaidd hefyd. Mewn 3 blynedd hyd at 2021, amcangyfrifir bod 1.9 miliwn o wirfoddolwyr o'r elusennau a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyfrannu £4 biliwn i'r economi.

Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod y canlynol:

  • roedd gwirfoddolwyr wrth wraidd ymatebion lleol a chenedlaethol i'r pandemig

  • mae cyfleoedd hyblyg yn helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwirfoddoli

  • mae angen amser ac adnoddau ar sefydliadau i gefnogi gwirfoddolwyr yn dda

  • gall gwirfoddoli roi ymdeimlad o bwrpas a chysylltiad i bobl, yn ogystal â meithrin sgiliau newydd