O gymdogion i'r gymdogaeth - Dysgu ar sut i roi hwb i falchder mewn lle
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hon yn archwilio gwahanol ffyrdd y gall unrhyw un - o grwpiau cymunedol ac unigolion i awdurdodau lleol a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth - roi hwb i falchder mewn lle.
Mae'n dangos sut y gall mannau ffisegol cymunedau a'r gweithgareddau a gynhelir ynddynt helpu i adeiladu balchder lleol.
Mae'n edrych ar y canlynol:
grymuso pobl i siapio lle maen nhw'n byw
gwella amwynderau lleol
adfywio strydoedd mawr
meithrin diwylliant
cynnig gweithgareddau i ddod â phobl at ei gilydd
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod y gellir cefnogi balchder mewn lle drwy wneud y canlynol:
grymuso pobl i ddylunio a siapio lle maen nhw'n byw: mae pobl angen dweud eu dweud mewn penderfyniadau lleol a sut mae grantiau’n cael eu dyrannu
gwella a diogelu amwynderau lleol fel bwyd a thrafnidiaeth
gwneud i'r amgylchedd lleol deimlo'n ddiogel ac edrych yn ddeniadol: mae cymdogaethau angen mannau cyfarfod anffurfiol lle gall pobl daro ar ei gilydd ar hap a rhyngweithio'n naturiol er mwyn dod i adnabod ei gilydd yn well
cefnogi lleoliadau cymunedol i ffynnu - gall y gweithgareddau maen nhw'n eu cynnig fod yn achubiaeth gymdeithasol, a helpu pobl i adnabod ei gilydd fel ffrindiau a chymdogion yn hytrach na dieithriaid
creu cyfleoedd i bobl gymryd rhan ac adeiladu cysylltiadau cymunedol ehangach
adfywio ac ail-ddychmygu canol trefi a strydoedd mawr
adfer a defnyddio adeiladau treftadaeth i wella cysylltiad pobl â lle, teulu a hanes
meithrin diwylliant i ddod â phobl at ei gilydd