Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Mwy na gwaith yn unig: Y gwahaniaeth rydym ni’n ei wneud i bobl sy'n ddi-waith

Documents

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.

Cyflwyniad

Mae'r ymchwil hwn yn dangos sut mae grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn helpu pobl i ddod o hyd i swyddi a meithrin sgiliau. Mae'n amlygu'r rôl bwysig mae elusennau a grwpiau cymunedol yn ei chwarae wrth gefnogi pobl i gael gwaith. Mae hefyd yn dangos sut mae'r sefydliadau hyn yn gweithio gyda chyflogwyr ledled y DU i gydnabod galluoedd pobl nad ydynt efallai wedi cael swydd o'r blaen.

Canfyddiadau 

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi dros 5,300 o brosiectau cyflogaeth wedi’u harwain gan y gymuned dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae wyth o raglenni'n unig wedi cefnogi dros 181,000 o bobl ar eu taith i gyflogaeth.

Daeth i'r casgliad bod canlyniadau cyflogaeth rhaglenni a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn cymharu'n dda â mentrau eraill sy'n gweithio gyda grwpiau targed tebyg. Lle mae data ar gael, mae gwerthusiadau'n dangos bod y costau o fewn yr ystod o raglenni eraill dan arweiniad gan y sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol.

Fe wnaeth yr ymchwil hefyd ganfod y canlynol:

  • mae elusennau a sefydliadau cymunedol yn cefnogi pobl ar bob cam, ac ym mhob agwedd, o'u taith cyflogaeth

  • mae cymryd rhan mewn rhaglenni cyflogaeth yn dod â buddion cadarnhaol i unigolion - mae llawer yn gadael mewn gwell sefyllfa i gael swydd

  • mae gan raglenni cyflogaeth fuddion cymdeithasol ehangach hefyd - mae llawer o bobl yn cymryd mwy o ran yn eu cymuned leol ar ôl cymryd rhan

Roedd prosiectau'n aml yn canolbwyntio ar feithrin hyder a sefydlogrwydd cyn cefnogi pobl i symud tuag at gyflogaeth.