Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Meddyliau’n Cwrdd: Sut mae cyd-gynhyrchu o fudd i bobl, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau

Documents

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.

Cyflwyniad

Mae'r ymchwil hwn yn archwilio sut mae gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid yn gweithio gyda phobl sydd â phrofiad byw i ddylunio, gwella a darparu gwasanaethau cymunedol. Mae'n rhannu syniadau ac enghreifftiau bywyd go iawn o 58 o bartneriaethau wedi’u hariannu gan y Loteri Genedlaethol yn Lloegr. Mae'r adroddiad wedi'i anelu at gyllidwyr, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sydd eisiau cynnwys cymunedau mewn penderfyniadau neu wneud mwy i gefnogi cyd-gynhyrchu yn eu sefydliad.

Canfyddiadau

Fe wnaeth yr ymchwil ganfod y gall cyd-gynhyrchu ddod â llawer o fanteision. Gall wneud y canlynol:

  • gwella gwasanaethau trwy eu gwneud yn fwy hygyrch, dilys ac ymatebol

  • cynyddu hunan-werth a hyder pobl sy'n cymryd rhan, ac adeiladu sgiliau newydd

  • helpu ymarferwyr i ddeall bywydau pobl maen nhw'n eu cefnogi'n well

  • rhoi cyfle i feddwl yn wahanol a chwestiynu ffyrdd sefydledig o weithio

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad:

  • bod cyd-gynhyrchu yn cymryd amser ac adnoddau, gan gynnwys amser i adeiladu perthynas o ymddiriedaeth rhwng y bobl dan sylw

  • bod angen i bawb sy'n cymryd rhan fynd ati gyda meddylfryd agored, hyblyg, gan y gall olygu gweithio y tu allan i'r ffordd sefydledig o wneud pethau

  • mae'n bwysig bod yn agored i syniadau newydd, rhannu pŵer a chyfrifoldeb, a bod yn barod i gael eich herio

  • mae gonestrwydd a thryloywder ynghylch disgwyliadau a chyfyngiadau yn hanfodol, a

  • nid darn o waith untro yw cyd-gynhyrchu, ond rhywbeth a fydd yn esblygu