Manteision gweithredu ar newid hinsawdd dan arweiniad y gymuned: Adnodd i gefnogi’r gwaith o ddylunio prosiectau, monitro, dysgu ac adrodd straeon
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r adroddiad hwn yn dangos manteision eang gweithredu hinsawdd ym mywydau bob dydd pobl, gan helpu i ysgogi cefnogaeth a chyfranogiad mewn prosiectau gweithredu hinsawdd lleol.
Mae'n amlinellu'r manteision posibl o weithgareddau gweithredu hinsawdd, a fframwaith ar gyfer mesur y manteision hynny.
Mae'r adroddiad ar gyfer deiliaid grant y Gronfa Gweithredu Hinsawdd (CGH) a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn gweithredu hinsawdd dan arweiniad y gymuned. Gellir ei ddefnyddio mewn penderfyniadau ynghylch dylunio prosiectau, monitro neu werthuso prosiect, neu wrth gyfathrebu manteision posibl i randdeiliaid.
Canfyddiadau
Dangosodd yr ymchwil y gellir grwpio gweithredu hinsawdd dan arweiniad y gymuned i 6 math o weithgareddau:
natur (er enghraifft plannu coed, adfer cynefinoedd)
dŵr, gwastraff a defnydd (er enghraifft, ailgylchu, effeithlonrwydd dŵr)
ynni (er enghraifft, ynni adnewyddadwy cymunedol, mentrau effeithlonrwydd ynni)
trafnidiaeth (er enghraifft, teithio llesol, mentrau rhannu ceir)
ymgysylltu â'r cyhoedd (er enghraifft, eiriolaeth newid hinsawdd, addysg)
bwyd (er enghraifft, rhandiroedd, perllannau cymunedol)
Canfu'r adolygiad o ymchwil fod manteision y gweithgareddau hyn fel arfer yn eistedd o fewn pedwar 4 categori:
amgylcheddol: ansawdd a chadwraeth natur
economaidd: dosbarthiad adnoddau a chyfoeth mewn cymuned
sosioddiwylliannol neu gymunedol: lles cymdeithasol pobl
iechyd: lles corfforol a meddyliol pobl
Mae'r adroddiad yn cynnwys fframwaith ar gyfer mapio gweithgareddau gweithredu hinsawdd i'w manteision posibl mewn cyd-destun cymunedol, a dangosyddion enghreifftiol ar gyfer eu mesur.
Mae'r ymchwil llawn a'r fframwaith manwl ar gael ar Lyfrgell Dystiolaeth y Gronfa.