Mae cysylltiadau yn gwneud cymunedau: Ein rôl mewn ariannu seilwaith lleol
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hon yn archwilio effaith grantiau’r Loteri Genedlaethol ar seilwaith cymunedol, gan gynnwys:
canolfannau cymunedol
neuaddau pentref
busnesau cymunedol
Mae'n canolbwyntio ar 5 prif effaith grantiau seilwaith cymunedol, sef:
darparu swyddi a rhoi hwb i economïau lleol
hwyluso perchnogaeth gymunedol
adeiladu ac adnewyddu mannau a rennir
gwella hygyrchedd
dod â phobl at ei gilydd
Nod y canfyddiadau yw hysbysu cyllidwyr, llunwyr polisi, a sefydliadau sy'n gweithio i gryfhau seilwaith cymunedol.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod bod cefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn bwysig ar gyfer seilwaith cymunedol ledled y DU. Mae'r arian hwn wedi cefnogi adeiladau fel neuaddau pentref a chanolfannau cymunedol, busnesau fel tafarndai a siopau cymunedol, ac asedau sy'n eiddo i'r gymuned fel datblygiadau tai a generaduron pŵer.
Daeth yr ymchwil i'r casgliad:
bod mentrau cymunedol yn gwella ardaloedd lleol, gan ddarparu swyddi a rhoi hwb i economïau lleol
bod perchnogaeth gymunedol yn sicrhau nad yw asedau allweddol yn cael eu colli, gan adeiladu gwydnwch yn wyneb newid economaidd
bod gwella hygyrchedd yn gwneud mannau lleol yn ddefnyddiol i fwy o bobl, gan ddarparu cyfleoedd ac annog rhyngweithio
bod mannau diogel a chroesawgar yn helpu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac adeiladu cysylltiadau cymunedol