Lleisiau o'r pandemig: 6 stori prosiect ar wydnwch, addasu a pharhad ar gyfer cymunedau'r DU
Documents
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. I ofyn am fformat hygyrch cysylltwch â ni.
Cyflwyniad
Mae'r ymchwil hwn yn archwilio profiadau grwpiau cymunedol yn ystod pandemig COVID-19.
Mae'n amlygu sut y daeth cymunedau o hyd i ffyrdd newydd o gynnig cymorth a chysylltiad i'r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu, a sut y gwnaeth sefydliadau a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol gefnogi pobl oedd yn wynebu heriau.
Canfyddiadau
Fe wnaeth yr ymchwil ganfod y canlynol:
fe wnaeth prosiectau cymunedol addasu'n gyflym, gan ddysgu sgiliau a dulliau newydd i fynd i'r afael ag amodau brys
chwaraeodd creadigrwydd ran bwysig ym lles pobl a'u hymdeimlad o gysylltiad
trafododd sefydliadau lleol broblemau fel afiechyd meddwl a thrais domestig, a gafodd eu gwaethygu gan y pandemig
fe wnaeth blaenoriaethu eu pwrpas craidd helpu sefydliadau lleol i gefnogi eu cymunedau a chryfhau perthnasoedd o fewn cymunedau
Ar y cyfan, fe wnaeth y chwe phrosiect a arweiniwyd gan y gymuned helpu pobl oedd yn teimlo'n unig i deimlo bod pobl yn poeni amdanyn nhw, a rhoi hwb i ymwrthedd pobl i ymdopi â'r argyfwng.